View this page in English
1. Asesu i ba raddau y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau, drwy ei hasiantaeth weithredol, y Ganolfan Byd Gwaith, wedi cydymffurfio â dyletswyddau cydraddoldeb hiliol, rhywiol ac i bobl anabl wrth ddatblygu a gweithredu ei pholisïau a’i harferion, yn benodol, ond yn nid yn llwyr mewn perthynas â:
a) chanoli ei swyddogaeth prosesu budd-daliadau
b) diwygio gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid budd-dal analluogrwydd, gan gynnwys cyflwyno Llwybrau at Waith a’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth;
c) gweithredu:
· Partneriaethau Cyflogaeth Lleol; a
· gwasanaethau newydd ar gyfer rhieni unigol.
2. Asesu trefniadau Canolfan Byd Gwaith ar gyfer -
a) asesu ac ymgynghori ar sut mae ei pholisïau arfaethedig yn debygol o effeithio ar hyrwyddo cydraddoldeb hiliol
b) monitro ei pholisïau i ganfod unrhyw effaith niweidiol ar hyrwyddo cydraddoldeb hiliol
c) cyhoeddi canlyniadau asesiadau ac ymgynghoriadau o’r fath.
3. Asesu dulliau’r Ganolfan Byd Gwaith o asesu effaith ei pholisïau a’i harferion, neu effaith debygol ei pholisïau a’i harferion arfaethedig, ar gydraddoldeb i bobl anabl.
4. Asesu'r camau gweithredu y mae’r Ganolfan Byd Gwaith wedi’u cymryd neu’n cynnig eu cymryd i asesu effaith ei pholisïau a’i harferion neu effaith debygol ei pholisïau a’i harferion arfaethedig ar gydraddoldeb rhwng dynion a menywod.
5. Asesu canllawiau'r Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer staff sy’n cynnal yr asesiadau, ymgynghoriadau a’r gwaith monitro y cyfeirir atynt uchod, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, unrhyw offer asesu effaith, deunyddiau hyfforddi, templedi asesu, strategaethau cyhoeddiadau a dulliau cymeradwyo uwch reolwyr.
6. Nodi drwy’r asesiadau amrywiol hyn enghreifftiau o arferion da y gellir eu lledaenu o fewn y Ganolfan Byd Gwaith a’r Adran Gwaith a Phensiynau, ac y gallai’r Comisiwn eu defnyddio’n ehangach o bosibl.
7. I ba raddau y mae’r Comisiwn yn ystyried bod y Ganolfan Byd Gwaith wedi methu â chyflawni unrhyw un o ddyletswyddau’r sector cyhoeddus, nodi’r rhesymau am y methiant, ystyried a oes camau gweithredu ar y gweill i fynd i’r afael â’r diffygion, ac os nad oes, neu os yw’r Comisiwn yn credu nad yw unrhyw gamau gweithredu sydd ar y gweill yn ddigonol, ystyried beth arall sydd angen ei wneud.
8. Cyhoeddi adroddiad ar ganfyddiadau’r asesiad, gan gynnwys unrhyw argymhellion ar gyfer camau gweithredu pellach.