Mae gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb oed, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gredo, a chyfeiriadedd rhywiol ac annog cydymffurfiaeth â’r Ddeddf Hawliau Dynol yn rhan o gylch gwaith y Comisiwn. Mae ein pwerau gorfodi yn ein galluogi i ymchwilio i a yw sefydliadau neu fusnesau’n cydymffurfio â’r dyletswyddau cyfreithiol o ran cydraddoldeb. Gallwn weithio gyda nhw i ddatblygu arferion sefydliadol a fydd yn gwella cydraddoldeb a hawliau dynol, a chymryd camau cyfreithiol yn ôl yr angen.
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am yr ymchwiliadau rydyn ni’n eu cynnal, neu wedi’u cwblhau.
Dyletswyddau'r sector cyhoeddus-Asesu cydymffurfiaeth y Ganolfan Byd Gwaith