Mynediad i wasanaethau
English Language Version : Access to services
Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DGSA) yn rhoi hawliau i chi yn y ffordd rydych chi’n defnyddio gwasanaethau neu’n derbyn nwyddau.
Mae’n anghyfreithlon i ddarparwyr gwasanaethau eich trin chi’n llai ffafriol oherwydd eich anabledd, a rhaid iddyn nhw wneud ‘addasiadau rhesymol’ ar eich cyfer, megis rhoi cymorth ychwanegol i chi neu newid y ffordd y maent yn darparu eu gwasanaethau. Yn dilyn newidiadau i’r gyfraith yn 2004, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ystyried gwneud newidiadau i nodweddion ffisegol eu heiddo rhag i unrhyw rwystrau ffisegol eich atal chi rhag defnyddio’u gwasanaethau neu ei gwneud yn afresymol o anodd i chi wneud hynny.
Does wahaniaeth a ydych chi’n talu am y gwasanaethau neu beidio; darparu’r gwasanaeth sy’n bwysig. Mae gwasanaethau’n cynnwys mynd i dŷ bwyta, siopa am ddillad neu fwyd, defnyddio’r llyfrgell leol, mynd i’r eglwys neu ymweld â’ch cyfreithiwr neu feddyg.
Nid oes yn rhaid i wasanaeth fod yn amhosibl i’w ddefnyddio cyn bod rhaid i ddarparwr gwasanaethau wneud newidiadau. Mae’n rhaid iddyn nhw wneud newidiadau hefyd pan fo’n afresymol o anodd. Dylent feddwl a fyddai unrhyw anghyfleustra, ymdrech, anghysurwch neu golli urddas y byddwch chi’n ei wynebu wrth ddefnyddio’r gwasanaethau yn cael ei ystyried yn afresymol gan bobl eraill, pe byddai’n rhaid iddyn nhw wynebu anawsterau tebyg.
I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau wrth ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau, darllenwch Hawliau ar waith: gwasanaethau.
Beth yw nwyddau a gwasanaethau?
Mae’r DGSA yn berthnasol i’r rhan fwyaf o wasanaethau. Mae unrhyw un sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd yn ddarparwr gwasanaethau. Mae rhai eithriadau: clybiau preifat sydd â phroses dethol ystyrlon ar gyfer aelodau; trafnidiaeth (ond dim ond y cerbyd trafnidiaeth, nid popeth arall sy’n gysylltiedig megis gorsafoedd, meysydd awyr a chyfleusterau archebu); ac addysg.
Llety
Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr llety yn ddarparwyr gwasanaethau, gan gynnwys:
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw wneud addasiadau rhesymol os ydych chi’n gweld bod gwasanaeth yn afresymol o anodd ei ddefnyddio.
I ddysgu mwy am eich hawliau ym maes tai, ewch i Hawliau ar waith: tai. [insert link to section]
I ddysgu mwy am rwymedigaethau darparwyr gwasanaethau i wneud addasiadau rhesymol, gweler Busnesau a sefydliadau: darparwyr gwasanaethau. [insert link to section]
Nid yw’r ddeddf yn berthnasol i bob math o nwyddau wedi’u cynhyrchu. Nid oes yn rhaid i wneuthurwr unedau ystafell ymolchi wneud y bath yn hygyrch i chi, ond mae’n rhaid i’r siop sy’n ei werthu wneud yn siŵr nad yw’n afresymol o anodd i chi ddefnyddio’i gwasanaethau.
Gwneud addasiadau rhesymol i wasanaethau
Nid oes ateb clir y gellir ei roi i’r cwestiwn ‘beth sy’n rhesymol’? Mae’r gyfraith yn defnyddio’r ymadrodd i ganiatáu gwahanol atebion mewn gwahanol sefyllfaoedd ac, yn y pen draw, y llysoedd sydd i benderfynu ym mhob sefyllfa. Fodd bynnag, gall yr hyn sy’n rhesymol amrywio yn ôl y math o wasanaeth a natur y darparwr gwasanaethau, ei faint a’i adnoddau.
Dyma rai ffactorau y gall darparwyr orfod eu hystyried wrth feddwl am addasiadau:
-
a fyddai cymryd camau arbennig yn goresgyn yr anhawster rydych chi’n ei wynebu wrth gael gafael ar eu gwasanaethau;
-
pa mor ymarferol yw hi i gymryd y camau hyn;
-
y costau ariannol a chostau eraill sy’n gysylltiedig;
-
faint o aflonyddwch fyddai’n ei achosi;
-
faint o arian ac adnoddau arall sydd ar gael ganddyn nhw;
-
faint maen nhw wedi’i wario eisoes;
-
pa gymorth ariannol sydd ar gael iddyn nhw.
Os nad yw darparwr gwasanaethau yn gwneud dim hyd nes eich bod chi’n methu â defnyddio’i wasanaethau, mae’n dra thebyg y bydd yn gweithredu’n groes i’r ddeddf.
Mwy o wybodaeth am addasiadau rhesymol.
A yw hi’n iawn i ddarparwyr gwasanaethau aros hyd nes y bydda i’n methu â defnyddio’u gwasanaethau cyn gwneud newidiadau?
Na. Mae ganddynt ddyletswydd i ragweld anawsterau, a hynny yn barhaus. Hynny yw, dylai darparwyr gwasanaethau fod yn meddwl ymlaen llaw ac yn edrych yn barhaus ar y ffordd y maent yn darparu gwasanaethau, ar nodweddion ffisegol eu heiddo a’u gwasanaethau a sut y gallant wneud gwelliannau ar gyfer pobl anabl.
A all darparwyr gwasanaethau wneud newidiadau ar gyfer pobl ag anableddau penodol yn unig?
Na. Dylai darparwyr gwasanaethau ystyried amrywiaeth lawn anghenion mynediad pobl anabl ac ym mha ffyrdd y gall eu gwasanaethau fod yn anodd eu defnyddio.
Sut ddylai darparwr gwasanaethau ymdrin â nodwedd ffisegol sy’n ei gwneud yn anodd i mi ddefnyddio gwasanaeth?
Pan fydd darparwr gwasanaethau wedi nodi’r nodweddion ffisegol a all ei gwneud hi’n anodd i chi ddefnyddio’u gwasanaethau, yna mae’r ddeddf yn rhoi dewis iddyn nhw. Gallant gael gwared ar y nodwedd honno, ei newid, dod o hyd i ffordd o’i hosgoi neu ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd arall.
Argymhellwn fod y darparwyr gwasanaethau yn ystyried cael gwared ar y nodwedd ffisegol neu ei newid yn gyntaf. Yn aml dyma’r dewis mwyaf diogel am ei fod yn fwy tebygol o wneud y gwasanaeth yn fwy hygyrch, sy’n golygu eich bod chi’n derbyn y gwasanaethau yn yr un modd â chwsmeriaid eraill. Gelwir hwn yn ddull ‘cynhwysol’.
Os yw darparwr gwasanaethau’n penderfynu osgoi’r nodwedd neu ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd arall, yna rhaid i’r gwasanaeth beidio â bod yn afresymol o anodd i chi ei ddefnyddio.
Os ydych chi’n ei chael yn afresymol o anodd i ddefnyddio gwasanaeth ewch i Defnyddio’ch hawliau [insert link] i gael mwy o wybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei wneud.