
View this page in English
Rydyn ni i gyd yn wahanol ond mae pob un ohonom yn haeddu cael ein trin yn deg. Casgliad o hanesion pobl o bob oed a chefndir cymdeithasol yw Cyfartal a Gwahanol sy’n egluro beth sy’n eu gwneud nhw’n wahanol a sut mae hynny wedi effeithio ar eu bywydau.Cafodd y straeon hyn eu ffilmio yn ystod haf 2007. Isod mae detholiad o’r hanesion ysbrydoledig hyn, sydd hefyd i’w gweld ar sianel YouTube y Comisiwn.
Detholiad o storïau ysbrydoledig
Alison Lapper
Arlunydd enwog sy’n teimlo’n aml fod pobl yn ystyried mai ei hanabledd sy’n ei diffinio hi nid ei thalent.
Alun Thomas
Mae un o weithwyr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn disgrifio’u hunaniaeth luosog fel dyn hoyw, anabl sy’n siarad Cymraeg.
Amy Stretch Parker
Mae cerddor yn disgrifio’i anhwylder deubegwn a pham na fyddai am gael gwared arno fyth.
Boris Johnson
Mae’r newydd ethol Faer Llundain yn trafod ei gysylltiad â ‘Phrydeindod’ er gwaetha’r ffaith bod ei gyndeidiau yn dod o bedwar ban byd.
Carole Ann Corke
Mae gweithwraig harddwch sydd â nam ar ei chlyw yn sôn am ei phrofiadau wrth dyfu i fyny yn fenyw fyddar a sut mae hyn wedi effeithio ar ei dewis o yrfa.
Chris McIvor
Mae un a wnaeth fyw trwy’r Swnami ar ddydd Gŵyl San Steffan yn disgrifio’r effaith ar ei fywyd ar ôl dychwelyd i’w gartref.
Chrystalla Spire
Pan gafodd Chrystalla ddiagnosis canser y fron, ar ôl cael radiotherapi cafodd lawdriniaeth i dynnu’r ddwy fron i rwystro’r clefyd rhag dychwelyd.
Colin Putney
Mae Colin yn disgrifio sut deimlad yw cael Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) a sut mae’n cyfrif ei hun yn lwcus ei fod yn cael rhywfaint o seibiant nawr ac yn y man.
Debbie Stephens
Mam sengl a benderfynodd fynd yn ôl i fyd addysg a llwyddo i raddio gyda gradd mewn mathemateg ar ôl naw mlynedd.
Diane-Louise Jordan
Mae’r gyflwynwraig deledu Diane-Louise Jordan yn siarad am farwolaeth ei chwaer, ac am cydbwyso gwaith a chyfrifoldebau gofalu.
Dipti and Anjum
Mae Dipti ac Anjum yn sgwrsio am eu seremoni priodas sifil ddiweddar a pham bod dathlu rhywioldeb yn beth cadarnhaol.
Dynamo
Nid yw’r dewin sy’n enedigol o Bradford wedi gadael i’w gefndir na’i anabledd fod yn rhwystr iddo fyw ei freuddwyd.
Gok Wan
Mae’r cyflwynydd teledu a’r guru ffasiwn Gok Wan yn egluro sut mae tyfu i fyny yn hanner Tsieineaidd, hoyw a thew yn ei wneud yn unigryw.
Grayson Perry
Mae arlunydd sy’n drawswisgwr yn sôn am bwysigrwydd bod yn unigryw a gwahanol.
Hannah Jones
Pan symudodd teulu Hannah i’r Unol Daleithiau, canfu ffordd unigryw o siarad yn ei hiaith Gymraeg frodorol.
Helena Kiely
Mae teithiwr yn ei arddegau yn trafod effaith y cyfryngau ar syniadau pobl am deithwyr.
Ian Mucklejohn
Mae tad yn disgrifio sut y gwireddodd ei freuddwyd o fod yn rhiant trwy greu teulu heb fam.
James Wannerton
Mae gan James synethesia sy’n golygu, yn ei achos ef, ei fod yn blasu geiriau. Mae’n disgrifio sut mae synethesia wedi effeithio ar ei ddewisiadau mewn bywyd.
Leila Nadir
Mae menyw Fwslemaidd o hil gymysg yn trafod ei phrofiadau wrth iddi dyfu i fyny a pham y penderfynodd ddewis gwisgo hijab.
Marcus Ramshaw
Mae offeiriad sydd hefyd yn Goth yn siarad am wynebu rhagfarn.
Michael Etkind
Mae rhywun a wnaeth fyw drwy’r Holocost yn cymharu ei brofiadau â’r camweddau yn erbyn hawliau dynol sy’n digwydd nawr.
Nihal Anthanayaile
Mae DJ Radio 1 yn trafod sut y gwnaeth dyfodiad diwylliant hip-hop ei helpu i deimlo ei fod yn perthyn.
Penny Roberts
Mae awyrblymiwr gafodd ei pharlysu ar ôl damwain awyr blymio yn sôn am yr effaith a gafodd ar ei bywyd a pham y dewisodd hi ddychwelyd i’r awyr.
Philippe Bruyer
Mae Philippe yn disgrifio’r effaith a gafodd bod yn HIV positif ar ei fywyd.
Sanjeev Bhaskar
Mae comedïwr enwog yn sôn am y ffordd y gall hiwmor gael ei ddefnyddio i guddio gwahaniaeth ond yn aml iawn y gwahaniaeth sy’n destun siarad.
Sarah Whitehurst
Mae menyw ifanc sy’n faint sero yn naturiol yn disgrifio sut y cafodd ei bwlio yn yr ysgol a sut y mae wedi gorfod cyfiawnhau ei phwysau i eraill yn feunyddiol.
Stanter Kandola
Nid bod yn rhan o’r unig deulu Asaidd yn ei phentre oedd yr unig her oedd yn wynebu Stanter wrth dyfu i fyny a chael diagnosis bod ganddi arthritis gwynegol pan oedd yn bymtheg oed.
Stephen Whittle
Mae dyn trawsrywiol yn sôn am newid o fod yn fenyw i ddyn a’i brofiadau.
Stephen Wiltshire
Mae arlunydd awtistig yn sôn am ei angerdd tuag at gelf.
Tanni Grey Thompson
Mae’r athletwraig enwog sydd newydd ymddeol yn siarad am ei gyrfa a sut y rhoddodd ei chadair olwyn y rhyddid iddi wneud yr hyn a fynnai.
Tracey Skinner
Mae mam dau o blant awtistig yn egluro pam nad ydyn nhw fel teulu yn teimlo’n wahanol a’u bod wrth eu bodd gyda phwy ydyn nhw.
Trevor Diamond
Mae tad sy’n hoyw yn trafod ei gyfyng-gyngor ynglŷn â’r gwrthdaro rhwng ei rywioldeb a’i gredoau crefyddol wrth dyfu i fyny.
Tyfany Booker
Mae un oedd yn arfer niweidio’i hun yn disgrifio’i phrofiad a pham ei bod hi nawr am helpu pobl eraill i roi’r gorau i’r arfer.
Will Harries
Mae’r Is-Gapten Will Harries, milwr sy wedi ei anafu, yn siarad am ei brofiadau o’r rhyfel yn Afghanistan a’i heffaith ar ei fywyd.