Yr hawl i gael treial teg
Mae gan bawb yr hawl i gael treial teg, ac mae gan y llysoedd ddyletswydd i weithredu hyn.
Dyma rai pethau sy’n gwneud treial yn deg:
-
cael ei gynnal yn gyhoeddus
-
cael ei gynnal o fewn amser rhesymol
-
bod yn annibynnol ac yn ddiduedd, a
-
rhagdybio dieuogrwydd.
Os ydych chi’n cael eich cyhuddo o drosedd, mae gennych chi’r hawliau sylfaenol canlynol:
-
cael gwybod yn brydlon ac yn fanwl, mewn iaith rydych chi’n ei deall, beth yw’r cyhuddiad yn eich erbyn a pham rydych chi wedi cael eich cyhuddo
-
cadw’n ddistaw
-
cael digon o amser a chyfleusterau i baratoi eich amddiffyniad
-
cael gweld yr holl wybodaeth berthnasol eich amddiffyn eich hun yn bersonol neu ddewis pwy fydd yn eich amddiffyn cael cymorth cyfreithiol am ddim os na allwch chi ei fforddio i’r tystion o’ch plaid ac yn eich erbyn gael eu trin yr un peth
-
cael cymorth cyfieithydd am ddim os na allwch chi ddeall neu siarad yr iaith a ddefnyddir mewn llys.
Os na fydd pob un o’r hawliau hyn yn cael eu dilyn, efallai na fydd eich treial yn deg.
Mae’r hawl i gael treial teg yn mynd y tu hwnt i ymdrin yn briodol â phethau mewn gwrandawiad llys: rhaid ystyried yr holl broses gyfreithiol. Er enghraifft, gallai ystyried p’un a yw treial yn deg gynnwys sicrhau bod yr heddlu wedi dilyn gweithdrefnau priodol wrth ymchwilio a chyhuddo. Gallai olygu y dylai unrhyw broses benderfynu gynnwys cyfnod apelio.
Mae’r hawl i gael treial teg hefyd yn cynnwys sicrhau bod gennych chi fynediad i’r llysoedd yn y lle cyntaf. Mwy o wybodaeth am yr hawl i gael treial teg.
On this page
Yr hawl i gael cyngor cyfreithiol
Gall unrhyw un sy’n cael ei arestio a’i gadw yn y ddalfa neu rywun sy’n ymddangos o flaen llys wneud cais am gyngor a chymorth cyfreithiol am ddim (gelwir hyn yn ‘legal aid’ yn aml).
Rheolir hyn gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr a gallwch chi wneud cais i’r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol. Bwrdd Cymorth Cyfreithiol yr Alban sy’n rheoli cymorth cyfreithiol yn yr Alban.
Mwy o wybodaeth am eich hawl i gael treial teg dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Back to top^
Materion teuluol a lles plant
Yng Nghymru a Lloegr, mae gwrandawiadau llysoedd teulu yn delio’n bennaf gyda dadleuon sy’n ymwneud â phlant, gan gynnwys:
O dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae gennych chi’r hawl i barch at eich teulu a’ch bywyd preifat. Er mwyn i’r wladwriaeth allu ymyrryd ym mywyd teuluol rhywun, fel mae’n rhaid i’r llysoedd teulu wneud yn aml, rhaid i’r ymyrraeth fod:
Mae diffiniad y confensiwn o dreial teg yn cynnwys yr hawl i gael gwrandawiad cyhoeddus. Fodd bynnag, cynhelir achosion llys teulu yn breifat yng Nghymru a Lloegr, heb adael i’r cyfryngau gael mynediad a heb i’r penderfyniadau gael eu gwneud yn gyhoeddus. Mae’r Llywodraeth wrthi’n adolygu’r polisi wrandawiadau llys teulu preifat i weld a ellir eu gwneud yn gliriach.
Rhaid i’r llysoedd teulu ystyried hawliau plant i gael addysg effeithiol a mynediad i’r system addysg hefyd pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau.
Er nad oes yna lysoedd teulu penodol yn yr Alban, a bod achosion ysgaru’n cael eu cynnal mewn llys agored, rhaid trefnu gwrandawiad lles plentyn mewn unrhyw achos lle mae yna ddadl sy’n ymwneud â phlant. Cynlluniwyd y drefn hon er mwyn i siryf allu nodi materion y ddadl yn gyflym ac ymyrryd i ddatrys dadleuon o’r fath. Cynhelir y gwrandawiadau hyn yn breifat a rhaid i’r partïon cysylltiedig fod yn bresennol.
O dan gyfraith yr Alban, rhaid i’r barnwr roi’r brif ystyriaeth i les y plentyn wrth benderfynu p’un ai gwneud gorchymyn mewn perthynas â phlentyn neu beidio. Ni fydd yn gwneud gorchymyn oni bai ei fod yn credu y byddai hynny’n well i’r plentyn na phe bai dim un yn cael ei wneud.
Ar ôl pasio Deddf Hawliau Dynol 1998, mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn cael ei gynnwys yng nghyfraith yr Alban a rhaid i’r llysoedd roi ar waith y rhyddid sylfaenol y mae’n ei hyrwyddo.
Mae gan yr Alban system unigryw mewn gwrandawiadau plant. I ganfod mwy ewch i wefan y Scottish Children’s Reporter Administration.
Mwy o wybodaeth am swyddogaeth Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban.
Mwy o wybodaeth am adolygu gwrandawiadau preifat mewn llysoedd teulu.
Mwy o wybodaeth am gyfraith teulu yn yr Alban.
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) fwy o wybodaeth am bob agwedd o’r system llysoedd teulu.
Mwy o wybodaeth am eich hawl i barch at fywyd preifat a phersonol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Back to top^
Hygyrchedd
Dylai llysoedd a mannau lle cynhelir achosion teuluol neu sifil fod yn hygyrch i bobl anabl, a dylid gwneud addasiadau rhesymol.
Mae hyn yn cynnwys darparu cyfieithwyr lle bydd angen, yn ogystal â gwneud adeiladau’r llys yn hygyrch.
Mwy o wybodaeth am hygyrchedd a mynd i'r llys.
Back to top^
Gwasanaeth rheithgor
Yng Nghymru a Lloegr, gall y rhan fwyaf o bobl rhwng 18 a 70 mlwydd oed cael eu gwysio i gymryd rhan mewn rheithgor. Yn yr Alban, mae’r rhan fwyaf o bobl rhwng 18 a 65 mlwydd oed yn gymwys i gael eu gwysio i fod ar reithgor. Rhaid i’ch cyflogwr adael i chi wneud hyn, ond nid oes rhaid iddynt eich talu. Gallwch chi hawlio rhyw gymaint o golledion cyflog a threuliau gan y llys.
Os byddwch chi’n cael eich diswyddo am wneud gwasanaeth rheithgor, mae’n debygol y gallwch hawlio i chi gael eich diswyddo yn annheg. Gwybodaeth gan DirectGov am amser o'r gwaith ar gyfer gwasanaeth rheithgor.
Back to top^
Ydw i’n gymwys i fod ar reithgor?
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gymwys i fod yn rhan o reithgor, ond mae Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 yn nodi rhai eithriadau. Er enghraifft, efallai na fyddwch chi’n gymwys i fod ar reithgor os ydych:
Yn yr Alban, gallwch chi gael eich esgusodi ar sail eich galwedigaeth (er enghraifft, os ydych chi’n feddyg neu yn y Lluoedd Arfog). Fel arall, gallwch chi ohirio gwasanaeth rheithgor (am gyfnod o ddim hirach na blwyddyn) yn ôl doethineb y llys os gallwch chi ddangos ‘rheswm da’ (megis amgylchiadau personol neu ymrwymiadau gwaith). Gellir cael mwy o wybodaeth am system yr Alban ar wefan Cyngor ar Bopeth.
Os ydych chi’n credu na fyddech chi’n gymwys i fod ar reithgor, mae gan y System Cyfiawnder Troseddol fwy o wybodaeth.
Back to top^
Hawl i apelio
Os yw’r llysoedd yn eich cael yn euog, gallwch apelio yn erbyn eich euogfarn, eich dedfryd, neu’r ddau. Gan ddibynnu ble y clywyd eich achos gwreiddiol a pha fath o apêl rydych chi’n ei gwneud, bydd eich apêl yn cael ei chlywed gan:
Mwy o wybodaeth am eich hawliau fel troseddwr.
Ewch i wefan Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth llys yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys ffioedd a’ch llys teulu lleol.
I gael mwy o wybodaeth am y system llysoedd yn yr Alban, ewch i wefan Llysoedd yr Alban.
I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau dynol pan fyddwch chi’n mynd i’r llys darllenwch Ddeddf Hawliau Dynol 1998 – Gwybodaeth i Ddefnyddwyr Llys.
Back to top^
Gwahaniaethu yn y system farnwrol
Mae yna egwyddor gyfreithiol o’r enw ‘breinryddid llwyr rhag achos’, sy’n cyfeirio at unrhyw beth a ddywedwyd neu a wnaethpwyd fel rhan o’r gweithrediadau barnwrol. Mae hyn yn golygu na allwch ddwyn achos yn erbyn y system farnwrol os ydych chi’n credu bod y barnwr wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n gwahaniaethu.
Er hynny, rhaid i’r llysoedd gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gwrth-wahaniaethu. Dim ond i weithrediadau barnwrol y mae’r breinryddid rhag achos yn berthnasol, ac nid i swyddogaethau eraill, fel sut y gweinyddir y llys.
Rhaid i farnwyr fod yn ddiduedd. Os bydd agwedd barnwr yn gwahaniaethu yn erbyn grŵp arbennig o bobl, fe allai hyn fod yn dystiolaeth nad yw ef neu hi’n ddiduedd ond ei fod/bod yn rhagfarnllyd. Gall y rhagfarn hon fod yn rheswm dros wrthdroi penderfyniad a wnaed gan y barnwr.
Back to top^