English Language Version :Your rights
Hawliau i bobl ag MS, canser neu HIV
Mae’r rheolau ynglŷn â phwy sy’n cael ei ddiogelu rhag triniaeth annheg o dan y DGSA yn gymhleth iawn. Mae rhai pobl â chanser, HIV a sglerosis ymledol wedi cael problemau yn y gorffennol i ddangos eu bod wedi’u diogelu o dan y DGSA. Mae rheolau arbennig wedi bod ar hyd yr amser ar gyfer pobl sydd â ‘chyflyrau cynyddol’ megis y rhain, ond maen nhw bellach yn symlach a chliriach yn dilyn newidiadau i’r ddeddf yn 2005. Mae unrhyw un â chanser, sglerosis ymledol neu HIV bellach wedi’i ddiogelu rhag triniaeth annheg yn y gweithle, ym maes addysg, tai neu o ran mynediad i wasanaethau, o’r adeg y cawson nhw’r diagnosis. Does wahaniaeth a oes gennych chi unrhyw symptomau.
Gwnaed y newidiadau hyn er mwyn cydnabod y stigma sy’n gysylltiedig yn aml â chael diagnosis o’r cyflyrau hyn. Mae’r rheolau’n berthnasol i bob math o ganser, boed hwnnw’n golygu triniaeth sylweddol neu beidio.
Os ydych chi’n cael eich trin yn annheg oherwydd anabledd yn y gorffennol – er enghraifft am eich bod chi wedi cael canser yn y gorffennol – rydych chi hefyd yn cael eich diogelu o dan y DGSA.
Hawliau i bobl â chyflyrau iechyd meddwl
Os oes gennych chi broblem iechyd meddwl, nid oes yn rhaid i chi bellach ddangos bod gennych chi gyflwr ‘sy’n cael ei gydnabod yn glinigol’ er mwyn bod yn gymwys i gael eich diogelu o dan y DGSA, er bod yn rhaid i chi fodloni amodau eraill.
Mae llawer o bobl eraill yn cael eu diogelu o dan y DGSA. Os oes gennych chi anabledd gwahanol neu broblem iechyd sy’n effeithio ar eich bywyd bob dydd, bydd llawer o’r wybodaeth sydd ar gael yma yn ddefnyddiol i chi.
Pobl sydd wedi bod ag anabledd yn y gorffennol
Ni ddylai neb wahaniaethu’n anghyfreithlon yn eich erbyn oherwydd anabledd yn y gorffennol (neu ar hyn o bryd).
Os bu gennych chi anabledd (fel y’i diffinnir yn y DGSA) a bod rhywun, megis cyflogwr, yn eich trin yn annheg o ganlyniad i hynny, byddwch yn dal i gael eich diogelu o dan y DGSA, hyd yn oed os ydych chi wedi gwella erbyn hyn.
Enghraifft
Cafodd Saira iselder clinigol am ddwy flynedd ar ôl geni ei phlentyn. Ymgeisiodd am swydd fel uwch reolwraig Adnoddau Dynol. Gwnaeth ddatgan y cyfnod o iselder ar yr holiadur meddygol gan ddweud yn gwbl wir fod hyn wedi digwydd bedair blynedd yn gynt. Ar ôl cael cynnig y swydd yn amodol ar dystlythyrau a chlirio meddygol, tynnwyd y cynnig yn ôl. Wrth wneud ymholiadau, dywedodd y cyflogwr fod y swydd yn ‘llawn straen’ a’u bod nhw’n pryderu y gallai achosi i’r cyflwr ddychwelyd.
Mae hyn yn gwahaniaethu yn erbyn Saira oherwydd ei hanabledd yn y gorffennol a gellid cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cyflogwr o dan y DGSA.
A oes yn rhaid i mi ddatgan fy nghyflwr neu anabledd?
Nid yw’r DGSA yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddweud wrth neb. Ond, os na fyddwch chi’n dweud wrth eich cyflogwr, er enghraifft, all hwnnw ddim gwneud unrhyw ‘addasiadau rhesymol’ sydd eu hangen arnoch chi. Y peth gorau mwy na thebyg yw dweud wrtho ef neu hi o’r cychwyn - megis cyn gynted ag yr ydych chi wedi derbyn swydd, oherwydd y gallai effeithio ar eich perthynas os bydd yn dod i wybod yn nes ymlaen trwy ddamwain. Rydyn ni’n gwybod y gall hyn beri pryder - rydyn ni’n annog cyflogwyr i fod yn gadarnhaol ynglŷn ag anabledd fel y gall pobl deimlo’n fwy cyfforddus wrth ddatgan cyflwr iechyd neu nam.
Mae datgelu yn gallu arwain at rai manteision. Er enghraifft, dychmygwch eich bod chi’n gwneud cais am gwrs mewn coleg a’ch bod chi’n dweud wrth y sefydliad am eich cyflwr ar y ffurflen gais. O’r pwynt hwnnw ymlaen, dylent gadw hynny mewn cof - er enghraifft, os ydyn nhw’n gofyn i chi ddod i gyfweliad dylent ofyn i chi a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi er mwyn cyrraedd y cyfweliad a chymryd rhan ynddo. Os na fyddan nhw’n gwneud unrhyw addasiadau a’ch bod chi’n cwyno am hyn, allan nhw ddim defnyddio anwybodaeth fel esgus.
Gall datgan anabledd fod yn anodd weithiau am sawl gwahanol reswm:
-
rydych chi’n teimlo na chewch chi swydd os dywedwch fod gennych chi anabledd;
-
all neb weld y cyflwr sy’n effeithio arnoch chi ac rydych chi’n teimlo embaras ynglŷn â’i godi;
-
efallai y byddwch chi’n pryderu am y ffordd y bydd cyflogwr yn ymateb, yn enwedig os na fydd wedi dangos cydymdeimlad at rywun arall mewn sefyllfa debyg;
-
efallai na fyddwch chi am ofyn am gymorth am eich bod chi’n teimlo y gallwch chi ymdopi neu am nad ydych chi am greu ffwdan;
-
rydych chi’n credu y bydd y rheolwr yn dweud wrthych chi am fynd ymlaen â’r gwaith neu’n dweud ‘mae gan bawb drafferthion ac maen nhw’n ymdopi; neu
-
rydych chi’n ofni y gallwch chi golli’ch swydd oherwydd y bydd eich bos yn eich ystyried chi’n ‘llai abl’.
Gall y rhain i gyd a llawer mwy fod yn ofnau gwirioneddol. Ond mae’n bwysig cofio bod ystadegau’n dangos bod anabledd yn fwy a mwy cyffredin: mae gan un o bob pedwar anabledd neu gyflwr iechyd, neu’n agos at rywun sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd.
Pryd ddylwn i ddweud wrth fy nghyflogwr am fy anabledd?
Chi sydd i benderfynu a ddylech chi ddatgan eich anabledd neu gyflwr iechyd wrth eich cyflogwr, er nad oes gan bawb y dewis. Os ydych chi’n penderfynu datgelu, gallwch chi wneud hynny ar unrhyw un o’r adegau canlynol:
-
ar ffurflen gais neu CV;
-
cyn neu yn ystod cyfweliad;
-
pan fyddwch chi wedi cael cynnig swydd;
-
pan fyddwch chi’n cychwyn swydd; neu
Y rhan fwyaf o’r amser, y peth gorau yw bod yn onest yn y gwaith ynglŷn â’ch iechyd neu anabledd a’r hyn sydd ei angen arnoch. Weithiau mae problemau’n cael eu creu os nad ydych chi’n trafod y mater. Mae gan lawer o bobl brofiad uniongyrchol, neu trwy eu teulu, o gyflyrau iechyd ac anabledd. Gallwch chi siarad â’ch cyflogwr pan fyddwch chi’n teimlo fod yr amser yn iawn - efallai ar ôl i chi gael cynnig swydd neu yn ystod adolygiad rheolaidd, os ydych chi’n gweithio a bod eich cyflwr iechyd neu anabledd yn dechrau cael mwy o effaith arnoch chi.
A ddylwn i ddweud wrth yr ysgol am anabledd fy mhlentyn?
Dylech, efallai mai dyna fyddai orau. Os byddwch chi’n penderfynu peidio â dweud, ac os bydd rhywun yn gwahaniaethu yn erbyn eich plentyn, efallai y gall yr ysgol amddiffyn ei hun trwy honni nad oedd yn gwybod am yr anabledd. Cynghorir ysgolion i ofyn a oes gan eich plentyn anabledd pan fydd ef neu hi yn dechrau’r ysgol.