Gadael gwaith 

 

English Language Version : Leaving work 

 

Fe ddaw’r amser pan mae’n bryd i chi symud o swydd neu gwmni. Gall fod awydd newid arnoch chi, neu efallai eich bod chi am gymryd cam i fyny - neu i lawr. Weithiau, gall y cyflogwr achub y blaen i’ch annog neu wneud i chi adael. Mae’r gyfraith yn darparu diogelwch i bobl sy’n gadael gwaith am fod swydd yn cael ei dileu neu oherwydd diswyddiad.

On this page

 

Disgyblu, gallu a diswyddo

Os ydych chi’n wynebu’r posibilrwydd o gamau disgyblu, mae’n bwysig bod eich cyflogwr yn sefydlu na wneir hynny am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig â’ch anabledd.

Nid yw camau disgyblu yn debygol o fod yn gwahaniaethu os cânt eu cymryd ar sail nad yw’n gysylltiedig â’ch anabledd, neu os na fyddent wedi newid pe byddai addasiadau rhesymol wedi’u gwneud. Dylai’ch cyflogwr sefydlu yn gynnar iawn a yw anabledd yn berthnasol mewn unrhyw ffordd.

Dylai eich cyflogwr ddal i wneud unrhyw addasiadau rhesymol angenrheidiol ar gyfer y camau a’r cyfarfodydd disgyblu.

Os ydych chi’n cael eich diswyddo ar sail gallu, dim ond ar ôl trafodaeth ofalus, cyngor arbenigol ac ymchwilio i bob addasiad rhesymol posibl y dylid gwneud hyn. Gall fod yn fwy priodol i gynnig symud unigolyn anabl i swyddogaeth wahanol yn hytrach na’i ddiswyddo ar sail gallu.


Back to top^  

Dileu swydd

Yn gyffredinol dylai eich cyflogwr ddefnyddio’r un gweithdrefnau dileu swydd ar eich cyfer chi ag a ddefnyddir ar gyfer unrhyw weithwyr cyflogedig nad ydyn nhw’n anabl.  Fodd bynnag, mae dau faes lle mae angen i’ch cyflogwr fod yn ofalus nad yw’n gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl a’r rhai â chyflyrau iechyd.

Y cyntaf yw sefydlu’r gronfa o bobl ar gyfer dileu swydd. Gallai meini prawf dethol (megis hyd gwasanaeth, ‘olaf i mewn, cyntaf allan’, rhyw fath o fesur sgiliau, cymwysterau, tueddfryd neu berfformiad, neu gofnodion presenoldeb neu ddisgyblu) o bosibl wahaniaethu yn erbyn unigolyn anabl. Er enghraifft, efallai y bydd cyflogwr yn gofyn i reolwyr asesu gweithiwyr cyflogedig yn erbyn meini prawf dethol a ddewisir, megis presenoldeb, ac fe allent wneud asesiadau negyddol o’u gweithwyr cyflogedig anabl ar sail rhagdybiaethau gwallus - er enghraifft y ffaith eu bod yn cymryd mwy o amser i ffwrdd na’r cyfartaledd oherwydd apwyntiadau ysbyty.

Yr ail faes lle gellid gwahaniaethu yw yn ystod y cyfnod ymgynghori sy’n digwydd fel arfer yn ystod cyfnod dileu swydd. Bydd angen i’ch cyflogwr wneud yn siŵr eich bod yn derbyn y wybodaeth mewn fformat hygyrch a’ch bod chi wedi deall beth sy’n cael ei wneud fel y gallwch gymryd rhan lawn yn y broses.


Back to top^  

Pensiynau

Gall fod gennych chi hawl i dri math o bensiwn:

Pension sylfaenol y wladwriaeth: pensiwn un gyfradd sy’n daladwy i chi o oedran pensiwn y wladwriaeth.

Hyd yn oed os nad ydych chi wedi gweithio ar hyd yr amser, dylech chi fod yn gymwys i gael pensiwn y wladwriaeth. Mae yna reolau arbennig i gynorthwyo pobl sydd heb dalu cyfraniadau yswiriant gwladol trwy gydol eu hoes waith.

Bydd eich cofnod o gyfraniadau wedi’i gredydu fel pe baech wedi talu os ydych chi wedi derbyn unrhyw rai o’r canlynol pan nad oeddech chi’n ennill arian:

  • lwfans gofal analluedd;
  • lwfans gweithio i’r anabl;
  • lwfans ceisio gwaith;
  • budd-dal analluogrwydd; neu
  • lwfans anabledd difrifol.

Cynllun pensiwn personol: polisi buddsoddi sydd â’r nod o gynnig cyfandaliad ac incwm ar ôl ymddeol. Mae hwn ar gael i’r rhan fwyaf o breswylwyr y DU, gan gynnwys plant.

  • Gallwch chi gyfrannu hyd at £3,600 y flwyddyn neu ganran o’ch cyflog os yw hynny’n uwch (eich oedran i benderfynu ar y ganran)
  • Mae ar gael i aelodau cynlluniau galwedigaethol (mae rhai rheolau’n berthnasol)
  • Ni ellir cael gafael arno cyn eich bod chi’n 50 oed a rhaid i chi brynu blwydd-dal (taliad blynyddol) erbyn eich bod chi’n 75 oed
  • Mae’n cynyddu bron yn ddi-dreth
  • Cewch chi un cyfandaliad di-dreth o hyd at 25% pan fyddwch chi’n ymddeol
  • Cewch ostyngiad treth ar eich cyfraniadau yn ôl y gyfradd dreth uchaf

Cynllun pensiwn galwedigaethol: trefniant pensiwn wedi’i sefydlu gan eich cyflogwyr i ddarparu incwm i’w gweithwyr cyflogedig wedi iddynt ymddeol.


Back to top^  

Pensiynau galwedigaethol a gwahaniaethu ar sail anabledd

O dan y DGSA, mae rheol ‘peidio â gwahaniaethu’ yn berthnasol i bob cynllun pensiwn galwedigaethol. Mae hyn yn golygu bod gan ymddiriedolwyr a rheolwyr pensiwn yr un dyletswyddau â chyflogwyr i beidio â’ch trin yn llai ffafriol am reswm sy’n gysylltiedig â’ch anabledd. Os ydych o’r farn bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn, dylech gwyno trwy fecanwaith datrys anghydfod y cwmni pensiwn. Yn ôl y gyfraith, dylech dderbyn gwybodaeth hygyrch am eich cynllun a sut i gwyno.

Mewn rhai achosion, efallai y gall eich cyflogwr ddarparu pensiwn salwch hefyd, â’r nod o gynorthwyo gweithwyr cyflogedig sy’n methu â gweithio bellach oherwydd salwch neu anabledd. Os nad ydych chi’n siŵr a oes un gan eich sefydliad neu a ydych chi wedi’ch cynnwys, dylech gael gair gyda’ch adran Adnoddau Dynol neu reolwr llinell neu ofyn i ymddiriedolwyr y cynllun pensiwn am gopi o’r rheolau ar salwch.

Mae cwmnïau eraill yn sefydlu cynlluniau yswiriant iechyd parhaus - trefniadau gyda chwmnïau yswiriant sy’n wahanol i gynlluniau pensiwn. Dylech chi ofyn a oes gan eich sefydliad drefniant o’r fath.


Back to top^