Carchardai a’r gwasanaeth prawf  

 

Os ydych chi yn y carchar, mae’n anghyfreithlon i’r carchar eich trin yn llai ffafriol oherwydd eich:

  • hil
  • rhyw
  • anabledd
  • cyfeiriadedd rhywiol, neu
  • grefydd neu gred.

Dylai’r un cyfleusterau fod ar gael i bawb mewn carchar, gan gynnwys swyddi, addysg, gwasanaethau llyfrgell, ymarfer corff a llety.

O dan y ddeddfwriaeth gwrth-wahaniaethu bresennol (Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 a Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976), mae gan garchardai gyfrifoldebau cyfreithiol penodol i ymdrin â gwahaniaethu.  Fel awdurdodau cyhoeddus, mae ganddynt ddyletswyddau cadarnhaol i hyrwyddo cydraddoldeb hefyd ac i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Mwy o wybodaeth am y dyletswyddau hyn.

Dyma rai enghreifftiau posibl o wahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn carcharorion:

  • Nid yw carcharor anabl yn cael cadair olwyn addas, sy’n ei rwystro rhan cymryd rhan yn rhai o weithgareddau’r carchar.
  • Mae carcharor yn cefnogi carcharor arall gyda’i chwyn am aflonyddu ar sail cyfeiriadedd rhywiol, ac mae’n cael ei chosbi am wneud hynny.  Gallai hyn fod yn erledigaeth ac yn anghyfreithlon.
  • Mae swyddog carchar, sy’n ddyn, yn aflonyddu’n rhywiol ar garcharor, sy’n fenyw.  Mae hithau’n cwyno i’r warden, ond anwybyddir ei chwyn.
  • Mae carcharor yn cymryd rhan mewn gwrandawiad disgyblu ac nid yw’n deall Saesneg.  Mae’r carchar yn gwrthod rhoi cyfieithydd iddo felly nid yw’n deall beth sy’n digwydd.

Cydraddoldeb hiliol mewn carchardai

Mae cydraddoldeb hiliol yn fater pwysig mewn carchardai.  Daw un o bob pedwar carcharor o grŵp lleiafrif ethnig, o gymharu ag un o bob un ar ddeg ymhlith poblogaeth gyfan Cymru a Lloegr.  Rhwng 1999 a 2002, cynyddodd cyfanswm poblogaeth ein carchardai 12 y cant tra cynyddodd nifer y carcharorion du dros 50 y cant.

Yn dilyn ymchwiliad i lofruddiaeth Zahid Mubarek ar sail cymhelliad hiliol tra’r oedd yn y carchar, a gododd nifer o bryderon ynglŷn â rheolaeth cydraddoldeb hiliol mewn carchardai, ac archwiliad ffurfiol gan y Comisiwn blaenorol ar gyfer Cydraddoldeb Hiliol yn y Gwasanaeth Carchardai.

Ymdrin â thriniaeth annheg fel carcharor

Os ydych chi’n credu eich bod chi, neu garcharor arall, yn cael eich trin yn annheg, mae yna weithdrefnau arbennig i’w dilyn yn gyntaf i’ch helpu i ymdrin â hyn.

Hil

Os ydych chi’n credu eich bod chi, neu garcharor arall, yn cael eich trin yn annheg ar sail hil, gallwch chi drafod y broblem gyda swyddog cyswllt cysylltiadau hiliol y carchar. Llenwch ffurflen cofnodi digwyddiad hiliol, a ddylai fod ar gael ym mhob adain, a’i rhoi mewn blwch cwynion, a bydd y swyddog cysylltiadau hiliol yn dod i siarad â chi am y gŵyn.  Os nad ydych chi’n hapus â’r canlyniad, bydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal.

Anabledd

Os ydych chi’n credu eich bod chi, neu garcharor arall, yn cael eich trin yn annheg oherwydd anabledd, gallwch chi drafod y broblem gyda swyddog cyswllt anabledd neu lenwi ffurflen gwyno.

Mwy o wybodaeth am eich hawliau yn y carchar a sut i weithredu os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu.

Mwy o wybodaeth am eich hawl i ryddid rhag bygythiadau a chamdriniaeth o dan y Ddeddf Hawliau Dynol.

On this page

 

Gwasanaeth prawf

Os ydych chi’n cwblhau dedfryd gymunedol (sef ‘ar gyfnod prawf’), byddwch chi’n cael eich goruchwylio gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (NPS). Mae gan yr NPS yr un dyletswyddau ag awdurdodau cyhoeddus eraill i beidio â gwahaniaethu ac i barchu eich hawliau dynol.

Mae gennych chi hawliau eraill hefyd sy’n ymwneud â safon y driniaeth rydych chi’n ei derbyn gan yr NPS (megis yr hawl i gael eich gweld yn rheolaidd ac yn brydlon, ac i gael esboniad o bethau mewn ffordd rydych chi’n ei deall).

Yn yr Alban, nid oes yna wasanaeth prawf ar wahân.  Gweithwyr cymdeithasol cyfiawnder troseddol o adrannau gwaith cymdeithasol yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am waith prawf.  Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban.

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau a sut i gwyno os nad ydych chi’n hapus â’ch triniaeth, ewch i wefan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.


Back to top^