Yn y gweithle - Gwneud addasiadau rhesymol
English Language Version : At work: Making reasonable adjustments
P’un a ydych chi’n datblygu anabledd neu gyflwr iechyd tra yn y gwaith, yn anabl neu â chyflwr iechyd o’r cychwyn, neu’n gweld bod eich iechyd neu’ch anabledd chi’n newid, mae’n bwysig gwybod beth all wneud gwahaniaeth er mwyn i chi gadw’ch swydd, cael dyrchafiad neu’ch cynorthwyo chi i dderbyn swyddogaeth newydd.
Os nad ydych chi eisoes wedi cael ‘addasiadau rhesymol’ yn y gwaith, efallai y bydd angen newid y cymorth sydd ar gael arnoch chi i’ch cynorthwyo chi i gyflawni’r swydd yn dda, ennill sgiliau newydd neu os cewch chi swydd newydd. Weithiau ni fydd angen newidiadau arbennig i ddechrau, ond gall newid os:
-
bydd eich swydd chi’n newid;
-
bydd eich tasgau chi’n newid;
-
bydd eich iechyd neu’ch anabledd chi’n newid;
-
gallai technoleg neu offer newydd fod o les i chi;
-
bydd eich cyflogwr yn symud i safle arall;
-
byddwch chi’n newid yr ardal rydych chi’n gweithio ynddi; neu
-
bod systemau, polisïau neu weithdrefnau newydd yn cael eu cyflwyno.
Darllenwch am mynediad i waith.
On this page
Pryd i ofyn i’ch cyflogwr am gymorth
Mae’n bwysig dechrau’r broses o gael cymorth cyn gynted â phosibl rhag i unrhyw beth effeithio ar eich gwaith neu rhag i’ch cyflwr waethygu am nad oes gennych chi’r gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer eich anabledd/iechyd.
Mae gan eich cyflogwr gyfrifoldeb cyfreithiol i’ch cynorthwyo chi, ond ni fydd yn gallu cynorthwyo os nad yw’n gwybod bod angen gwneud hynny. Gallwch chi siarad â’ch rheolwr llinell neu rywun yn eich tîm iechyd galwedigaethol, neu adnoddau dynol neu adran lles gweithwyr cyflogedig. Gallwch chi hefyd drafod y mater yn eich arfarniad neu yn ystod adolygiad iechyd a diogelwch.
Back to top^
Sut i nodi addasiad rhesymol
Gall canfod ‘addasiad rhesymol’ fod yn broses greadigol gan na fydd yr un ateb yn addas i bawb. Efallai mai chi yw’r arbenigwr gorau o safbwynt eich cyflwr chi (oni bai eich bod newydd ddatblygu’r cyflwr) felly, ynghyd â gwybodaeth eich cyflogwr am y swydd ac efallai rhywfaint o gyngor arbenigol, yn aml iawn gellir dod o hyd i ateb syml iawn ond creadigol.
Wrth siarad â’ch cyflogwr, gall fod o gymorth os ydych chi wedi edrych ar atebion posibl yn ogystal â phroblemau.
Bydd angen i chi nodi beth sy’n achosi’r drafferth i chi.
-
Ai eich amgylchedd ffisegol, eich cadair, y golau?
-
Ai eich gallu i wneud rhan o’r swydd oherwydd eich nam?
-
Ai gorfod symud offer?
-
Ai cymryd rhan mewn hyfforddiant/cyfarfodydd, efallai oherwydd materion sy’n ymwneud â chyfathrebu?
-
A oes gennych chi ormod i’w wneud ac os felly a yw’n achosi straen a gorbryder i chi?
Weithiau mae atebion yn hawdd ac weithiau maen nhw’n fwy cymhleth. O bryd i’w gilydd efallai na fydd yna ateb, ond rhywbeth prin yw hyn ac o dan y fath amgylchiadau, efallai y gall fod yn opsiwn, i symud i swyddogaeth wahanol.
Back to top^
Beth yw’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol?
Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn gyfrifoldeb cyfreithiol o dan y DGSA. Mae’n berthnasol i bobl megis cyflogwyr, darparwyr gwasanaethau a darparwyr addysg, a’i nod yw gwneud yn siŵr nad yw pobl anabl yn wynebu anawsterau sylweddol ym maes cyflogaeth, addysg neu wrth ddefnyddio gwasanaethau. Fe all fod yn fath o wahaniaethu i fethu â gwneud addasiadau rhesymol ac mae’n anghyfreithlon.
Mae’r DGSA yn diffinio addasiad rhesymol fel cam rhesymol a gymerir i atal unigolyn anabl rhag wynebu anfantais sylweddol o gymharu â phobl nad ydyn nhw’n anabl. Yn achos cyflogwyr, er enghraifft, mae’r ddyletswydd yn berthnasol i unrhyw anfantais sy’n cael ei hachosi gan ddarpariaeth, maen prawf neu arfer a defnyddir gan y cyflogwr neu ar ei ran, neu unrhyw nodwedd ffisegol eiddo sydd ym meddiant y cyflogwr.
‘Anfantais sylweddol’ yw un nad yw’n ‘fân’ neu ‘ddibwys’.
Mae’r term ‘darpariaeth, maen prawf ac arfer’ yn cwmpasu polisïau’r cyflogwr ar gynnig gwaith, telerau ac amodau, rheoli a diswyddo staff, a’r ffordd y mae’r rhain yn cael eu cyflawni.
Back to top^
Beth yw addasiad?
Mae addasiad, yng nghyd-destun y DGSA, yn golygu newid. Gall hwn fod yn newid ffisegol neu newid yn y ffordd y mae rhywbeth yn cael ei gyflawni.
Rydyn ni i gyd yn hoff o wneud pethau mewn gwahanol ffyrdd, a bydd yr hoff bethau a’r cas bethau hyn yn seiliedig ar amrywiaeth eang o ffactorau. Er enghraifft, os â pump o bobl allan i brynu tegell i’r gegin, mae’n debygol y dôn nhw’n ôl â phum gwahanol degell.
Eu hanghenion a’u dyheadau a’u hamgylchiadau arbennig sy’n llywio dewis unigolion. Efallai y bydd unigolyn hŷn ag arthritis sy’n byw ar ei ben ei hun yn prynu tegell gwahanol iawn i rywun sy’n byw ar aelwyd fawr gyda thri o blant ifanc. Mewn un ystyr rydyn ni i gyd yn gwneud ‘addasiadau’ mewn ymateb i’n hanghenion unigol wrth i ni wneud dewis.
Dewis sy’n penderfynu beth wnawn ni a sut. Os oes gennym ni nam, efallai y byddwn ni’n dewis gwneud pethau mewn ffordd wahanol er mwyn lleihau effaith y nam hwnnw.
Enghraifft
Menyw 47 oed sydd ag arthritis yn datblygu yn ei dwylo yw Frieda. Mae’n gweithio fel derbynnydd mewn meddygfa. Pan ddechreuodd y cyflwr bum mlynedd yn ôl, roedd yn gweld bod ysgrifennu gyda phin ysgrifennu arferol yn mynd yn fwy ac yn fwy poenus. Archebodd ei rheolwr biniau ysgrifennu ‘gludiog’ iddi gyda baril mwy o faint, ac roedd Frieda yn eu cael yn ddefnyddiol. Wrth i’w chyflwr ddatblygu, newidiodd y rheolwr y ffôn am fodel heb fotymau mân. Yn nes ymlaen newidiodd y rheolwr y ffordd yr oedd y gwaith yn cael ei ddyrannu, fel bod cynorthwyydd derbynfa yn tynnu holl ffeiliau’r cleifion allan ar ddechrau’r sesiwn ac yn eu hail-ffeilio ar y diwedd am nad oedd Frieda yn gallu gwneud hyn bellach.
Roedd yr addasiadau hyn yn golygu bod Frieda yn gallu parhau i fod yn rhan effeithiol o’r tîm ac yn gallu cadw’r gwaith roedd hi wedi’i wneud yn gampus am 15 mlynedd. Mae Frieda yn glir nad yw hi am i’r arthritis ei hatal rhag ‘gwneud unrhyw beth y mae am ei wneud’, ond mae hi’n glir hefyd nad yw am iddo gael effaith negyddol ar unrhyw un arall. Mae’n dweud y bydd yn gadael ei gwaith yn hytrach na gadael i’w chydweithwyr ‘ei chario’, ac yn teimlo bod y newidiadau gafodd eu gwneud wedi sicrhau nad yw hyn yn digwydd.
Back to top^
Beth yw ystyr ‘rhesymol’?
Nid yw’r DGSA yn diffinio ‘rhesymol’, nac yn rhoi rhestr gyflawn o beth all addasiadau rhesymol fod. Yn y pen draw y llysoedd sydd i benderfynu. Y rheswm am hyn yw bod addasiad yn gysylltiedig ag unigolion arbennig, eu profiad o’u nam a’r sefyllfa y maen nhw ynddi. Fodd bynnag, mae’n amlinellu pedwar prawf ar gyfer beth sy’n rhesymol.
1. Pa mor effeithiol ydyw er mwyn atal anfantais
I ba raddau y bydd addasiad rhesymol yn lleihau’r anfantais? Po fwyaf effeithiol yw addasiad er mwyn lleihau anfantais, y mwyaf rhesymol y mae’n debygol o fod.
Enghraifft
Mae gan Maria nam ar ei golwg ac mae hi’n gweithio fel derbynnydd mewn adran gwasanaethau cymdeithasol. Bob mis mae hi’n mynychu cyfarfod adran mewn ystafell wahanol i’r un lle mae’n gweithio fel arfer. Mae cofnodion y cyfarfod fel arfer yn cael eu hargraffu mewn teip 12 pwynt, ac nid yw Maria yn gallu eu darllen heb y cymhorthion chwyddo sydd ar ei desg. Mae’r ysgrifenyddes yn argraffu’r cofnodion i Maria mewn teip 36 pwynt, ac mae hithau’n gallu eu darllen yn yr ystafell gyfarfod gan ddefnyddio’i sbectol yn unig. Mae’r addasiad hwn yn effeithiol iawn i atal yr anfantais a fyddai’n digwydd fel arall.
2. Pa mor ymarferol yw’r cam
Mae’n fwy tebygol y bydd disgwyl i gyflogwr gymryd cam sy’n hawdd yn hytrach nag un sy’n anodd.
Os gellir cael gwared ar anfantais yn hawdd trwy newid y ffordd y mae pethau’n cael eu cyflawni, neu’r offer sy’n cael ei ddefnyddio, yna, mae’r addasiad yn debygol o gael ei ystyried yn rhesymol.
Enghraifft
Mae gan Claire anabledd dysgu ac yn methu â darllen. Mae’n gweithio fel glanhawraig mewn cartref preswyl i bobl hŷn. Yn ystod ei hyfforddiant ymsefydlu, daeth yn amlwg ei bod hi’n ei chael yn anodd dweud pa ddeunydd glanhau oedd p’un. Lluniodd ei goruchwylydd system o farcio’r poteli gyda gwahanol liwiau a phrynu clytiau glanhau yn yr un lliwiau.
Roedd Claire yn gwybod y dylai ddefnyddio’r botel â’r smotyn melyn a’r clwt melyn i lanhau’r toiled, y botel â’r smotyn pinc a’r clwt pinc ar gyfer y dodrefn ac yn y blaen. Roedd hwn yn ddull effeithiol i Claire ac yn gam hawdd i’r cyflogwr ei gymryd. Mae Claire wedi magu hyder ac mae’n cael ei gwerthfawrogi yn y gwaith am y tro cyntaf. Mae’n trafod unrhyw beth sy’n aneglur iddi ac nid oes yn rhaid iddi ‘guddio’i phroblemau’ fel yr oedd yn ei wneud yn ei swydd ddiwethaf rhag ofn y byddai pobl yn gwneud hwyl am ei phen.
3. Costau ariannol a chostau eraill a graddau’r aflonyddwch a achosir
Wrth geisio penderfynu a fyddai addasiad yn rhesymol, dylid hefyd ystyried cost yr addasiad ac unrhyw aflonyddwch y gall ei achosi.
Nid mater o bris addasiadau ffisegol yn unig yw cost. Mae hefyd yn ymwneud â:
-
pha mor brofiadol a medrus yw’r gweithiwr cyflogedig dan sylw;
-
cost penodi rhywun yn lle’r gweithiwr cyflogedig hwnnw;
-
pa mor hir y mae’r gweithiwr cyflogedig wedi bod gyda’r cwmni (mae’n fwy tebygol o fod yn rhesymol i wneud addasiad drud ar gyfer aelod parhaol o staff nag ar gyfer un dros dro); ac
-
a fydd yr addasiad o fantais i weithwyr cyflogedig eraill o bosibl (anabl neu beidio).
Enghraifft
Mae William yn ddrafftsmon medrus iawn sy’n dylunio mannau cyhoeddus mewn adeiladau swyddfa newydd. Roedd wedi bod yn gweithio i’w gwmni ers 10 mlynedd pan gafodd ddamwain wrth ddringo a’i gadawodd ag anabledd difrifol, ac yn methu â gweithio am 18 mis.
Ar ôl 18 mis, aeth yn ôl i’r gwaith yn rhan-amser. Gyda chefnogaeth tîm Mynediad i Waith a darparwr Cam at Waith, canfu’r cwmni ffyrdd gwahanol i William wneud ei waith a darparodd galedwedd a meddalwedd cyfrifiadurol gwell, hyfforddiant a chymorth teithio i’r gwaith. Costiodd y pecyn cyfan dros £20,000, a thalodd y Tîm Mynediad i Waith y rhan fwyaf ohono.
O ganlyniad i’r profiad, defnyddiodd y cwmni ei wybodaeth am fynediad i bobl anabl yn ei ddyluniadau newydd, gan roi mantais iddynt dros eu cystadleuwyr.
4. Graddau adnoddau ariannol ac adnoddau eraill y sefydliad
Byddai sefydliad ariannog yn fwy tebygol o orfod gwneud addasiad rhesymol nag un gyda llai o adnoddau.
Ar y llaw arall, mae cymorth ariannol ar gael gan gynlluniau’r llywodraeth megis Mynediad i Waith, i gynorthwyo i ddarparu addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr cyflogedig. Rhaid ystyried y cronfeydd hyn wrth benderfynu pa mor ‘ariannol resymol’ yw’r addasiad.
Rhaid ystyried adnoddau ariannol llawn sefydliad, nid dim ond rhai’r safle penodol lle mae’r gweithiwr cyflogedig neu’r gwasanaeth wedi’i leoli. Er enghraifft, byddai’n rhaid i gadwyn fanwerthu fawr feddwl am ei chyllidebau’n gyffredinol, nid rhai un siop yn unig.
Back to top^
Meysydd eraill i’w hystyried wrth benderfynu beth sy’n rhesymol
Er nad yw’r DGSA yn benodol yn crybwyll unrhyw ffactorau pellach, gall rhai eraill fod yn berthnasol gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
-
Effaith ar weithwyr cyflogedig eraill: os gall addasiad rhesymol effeithio ar weithwyr cyflogedig eraill, mae angen ystyried eu hanghenion nhw o bosibl. Er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio meddalwedd sy’n siarad, efallai y bydd rhaid i chi wisgo clustffonau er mwyn peidio ag aflonyddu ar aelodau eraill o staff.
-
Addasiadau a wneir ar gyfer bobl anabl eraill: os oes nifer o staff anabl sy’n gweld bod rhyw agwedd ar yr amgylchedd gwaith yn anodd, yna mae mwy fyth o angen i’r cyflogwr wneud newid sylweddol.
-
I ba raddau ydych chi’n barod i gydweithredu: os yw darparwr gwasanaeth yn cynnig addasiad rhesymol i chi i leihau’r effaith andwyol arnoch chi, ond nad yw’r addasiad ddim yn eich plesio, nid oes angen i’r darparwr gwasanaethau wneud dim mwy (os yw’r addasiad yn annheg, yna nid yw hyn yn berthnasol).
Nid yw’r rhan fwyaf o addasiadau ar gyfer pobl anabl yn costio dim. O ran y rhai sydd yn costio, mae cymorth ar gael yn aml trwy Mynediad i Waith ac ym maes addysg trwy eich awdurdod addysg lleol neu sefydliadau cyllido addysg bellach/uwch.
Nid yw’n costio dim i drin rhywun yn deg a chydag urddas; nid yw braidd byth yn achosi anghyfleustra i eraill; ac mae newidiadau ar gyfer pobl anabl yn gwneud pethau’n well i weithwyr cyflogedig, myfyrwyr neu ddefnyddwyr gwasanaethau eraill yn aml.
Back to top^
Beth yw ‘nodwedd ffisegol’?
Diffinnir nodweddion ffisegol fel unrhyw rai o’r canlynol:
-
nodweddion dylunio neu adeiladu;
-
nodweddion ar y ffordd i mewn neu allan o adeilad;
-
unrhyw osodion, ffitiadau, dodrefn, celfi, offer neu ddeunyddiau yn yr eiddo neu arno; neu
-
unrhyw elfen arall o’r tir y mae’r eiddo yn rhan ohono.
Gallan nhw fod yn barhaol neu dros dro. Mae enghreifftiau’n cynnwys stepiau, grisiau, cyrbau, arwynebau allanol a phalmantau, seddau mewn ardaloedd awyr agored, mannau parcio, camfeydd a llwybrau mewn parciau gwledig, mynedfeydd ac allanfeydd adeiladau (gan gynnwys llwybrau dianc mewn argyfwng) drysau mewnol ac allanol, gatiau, toiledau a chyfleusterau ymolchi, golau ac awyru, lifftiau a grisiau symudol, gorchudd lloriau, arwyddion, dodrefn ac eitemau symudol. Nid yw’r rhestr hon yn gwbl gyflawn.
Rhaid i gyflogwyr, darparwyr addysg a darparwyr gwasanaethau ystyried gwneud addasiad rhesymol i’w heiddo os oes unrhyw rannau ohono yn achosi anfantais sylweddol i unigolyn anabl.
Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd gan y landlord, cyn y gellir gwneud rhai newidiadau.
Back to top^