View this page in English
Y cynllun
Fel corff cyhoeddus, mae deddfwriaeth cydraddoldeb yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gydymffurfio gyda’r tair dyletswydd i hyrwyddo cydraddoldeb ym maes anabledd, rhyw a hil. Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys y gofyniad i ddatblygu a rhoi cynlluniau cydraddoldeb ar waith yn egluro’r hyn a wnawn i hyrwyddo cydraddoldeb anabledd, rhyw a hil.
Roeddem am fynd tu hwnt i’n cyfrifoldebau cyfreithiol a chreu cynllun cydraddoldeb unigol sy’n cynnwys yr holl feysydd cydraddoldeb sy’n rhan o’n cylch gwaith. Yn ogystal ag anabledd, rhyw a hil, mae ein cynllun felly yn ymdrin ag oed, crefydd neu gredo a chyfeiriadedd rhywiol. Rydym yn credu y dylem geisio cynnal yr un safonau uchel ym mhopeth a wnawn.
Mae’r cynllun yn cynnwys gwybodaeth am sut rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn, wrth recriwtio a chyflogi staff ac wrth gyflawni’n gwasanaethau a’n gweithgareddau cyhoeddus. Yr hyn sy’n unigryw yw mai gwaith craidd y Comisiwn yw cydraddoldeb a hawliau dynol. Felly ni ddylai sefydliadau eraill sydd â chylchoedd gwaith gwahanol ddilyn model y cynllun hwn yn ei gyfanrwydd.
Cyhoeddwyd y cynllun ar 1 Ebrill 2008 ac mae’n cyd-fynd â’n gwaith cynllunio a busnes strategol. Fe allwch lawrlwytho copi o’n cynllun cydraddoldeb isod.
2008/9 Cynllun Cydraddoldeb (PDF 880kb)
2008/9 Cynllun Cydraddoldeb (Word 538kb)
Os ydych eisiau gopi printiedig o’r cynllun neu fformat gwahanol, a wnewch chi gysylltu a’n llinell gymorth trwy ddefnyddio’r rhifau a ddarparwyd isod.
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2008/9
Dyma’r prif flaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn y cynllun hwn:
- Sicrhau bod ein hadeiladau a’n harferion gweithio’n hygyrch i bawb.
- Sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch.
- Ymgynghori a chynnwys rhwydweithiau cynrychiadol sy’n cwmpasu pob maes cydraddoldeb i helpu i lywio ein gweithgareddau yn y dyfodol.
- Monitro effeithiolrwydd ein gwasanaethau llinell gymorth er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd pob grŵp a bod pobl yn fodlon â’n gwasanaeth.
- Rhoi blaenoriaeth i achosion cyfreithiol mewn meysydd cydraddoldeb newydd er mwyn datblygu cyfraith achosion.
- Mynd i’r afael â bylchau yn ein cronfa wybodaeth gan gynnwys bylchau cyflog ym mhob grŵp cydraddoldeb.
- Sefydlu systemau monitro a dadansoddi ar gyfer ein staff ym mhob maes cydraddoldeb.
- Creu polisi cyflog cyfartal a chynnal archwiliad cyflog cyfartal.
- Hyfforddi staff ar asesiadau effaith ar gydraddoldeb, y dyletswyddau cydraddoldeb cyffredinol a’r goblygiadau ar eu gwaith.
- Gwirio bod ein proses grantiau’n mynd i’r afael â phob maes cydraddoldeb ac yn targedu meysydd oedd gynt yn brin o arian.
- Sicrhau bod contractwyr sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau i ni’n bodloni meini prawf caffael ar gyfer pob maes cydraddoldeb.
- Sefydlu strategaeth gynnwys sy’n cynnwys pob grŵp o bobl er mwyn datblygu ein cynllun cydraddoldeb nesaf.
Rhoi’ch sylwadau i ni
O Ebrill 2008 byddwn yn holi barn pobl am y cynllun hwn, er mwyn llywio’n cynllun cydraddoldeb tair blynedd terfynol a gyhoeddir ym mis Ebrill 2009. Y gobaith yw y bydd unigolion, awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, a chwmnïau sector preifat yn cymryd rhan. Bydd gwybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud ar y wefan, ond mae croeso i chi anfon e-bost i equalityscheme@equalityhumanrights.com yn y cyfamser neu ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Gallwch hefyd gofrestru i ddefnyddio dolen RSS y Comisiwn, er mwyn gweld y datblygiadau diweddaraf, a chynllun y flwyddyn nesaf.
Beth rydych wedi’i ddweud wrthym hyd yma
Ym mis Ionawr a Chwefror 2008 gwnaethom gysylltu â sefydliadau amrywiol a’n staff ynglŷn â’n cynllun cydraddoldeb arfaethedig. Gofynnwyd pa ganlyniadau y dylem geisio eu cael a pha gamau sydd angen i ni eu cymryd i’w cyflawni. Rhoddwyd holiadur ar-lein, a chynhaliwyd digwyddiadau i staff a rhanddeiliaid ledled y DU. Mae crynodeb o’r hyn a ddwedwyd isod, ac mae mwy o wybodaeth yn y ddogfen cynllun cydraddoldeb.
Pwy wnaeth ymateb
Cawsom ymatebion i’n holiadur gan 103 o staff a 74 o sefydliadau, yn dweud pa gamau a chanlyniadau maen nhw am i ni’u cyflawni. Roedd hyn yn cynnwys grŵp staff anabl y Comisiwn.
Cynhaliwyd digwyddiadau staff yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd, Birmingham, Glasgow, Llundain a Manceinion. Mynychodd dros 60 o staff y digwyddiadau hyn a chyhoeddwyd adborth ar ein mewnrwyd staff.
Gwahoddwyd sefydliadau oedd â diddordeb arbennig yn ein gwaith i fynychu digwyddiadau yng Nghaerdydd, Glasgow, Llundain a Manceinion, a gwnaethom ysgrifennu at 230 o sefydliadau eraill i’w hysbysu am ein gwaith. Anfonodd 78 o sefydliadau gynrychiolwyr i’r digwyddiadau ac mae adroddiadau cryno amdanynt isod.
Sut rydym wedi defnyddio’ch ymatebion
Rydym wedi dadansoddi’r holl ymatebion a ddaeth i law a’u defnyddio i lywio’r cynllun cydraddoldeb a’i gynllun gweithredu, neu ein cynllun busnes os oedd hynny’n fwy perthnasol. Rydym wedi ceisio cynnwys cymaint â phosibl o’ch ymatebion a bydd llawer ohonynt yn sail i’r drafodaeth yn ystod y flwyddyn nesaf ar ein cynllun cydraddoldeb nesaf.
Mae crynodeb o’r holl ymatebion ymgynghori i’w cael yma cyn bo hir.
Cyswllt
Am fwy o wybodaeth am y cynllun, neu os hoffech roi’ch sylwadau arno, anfonwch e-bost i equalityscheme@equalityhumanrights.com neu anfonwch lythyr i:
Tîm Cynllun Cydraddoldeb/Equality Scheme Team
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol/CEHR
Arndale House
Arndale Centre
Manceinion M4 3AQ
Ffôn: 020 3117 0235
Ffacs: 01925 884 275
Gallwch hefyd ein ffonio ar y llinellau cymorth canlynol:
Lloegr
Ffôn: 0845 604 6610
Ffôn testun: 0845 604 6620
Ffacs: 0845 604 6630
Yr Alban
Ffôn: 0845 604 5510
Ffôn testun: 0845 604 5520
Ffacs: 0845 604 5530
Cymru
Ffôn: 0845 604 8810
Ffôn testun: 0845 604 8820
Ffacs: 0845 604 8830