Dyletswyddau'r sector cyhoeddus-Asesu cydymffurfiaeth y Ganolfan Byd Gwaith 

 

 

View this page in English

Asesiad y Ganolfan Byd Gwaith

Mae’r Comisiwn yn asesu i ba raddau y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau, drwy’r Ganolfan Byd Gwaith, yn cyflawni dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus[1] wrth ddatblygu a gweithredu ei pholisïau a’i harferion.

Mae’r penderfyniad hwn yn ganlyniad i ymholiadau cychwynnol y Comisiwn gyda’r Ganolfan Byd Gwaith am gwynion a wnaed i’r hen Gomisiwn Cydraddoldeb Hiliol yn honni nad oedd y Ganolfan Byd Gwaith wedi cynnal asesiadau cydraddoldeb hiliol priodol mewn meysydd polisi penodol.  Yn dilyn yr ymholiadau hynny, mae’r Comisiwn yn bryderus nad yw’r Ganolfan Byd Gwaith yn cydymffurfio â dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

Diben yr Asesiad

Mae gan y Comisiwn bŵer i gyflawni asesiadau o dan adran 31 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006.  Mae hyn yn rhoi cyfle i’r Comisiwn asesu perfformiad yr awdurdodau cyhoeddus o ran y dyletswyddau mewn ffordd arloesol ac adeiladol, er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf o ran y canlyniadau yr oedd y dyletswyddau wedi’u cynllunio i’w hannog.

Mae’r dull hwn yn rhoi’r cyfle i’r Comisiwn asesu ac adrodd yn ffurfiol ar i ba raddau y mae awdurdod cyhoeddus yn cyflawni ei ddyletswyddau, yn ogystal â’r ffordd y mae’n gwneud hynny.  Rydym yn gobeithio y bydd yr offeryn newydd hwn yn ein galluogi i nodi meysydd arferion gorau ym mherfformiad y dyletswyddau, ynghyd â meysydd i’w gwella.

Rydym yn bwriadu adrodd ar ganfyddiadau’r asesiad yn ystod hydref 2008.

Cwmpas a Chylch Gorchwyl

Bydd yr asesiad yn cynnwys Cymru, Lloegr a’r Alban a bydd yn cael ei reoli gan gylch gorchwyl, sydd i’w weld yma.  Pennwyd y cylch gorchwyl gan y Comisiwn mewn ymgynghoriad â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Cyflwyno Achos

Mae’r Comisiwn wedi gwneud trefniadau ar gyfer rhoi’r cyfle i bobl gyflwyno achos mewn perthynas â’r asesiad yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2006.  Er nad yw hyn yr un fath â chais cyffredinol am dystiolaeth ar gyfer ymchwiliad, hoffai’r Comisiwn glywed gan unrhyw un sydd, o bosibl, â gwybodaeth sy’n ymwneud yn benodol â materion a nodir yn y cylch gorchwyl.  Er enghraifft, gallai hyn fod yn wybodaeth am eich profiad o arferion ymgynghoriad asesu effaith cydraddoldeb y Ganolfan Byd Gwaith.

Rydym yn argymell eich bod yn darllen y cylch gorchwyl ar gyfer yr asesiad cyn cyflwyno achos i sicrhau bod yr hyn sydd gennych i’w ddweud yn ymwneud yn benodol â’r materion y mae’r Comisiwn yn eu hasesu.

I sicrhau eich bod yn cyfrannau at adroddiad yr asesiad, cyflwynwch eich gwybodaeth erbyn 6 Awst 2008.

Gallwch gyflwyno achos fel a ganlyn:

·        ar e-bost jobcentreplus.assessment@equalityhumanrights.com

·        drwy’r post:

 Rhadbost RRXX-CCJG-KJTU

          Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

          Asesiad y Ganolfan Byd Gwaith

          3 More London, Riverside

          Llundain

          SE1 2RG

·        ar ffacs- 0207 407 7557 anfonwch ffacs at sylw Tîm Asesu’r Ganolfan Byd Gwaith

·        ar y ffôn neu ffôn testun – ffoniwch ein llinell gymorth fel a ganlyn:

 

Lloegr                 Ffôn: 0845 604 6610

                          Ffôn testun: 0845 604 6620

 Cymru                Ffôn: 0845 604 8810

                          Ffôn testun: 0845 604 8820

 Yr Alban             Ffôn: 0845 604 5510

                          Ffôn testun: 0845 604 5520

[1] Mae dyletswyddau’r sector cyhoeddus yn cynnwys y ddyletswydd cydraddoldeb hiliol o dan adran 71 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol; y ddyletswydd cydraddoldeb rhywiol o dan adrannau 76A, 76B a 76C o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw; a’r ddyletswydd cydraddoldeb i bobl anabl o dan adrannau 49A a 49D o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.