Anabledd mewn Addysg 

English Language Version : Disability in education

 

 

Os ydych chi’n ddisgybl neu fyfyriwr anabl mewn ysgol neu mewn addysg uwch neu bellach, neu os ydych chi’n ddarpar ddisgybl neu fyfyriwr ac o’r farn bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y gallwch chi herio hyn o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DGSA).

Mae’n anghyfreithlon i ddarparwyr addysg eich trin yn llai ffafriol am reswm sy’n gysylltiedig â’ch anabledd neu fethu â gwneud addasiadau rhesymol i’ch atal rhag dod dan anfantais sylweddol.

Mae yn erbyn y gyfraith i ddarparwyr addysg wahaniaethu yn eich erbyn chi yn y meysydd canlynol:

  • derbyn myfyrwyr (yn cynnwys ceisiadau lleoli);
  • y cwricwlwm, addysgu a dysgu a gwasanaethau eraill sy’n cael eu darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer myfyrwyr - gan gynnwys ymweliadau a theithiau ysgol, chwaraeon ysgol, cyfleusterau hamdden a phrydau bwyd ysgol, llyfrgelloedd a chanolfannau dysgu, profiad gwaith a llety myfyrwyr; neu
  • trwy eich gwahardd o sefydliad neu gwrs addysg.

Rhaid i ddarparwyr addysg ddarparu cymhorthion a gwasanaethau ategol fel rhan o’u dyletswydd gyfreithiol i wneud addasiadau rhesymol, yn ogystal ag addasiadau i’w heiddo lle mae yna nodweddion ffisegol sy’n eich rhoi chi dan anfantais sylweddol.


Read more information on disability for parents in England and Wales
Read more information on disability for parents Scotland
Read more information on disability for students over the age 16.


Myfyrwyr a dysgwyr anabl mewn addysg ôl-16

Mae’r DGSA yn rhoi hawliau i fyfyrwyr anabl ynglŷn â’u mynediad i golegau, prifysgolion ac at ddarparwyr eraill addysg ôl-16.

Find documents relating to disability in education.

A yw’r dyletswyddau ôl-16 yn Rhan 4 y DGSA yn berthnasol i’m darparwr addysg i?

Mae’r dyletswyddau’n berthnasol i’r canlynol:

  • prifysgolion a sefydliadau eraill yn y sector addysg uwch;
  • colegau addysg bellach a sefydliadau eraill yn y sector addysg bellach;
  • awdurdodau addysg lleol neu awdurdodau addysg sy’n sicrhau addysg bellach gan gynnwys addysg oedolion a chymunedol
  • ysgolion sy’n darparu addysg bellach i oedolion;
  • awdurdodau addysg lleol sy’n darparu gwasanaeth ieuenctid statudol ac, yn yr Alban, awdurdodau addysg sy’n sicrhau addysg gymunedol; a
  • rhai sefydliadau penodol eraill sydd wedi’u rhestru mewn rheoliadau.

Mae dyletswyddau ysgolion o dan Ran 4 yn berthnasol i ysgolion sy’n darparu addysg chweched dosbarth.

Rhieni a’r system addysg

Ers mis Medi 2002, os oes gan eich plentyn chi anabledd a bod rhywun wedi gwahaniaethu yn ei erbyn, efallai y gallwch chi herio hyn o dan y DGSA.

Sylwch hefyd y ceir deddfwriaeth ar wahân sy’n berthnasol i anghenion addysgol arbennig a gwella hygyrchedd, yn ogystal â deddfwriaeth ynglŷn â gwahaniaethu mewn ysgolion.

Hefyd, mae gan ysgolion ddyletswydd o dan y DGSA i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer rhieni anabl, megis darparu cyfieithwyr mewn nosweithiau rhieni.

Gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion

Mae gan ysgolion ‘gorff cyfrifol’ sydd, yn y pen draw, yn gyfrifol yn ôl y gyfraith am sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â’i dyletswyddau cyfreithiol o dan y DGSA. Gall y corff cyfrifol amrywio, gan ddibynnu ar ba ysgol y mae eich plentyn yn mynd iddi, ac a ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Mwy o wybodaeth am gyrff cyfrifol Darparwyr addysg

Gellir gwahaniaethu mewn dwy ffordd ym maes addysg: trin plentyn anabl yn llai ffafriol heb gyfiawnhad, a methu â gwneud ‘addasiadau rhesymol’ i sicrhau nad yw’r plentyn dan anfantais sylweddol, o gymharu ag eraill. Mwy o wybodaeth am ddiffiniadau gwahaniaethu a’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol.

Enghreifftiau o driniaeth lai ffafriol

Mae ysgol yn gwrthod cais plentyn i fynd i’r ysgol honno am fod ganddo anabledd ac nid yw’r ysgol am gael unrhyw blant anabl.

Mae ysgol yn gwrthod gadael i blentyn fynd ar drip ysgol am fod ganddi ddiabetes.

Mewn rhai achosion, efallai y gall yr ysgol gyfiawnhau trin eich plentyn yn ‘llai ffafriol’ os gall ddangos ei bod wedi gwneud hynny am reswm ‘perthnasol a sylweddol’. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r rheswm fod yn gysylltiedig ag achos arbennig eich plentyn ac yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau gwahaniaethu.

Hefyd, dim ond os bydd gweinidogion yr Alban wedi cymeradwyo’r trefniadau y gall ysgolion awdurdod addysg yn yr Alban ddethol disgyblion ar gyfer eu derbyn.

Gellir cyfiawnhau trin plentyn yn llai ffafriol hefyd os gwneir hynny o ganlyniad i ddethol yn ôl gallu neu dueddfryd mewn dull a ganiateir.

Enghreifftiau o fethu â gwneud addasiadau rhesymol

Mae disgybl byddar sy’n darllen gwefusau dan anfantais sylweddol am fod athrawon yn parhau i siarad â’u cefn ato wrth ysgrifennu ar y bwrdd

Dywedir wrth ddisgybl â dyslecsia na all hi gael nodiadau gwersi ei hathrawes ac y dylai wneud nodiadau yn ystod gwersi ‘fel pawb arall’.

Sut mae gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion yn wahanol i hawliau plant ag ‘anghenion addysgol arbennig’ (AAA)?

Mae Deddf Addysg 1996 a Deddf Addysg (yr Alban) 1980 yn diffinio plant fel rhai sydd ag AAA os oes ganddynt anhawster dysgu sy’n galw am ddarpariaeth addysgol arbennig.

Nid oes gan bob plentyn anabl AAA. Er enghraifft, os oes gan eich plentyn chi asthma difrifol, efallai na fydd ganddo ef neu hi AAA, ond gall fod ag anabledd o dan y DGSA. Fel arall, gall fod gan eich plentyn chi AAA ond heb fod yn dod o fewn y diffiniad o ‘anabledd’ o dan y DGSA.

Nid yw’r DGSA yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ddarparu ‘cymhorthion a gwasanaethau ategol’ megis cyfieithwyr iaith arwyddion neu fformatau gwybodaeth megis Braille neu dâp sain. Gellir darparu’r rhain trwy fframwaith AAA, sy’n asesu anghenion addysgol arbennig eich plentyn chi’n unigol.

Ysgolion mwy hygyrch

Mae gan awdurdodau addysg ac ysgolion (a chyrff cyfrifol yn yr Alban) ddyletswydd gynllunio gyfreithiol hefyd i ddefnyddio strategaethau hygyrchedd i wella mynediad i addysg ar gyfer plant anabl. Dylid sicrhau bod y cynlluniau hyn ar gael i rieni a dylent gynnwys:

  • gwella mynediad i’r cwricwlwm;
  • gwelliannau ffisegol i wneud adeiladau’r ysgol yn fwy hygyrch; a
gwella’r ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei darparu i blant anabl. Gall hyn gynnwys Braille, tâp sain neu fformatau print bras.

Yn yr Alban anfonir y cynlluniau hyn at lywodraeth yr Alban hefyd, a fydd yn goruchwylio’r camau a gymerir ledled yr Alban trwy’r strategaethau.

Beth sydd angen i ysgolion a chyrff cyfrifol ei wneud?

Disgwylir i ysgolion wneud ‘addasiadau rhesymol’ i ddiwallu anghenion plant anabl a all ddod yn ddisgyblion. Felly, dylai ysgolion feddwl am amrywiaeth eang yr anghenion sydd gan ddisgyblion â gwahanol anableddau. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys gwneud newidiadau i adeiladau ysgol i’w gwneud yn fwy hygyrch, na darparu offer neu gymorth arbenigol. Mae’r meysydd hyn yn cael sylw o dan ddeddfwriaeth a chanllawiau anghenion addysgol arbennig (y fframwaith AAA) a’r ddyletswydd gynllunio ar ysgolion, awdurdodau addysg lleol a chyrff cyfrifol i sefydlu strategaethau hygyrchedd.  Disgrifir y ddyletswydd hon uchod.

Dylai ysgolion adolygu’u polisïau, eu harferion a’u gweithdrefnau’n rheolaidd i sicrhau nad yw plant anabl o dan anfantais oherwydd eu hanabledd.

I gael mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau darparwyr addysg, gweler Busnesau a sefydliadau: darparwyr addysg [insert link]