Diswyddo a dileu swydd: Y gyfraith  

 

Diogelir eich hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu oherwydd eich rhyw pan fyddwch chi’n cael eich diswyddo neu’n cael dileu eich swydd gan:

  • Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw
  • Y Ddeddf Hawliau Dynol

On this page

 

Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw

Mae’r Rheoliadau Gweithwyr Rhan-amser yn rhwystro gweithwyr rhan-amser rhag cael eu trin yn llai ffafriol.  Cysylltwch ag ACAS am fwy o gyngor.


Back to top^  

Y Ddeddf Hawliau Dynol

Rhaid dehongli deddfwriaeth y DU yn unol â’r Ddeddf Hawliau Dynol erbyn hyn.  Mae yna ddyletswydd ychwanegol ar awdurdodau cyhoeddus i sicrhau bod eu harferion a’u gweithdrefnau’n cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol, gan gynnwys sut mae eu gweithwyr yn cael eu trin.

Os ydych chi’n gweithio yn y sector breifat, gallech chi ddadlau bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn cryfhau unrhyw achos sydd gennych chi o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw neu’r Ddeddf Cyflog Cyfartal.  Er enghraifft, os ydych chi wedi cael eich diswyddo am dorri polisi cod gwisg cyflogwr, gallai Erthygl 10 (rhyddid mynegiant) fod yn berthnasol. Mae Erthygl 14 o’r Ddeddf Hawliau Dynol yn rhwystro gwahaniaethu yn y ffordd y cymhwysir hawliau eraill.  Ar y llaw arall, ni fyddai’n gywir i dybio na fyddai unrhyw gyfyngiadau gwisg yn cael eu caniatáu o dan y Ddeddf Hawliau Dynol.


Back to top^