Mae gan weithwyr yr hawl i beidio â chael eu diswyddo na’u dewis i gael dileu eu swyddi oherwydd eu rhyw, neu eu statws priodasol neu bartneriaeth sifil.
Efallai bod gennych chi achos o wahaniaethu ar sail rhyw os:
-
Cawsoch eich diswyddo am berfformiad gwael, er na chafodd rhywun o’r rhyw arall a berfformiodd yn wael hefyd ei ddiswyddo
-
Cawsoch eich diswyddo am fod yn hwyr mewn sefyllfa lle na ddiswyddwyd rhywun o’r rhyw arall
-
Yw’r meini prawf a ddefnyddiwyd wrth benderfynu pa swyddi i’w dileu yn rhoi un rhyw dan anfantais arbennig ac ni ellir cyfiawnhau hyn
-
Cawsoch eich diswyddo am na allech chi gydymffurfio â newidiadau a wnaed i’ch oriau gwaith
-
Cawsoch eich diswyddo neu os cafodd eich swydd ei dileu am resymau sy’n ymwneud â beichiogrwydd.
Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn berthnasol i ddynion a menywod ac mae’n ymdrin ag amrywiaeth eang o sefyllfaoedd cyflogaeth, gan gynnwys partneriaethau, gweithwyr contract, cyrff proffesiynol a sefydliadau sy’n dosbarthu cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer crefft neu broffesiwn arbennig.
Os oedd y tâl a gawsoch wrth ddileu eich swydd yn llai na’r tâl a roddwyd i ddyn dan yr un amgylchiadau, efallai bod gennych chi achos o dan y Ddeddf Cyflog Cyfartal hefyd: gweler cyflog cyfartal.