Gwahaniaethu ar sail anabledd 

 

English Language Version : Disability discrimination 

 

 

 

Os ydych chi’n anabl, neu wedi bod ag anabledd, mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DGSA) yn ei gwneud yn anghyfreithlon i rywun wahaniaethu yn eich erbyn ym maes:

  • cyflogaeth
  • sefydliadau masnach a chyrff cymwysterau;
  • mynediad i nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau;
  • rheoli, prynu neu rentu tir neu eiddo; ac
  • addysg.

Mae yna reoliadau dan y Ddeddf hefyd sy’n ymdrin â bysiau a threnau gan amlinellu safonau mynediad ar gyfer y cerbydau hynny i gynorthwyo pobl sydd â phroblemau symud, nam ar y synhwyrau ac anableddau dysgu. 

Pasiwyd y DGSA ym 1995 i gyflwyno mesurau newydd gyda’r nod o roi diwedd ar y gwahaniaethu y mae llawer o bobl anabl yn ei wynebu yn eu bywyd bob dydd. Gwnaeth DGSA 2005 newidiadau pwysig i gwmpas y ddeddfwriaeth wreiddiol, gan gynnwys creu dyletswydd gyfreithiol i awdurdodau cyhoeddus hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl yn ymarferol. Am fwy o wybodaeth am y ddyletswydd darllenwch y Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl.

Gyda’i gilydd, mae’r ddeddfwriaeth yn darparu hawliau i bobl anabl ac yn rhoi dyletswyddau ar y rhai sy’n darparu gwasanaethau, addysg a chyflogaeth. Mae hefyd yn annog cyflogwyr a gweithwyr cyflogedig i gydweithio i roi’r gorau i arferion cyflogaeth anhyblyg, gweld pa addasiadau a chefnogaeth all fod eu hangen, a chanfod ffyrdd hyblyg o weithio a all fod o fudd i’r gweithlu cyfan.

Mae’r Ddeddf ar wahaniaethu ar sail anabledd yn diffinio gwahaniaethu mewn nifer o ffyrdd ac mae’n amlinellu pedwar math penodol o wahaniaethu: gwahaniaethu uniongyrchiol, methiant i wneud addasiad rhesymol, gwahaniaethu ar sail anabledd ac erledigaeth.

On this page

 

Gwahaniaethu uniongyrchol

Mae hyn yn digwydd pan fo:

  •  unigolyn anabl yn cael ei drin yn llai ffafriol na rhywun arall y mae ei amgylchiadau a’i alluoedd yn debyg; 
  •  a hynny am reswm sy’n gysylltiedig ag anabledd yr unigolyn.

Enghraifft

Nid yw menyw ddall yn cael ei rhoi ar restr fer ar gyfer swydd sy’n ymwneud â chyfrifiaduron am fod y cyflogwr yn tybio’n anghywir na all pobl ddall eu defnyddio. Nid yw’r cyflogwr yn gwneud unrhyw ymdrech i edrych ar amgylchiadau’r fenyw. Mae’r cyflogwr wedi trin y fenyw yn llai ffafriol na phobl eraill trwy beidio â’i rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y swydd. Anabledd y fenyw oedd y sail i’r driniaeth (oherwydd na fyddai tybiaethau o’r fath wedi’u gwneud ynglŷn ag unigolyn nad yw’n anabl) ac mae’n debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol.

Pe byddai unigolyn arall, heb yr anabledd arbennig, wedi’i drin yn yr un ffordd â’r unigolyn â’r anabledd, yna ni fyddai’n debygol bod gwahaniaethu uniongyrchol wedi digwydd.

Ni ellir cyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol.


Back to top^  

Methu â gwneud addasiadau rhesymol

Mae gan gyflogwr, darparwr addysg neu ddarparwr gwasanaethau ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol lle mae darpariaeth, maen prawf neu arfer, neu unrhyw nodwedd ffisegol eiddo sydd yn eu meddiant, yn rhoi unigolyn anabl dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl. Rhaid iddyn nhw gymryd camau rhesymol i osgoi’r anfantais honno. Nid yw’n bosibl iddyn nhw gyfiawnhau peidio â gwneud addasiadau sy’n rhesymol.


Back to top^  

Gwahaniaethu sy’n gysylltiedig ag anabledd

Mae’r math hwn o wahaniaethu yn cyfeirio at driniaeth o unigolyn anabl:

  • sy’n anghyfreithlon am fod y rheswm amdano yn gysylltiedig ag anabledd;
  •  sy’n llai ffafriol na’r ffordd y mae eraill, nad yw’r rheswm hwnnw’n berthnasol iddynt, yn cael eu trin; ac
  • na all y cyflogwr ddangos y gellir cyfiawnhau’r driniaeth


Back to top^  

Erledigaeth

 Mae’r DGSA yn gwahardd erledigaeth. Mae’n dweud na ddylid trin unigolyn yn llai ffafriol am ei fod wedi neu’n debygol o wneud un o’r rhain:

  •  dwyn achos cyfreithiol o dan y DGSA (ee mewn tribiwnlys cyflogaeth neu gorff arall), neu roi tystiolaeth mewn achos o’r fath;
  • gwneud rhywbeth arall sy’n gysylltiedig ag achos o’r fath neu gefnogi’r unigolyn sy’n dwyn yr achos; neu
  • honni bod rhywun wedi gweithredu’n groes i’r DGSA.

 Hyd yn oed os yw rhywun yn gollwng achos, ni ellir trin neb yn llai ffafriol o ganlyniad.

 Os yw unigolyn wedi gwneud honiad ffug gan wybod nad yw’n wir, yna nid yw’n anghyfreithlon i’w drin yn llai ffafriol.

 Dim ond mewn cysylltiad ag erledigaeth y mae’r DGSA yn cwmpasu rhywun nad yw’n  anabl – er enghraifft os yw’n rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad neu yn cefnogi rhywun sy’n dwyn achos.


Back to top^  

Pryd ellir cyfiawnhau gwahaniaethu?

Mae yna rai sefyllfaoedd lle gellir cyfiawnhau gwahaniaethu o dan y DGSA. Y rheswm am hyn yw mai dim ond mewn achosion sy’n cynnwys triniaeth lai ffafriol am reswm sy’n gysylltiedig ag anabledd y gellir cyfiawnhau gwahaniaethu. Nid yw’n bosibl ei gyfiawnhau mewn achosion o wahaniaethu uniongyrchol, methu â gwneud addasiadau rhesymol neu erledigaeth.

Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod yn rhaid cadw addasiadau rhesymol mewn cof wrth ystyried a ellir cyfiawnhau triniaeth lai ffafriol am reswm sy’n gysylltiedig ag anabledd. Pe byddai addasiad rhesymol wedi gwneud gwahaniaeth, yna ni ellid cyfiawnhau’r driniaeth lai ffafriol a byddai’n anghyfreithlon.

Os nad yw’n bosibl gwneud addasiad rhesymol, neu os na fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’r canlyniad, yna gellir cyfiawnhau triniaeth lai ffafriol am reswm sy’n gysylltiedig ag anabledd, os oedd y rheswm am y driniaeth yn berthnasol a sylweddol.

Mae ‘perthnasol’ yn golygu bod rhaid bod cysylltiad cryf rhwng y rheswm a roddwyd am y driniaeth ac amgylchiadau’r achos arbennig.

Mae ‘sylweddol’ yn golygu bod yn rhaid i’r rheswm fod yn wirioneddol bwysig a sylweddol.

 

Enghraifft

Mae dyn sydd â phoen cefn difrifol ac yn methu â phlygu yn cael ei wrthod am swydd yn gosod carpedi gan na all gyflawni gofyniad hanfodol y swydd, sef gosod carpedi. Byddai hyn yn gyfreithlon am fod y rheswm dros ei wrthod yn un sylweddol ac yn amlwg yn berthnasol i’r amgylchiadau.


Back to top^  

Aflonyddu

Yn ogystal â’r pedwar math o wahaniaethu yn y DGSA mae hefyd yn anghyfreithlon i aflonyddu ar unigolyn anabl.

Mae aflonyddu’n digwydd pan fo unigolyn yn ymddwyn mewn ffordd ddigroeso am reswm sy’n gysylltiedig ag anabledd unigolyn, gan achosi neu gael yr effaith o:

  •  droseddu ar urddas yr unigolyn anabl; neu
  • greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu atgas iddo neu iddi.

Os mai bwriad yr ymddygiad yw creu unrhyw un o’r effeithiau hyn, yna mae aflonyddu wedi digwydd. Os na fwriadwyd i’r ymddygiad aflonyddu, yna dim ond os yw’r weithred yn rhesymol debygol o greu’r effeithiau uchod y caiff ei hystyried yn aflonyddu. Dylid ystyried canfyddiad yr unigolyn anabl wrth benderfynu a oes aflonyddu wedi digwydd.

 

Dulliau cyflogwyr o ymdrin ag aflonyddu

Mae’n anghyfreithlon i’ch cyflogwr aflonyddu arnoch am reswm sy’n gysylltiedig â’ch anabledd [LINK to Aflonyddu section above]. Mae gan sawl sefydliad bolisïau gwrth-aflonyddu mewnol. Os oes un o’r polisïau hyn gan eich sefydliad chi, dyma fyddai’r ffordd gyntaf i chi fynd i’r afael ag aflonyddu yn y gwaith. Os nad oes gan eich sefydliad chi bolisi neu os nad yw ei weithdrefnau yn ymdrin â’r sefyllfa’n dda iawn, yna mae gennych chi’r hawl i fynd â’ch achos ymhellach.

 


Back to top^