Anabledd ym maes addysg:gwybodaeth i fyfyrwyr sy'n hŷn na 16
Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n ddarpar fyfyriwr anabl, a’ch bod o’r farn i chi ddioddef gwahaniaethu, efallai y bydd modd i chi herio hyn o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (DGSA).
Mae’r DGSA yn rhoi hawliau i fyfyrwyr anabl o ran cael mynediad at golegau, prifysgolion a darparwyr addysg Ôl-16 eraill. Cyflwynwyd eich hawliau ym maes addysg mewn tri chyfnod:
- Er 1 Medi 2002, mae’n anghyfreithlon i ddarparwyr addysg roi triniaeth lai ffafriol i chi am reswm sy’n ymwneud â’ch anabledd, neu fethu â gwneud addasiadau rhesymol i’ch atal rhag bod o dan anfantais sylweddol.
- Er 1 Medi 2003, mae’n rhaid i ddarparwyr addysg ddarparu cymhorthion a gwasanaethau ategol fel rhan o’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol
- Er 1 Medi 2005, mae’n rhaid i ddarparwyr addysg wneud addasiadau rhesymol i’w safleoedd lle ceir nodweddion corfforol sy’n eich rhoi dan anfantais sylweddol.
Mae Cod Ymarfer i ddarparwyr addysg Ôl-16 mewn perthynas â’r DGSA. Caiff ei ystyried gan y llysoedd, ac mae’n rhoi arweiniad i bobl anabl a darparwyr gwasanaeth ynghylch sut y dylid gwneud addasiadau rhesymol.
On this page
Sut ydw i'n gwybod os oes gen i anabledd o dan y DGSA?
Mae’r DGSA yn diffinio anabledd fel nam corfforol neu feddyliol, a chanddo effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu rhywun i gyflawni gweithgareddau dydd-i-ddydd cyffredin.
Byddai hyn yn cynnwys llawer o gyflyrau iechyd hirdymor neu rai sy’n codi a gostwng. Er enghraifft, os oes gennych broblemau o ran symudedd, gweld neu glywed, anabledd dysgu, salwch meddwl, epilepsi, Aids, asthma, diabetes neu gyflwr sy’n gwaethygu’n gynyddol, fel sglerosis ymledol, efallai eich bod wedi’ch cynnwys o dan y DGSA. Mae mwy o wybodaeth am ddiffiniad anabledd ar gael ar wefan DRC.
Back to top^
Sut gall y DGSA fy helpu i?
Mae’n anghyfreithlon i ddarparwyr addysg Ôl-16 a gwasanaethau cysylltiedig wahaniaethu yn eich erbyn mewn tri maes:
- derbyn
- dysgu ac addysgu a gwasanaethau eraill i fyfyrwyr a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i fyfyrwyr – gan gynnwys teithiau i fyfyrwyr, cyfleusterau hamdden a ffreutur, llyfrgelloedd a chanolfannau dysgu, profiad gwaith a llety i fyfyrwyr
- drwy eich eithrio o’r cwrs neu’r sefydliad.
Back to top^
A yw fy narparwr addysg wedi'i gynnwys gan y dyletswyddau Ôl-16 yn rhan 4 y DGSD?
Mae’r dyletswyddau’n cynnwys:
- Prifysgolion a sefydliadau eraill yn y sector addysg uwch
- Colegau addysg bellach a sefydliadau eraill yn y sector addysg bellach
- awdurdodau addysg lleol neu awdurdodau addysg sy’n sicrhau addysg bellach, gan gynnwys addysg i oedolion ac addysg gymunedol
- ysgolion sy’n darparu addysg bellach i oedolion
- awdurdodau addysg lleol sy’n darparu’r gwasanaeth ieuenctid statudol ac, yn Yr Alban, awdurdodau addysg sy’n sicrhau addysg gymunedol
- rhai sefydliadau penodol eraill a restrir yn y rheoliadau.
Os nad yw eich darparwr addysg wedi’i gynnwys yn y rhestr hon o sefydliadau, nid oes ganddo ddyletswyddau o dan Ddyletswyddau Ôl-16 Rhan 4 y DGSA. Mae ysgolion sy’n darparu addysg chweched dosbarth wedi’u cynnwys gan y dyletswyddau ysgol o dan Rhan 4. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar Linell Gymorth DRC.
Back to top^
Beth yw ystyr 'gwahaniaethu'?
Yn ôl y DGSA, mae dau brif fath o wahaniaethu ar sail anabledd:
- (a) triniaeth lai ffafriol heb gyfiawnhad am reswm sy’n ymwneud ag anabledd unigolyn, a
- (b) diffyg cymryd camau rhesymol heb gyfiawnhad.
Triniaeth lai ffafriol
Mae darparwr addysg yn gwahaniaethu yn erbyn rhywun anabl os bydd yn rhoi triniaeth lai ffafriol iddo nag i bobl eraill (am reswm sy’n ymwneud â’i anabledd) ac nad oes modd iddo gyfiawnhau’r driniaeth.
Mae’r DGSA yn nodi y gall triniaeth lai ffafriol fod yn anghyfreithlon yn y meysydd canlynol:
- trefniadau ar gyfer pennu derbyn i sefydliad
- y telerau y cynigir derbyniad yn unol â hwy
- gwrthod cais am dderbyniad, neu ei anwybyddu’n bwrpasol
- addysgu a dysgu a gwasanaethau eraill a ddarperir i fyfyrwyr gan sefydliad
- eithrio.
I ddangos eich bod wedi cael triniaeth lai ffafriol am reswm sy’n gysylltiedig â’ch anabledd, rhaid i chi ddangos:
- beth yw’r driniaeth
- beth yw’r rheswm am y driniaeth
- bod y rheswm yn ymwneud â’ch anabledd
- na chafodd/na fyddai rhywun nad yw’r rheswm hwn yn gymwys iddo yn cael ei drin fel hyn.
Er enghraifft:
- mae myfyriwr sy’n dioddef dyslecsia yn gwneud cais am le ar gwrs gradd Saesneg ac mae prifysgol yn rhoi gwybod iddo nad yw’n derbyn myfyrwyr dyslecsig ar y radd Saesneg, cynigir lleoedd ar y cwrs i fyfyrwyr eraill â chymwysterau tebyg
- rhoddir gwybod i fyfyrwyr â nam symudedd na chaniateir iddi gymryd rhan mewn taith hamdden oherwydd ei nam
- caiff myfyriwr â hanes o anhwylder deubegynnol ei eithrio o goleg am fod staff yn pryderu y gall fod yn aflonyddgar yn y dyfodol. Nid oes unrhyw dystiolaeth i gadarnhau’r pryder hwn ac nid yw wedi torri unrhyw un o reolau’r coleg.
Diffyg cymryd cam rhesymol
Bydd darparwyr addysg hefyd yn gwahaniaethu os bydd yn methu â chymryd camau rhesymol i atal rhywun anabl rhag cael ei roi dan anfantais sylweddol. Adwaenir hyn yn gyffredin fel y ddyletswydd i wneud ‘addasiadau rhesymol’. Mae’r ddyletswydd hon yn gymwys yn y meysydd canlynol:
- trefniadau ar gyfer pennu mynediad i sefydliad
- addysgu a dysgu a gwasanaethau eraill a ddarperir neu a gynigir i fyfyrwyr gan sefydliad.
Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn cynnwys dyletswydd i ddarparu cymhorthion a gwasanaethau ategol a dyletswydd i waredu neu addasu nodwedd gorfforol.
Dyma rai enghreifftiau o addasiadau rhesymol:
- mae coleg yn darparu cymorth ychwanegol yn ei gwaith i fyfyriwr ag anawsterau dysgu, er mwyn iddi allu ennill ei chymhwyster NVQ
- mae awdurdod addysg lleol (awdurdod lleol yn Yr Alban) yn sicrhau bod dysgwr sy’n oedolyn ac sy’n rhannol ddall yn cael taflenni gwaith ar ffurf print bras
- mae prifysgol yn trefnu cyfieithu ar y pryd i iaith arwyddo yn ystod darlithoedd i fyfyriwr byddar
- mae prifysgol yn gosod lifft i ganiatáu myfyrwyr sy’n defnyddio cadair olwyn i gael mynediad at ddarlithfeydd ar y llawr cyntaf.
Mae’r dyletswyddau hyn yn rhai rhagddyfalus. Mae hyn yn golygu na all darparwr addysg, yn syml, aros tan i fyfyriwr anabl fynd ato, ond rhaid iddo feddwl ymlaen llaw ynghylch pa addasiadau y gall fod eu hangen.
Back to top^
Beth sy'n ‘rhesymol’ wrth wneud addasiadau?
Nid yw’r DGSA yn diffinio ‘rhesymol’, ac yn y pen draw cyfrifoldeb y llys fydd penderfynu. Fodd bynnag, caiff materion fel cost yr addasiad, buddiannau myfyrwyr eraill, ffactorau iechyd a diogelwch, ac a fydd safonau academaidd yn cael eu cynnal, eu hystyried wrth benderfynu a yw addasiad yn rhesymol.
Back to top^
Beth yw 'nodwedd gorfforol'?
Mae nodweddion corfforol yn cynnwys grisiau, grisffyrdd, cyrbau, wynebau allanol a phafinau, ardaloedd parcio, mynedfeydd ac allanfeydd adeiladau (gan gynnwys allfeydd dianc mewn argyfwng), drysau mewnol ac allanol, clwydi, tai bach a chyfleusterau ymolchi, goleuo ac awyru, lifftiau a grisiau symudol, gorchuddion lloriau, arwyddion, dodrefn, ac eitemau dros dro neu symudol. Nid yw hon yn rhestr drwyadl.
Back to top^
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i o'r farn y gwahaniaethwyd yn fy erbyn?
Dylai Llinell Gymorth CEHR allu helpu. Bydd modd i ymgynghorwyr eich arwain trwy’r gyfraith a thrafod eich dewisiadau. Efallai y bydd modd iddynt anfon ychydig o ddeunydd defnyddiol atoch hefyd, a allai roi cymorth i chi wrth ddatrys profiad o wahaniaethu ar sail anabledd.
Yn ogystal, gall cydweithwyr y Linell Gymorth eich cyfeirio at sefydliadau perthnasol eraill a allai’ch cynorthwyo chi. O dan rhai amgylchiadau, efallai y bydd modd i ni gyfeirio eich anghydfod at y Gwasanaeth Cymodi ac yn gallu cael canlyniad boddhaol heb fynd â’r achos ymhellach. Y nod yw dod i gytundeb y gall y ddwy ochr ei dderbyn.
Bydd y gwasanaeth cymodi ar gael yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr, a gellir cyfeirio anghydfodau ar gyfer cymodi os bydd y ddwy ochr yn cytuno. Fodd bynnag, sylwch na chewch eich atal rhag cymryd camau cyfreithiol os ydych yn anfodlon â chanlyniad y cymodi. Os caiff eich cwyn ei gyfeirio at y gwasanaeth, bydd gennych amser ychwanegol i gymryd camau cyfreithiol.
Back to top^
Sut ydw i'n gwneud cwyn cyfreithiol?
Efallai y bydd modd i chi fynd â’ch anghydfod ymhellach trwy ddwyn yr achos gerbron llys. Achos sifil gerbron llys sirol fydd hyn yng Nghymru a Lloegr, neu gerbron llys siryf yn Yr Alban. Rhaid i chi ddwyn eich cwyn gerbron llys cyn pen chwe mis o ddyddiad yr achos honedig o wahaniaethu (caiff y cyfnod hwn ei estyn i 8 mis os bydd yr achos wedi mynd drwy’r DCS yn gyntaf). Os ydych chi wedi dioddef gwahaniaethu dros gyfnod o amser, bydd y cyfnod o chwe mis yn dechrau ar ddyddiad y digwyddiad diwethaf.
Os bydd eich achos llys yn llwyddiannus, efallai y dyfernir iawndal i chi. Efallai y byddwch hefyd yn ceisio gwaharddeb (yng Nghymru a Lloegr) neu waharddiad (yn Yr Alban) i atal gwahaniaethu pellach, neu orfodi’ch sefydliad addysg i gymryd camau cadarnhaol i osgoi gwahaniaethu.
Back to top^
A oes modd i mi wneud cwyn anffurfiol?
Gallwch gwyno yn uniongyrchol i’r corff sy’n gyfrifol am eich addysg. Dylai fod ganddo weithdrefn gwyno i helpu i atal anghydfodau yn gyflym. Gallwch wneud hyn hyd yn oed os ydych wedi dechrau cymryd camau cyfreithiol.
Back to top^