Delio â’r heddlu  

 

Awdurdodau cyhoeddus yw’r heddlu, ac mae ganddynt yr un dyletswyddau ag awdurdodau cyhoeddus eraill o ran parchu hawliau dynol, atal gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb.

Mae nifer o bwerau a dyletswyddau’r heddlu’n cael eu pennu gan godau ymddygiad, yn hytrach na gan ddeddfwriaeth gydraddoldeb neu gyfreithiau hawliau dynol.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn delio â chwynion a materion ymddygiad yn erbyn swyddogion a staff yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.  Darllenwch fwy am Godau Ymddygiad yr Heddlu ar wefan Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

Yn yr Alban, mae gan Gomisiynydd Cwynion Heddlu'r Alban swyddogaeth debyg, a rhoddir canllawiau ar gyfer gwneud cwynion yma.

Mwy o wybodaeth am ddyletswyddau’r awdurdodau cyhoeddus.

On this page

 

Stopio a chwilio

Mae gan yr heddlu’r hawl i’ch stopio a’ch chwilio chi neu’ch cerbyd os oes ganddynt ‘amheuaeth resymol’ eich bod yn cario cyffuriau, arfau bygythiol, nwyddau wedi’u dwyn neu, yn yr Alban, rai eitemau eraill.

O dan Deddf Terfysgaeth 2000, gallant chwilio am ddefnyddiau y gallech eu defnyddio i gyflawni gweithredoedd terfysgol hefyd – nid oes angen ‘amheuaeth resymol’ i wneud hyn.

Os ydych chi mewn cerbyd, gallwch chi gael eich stopio ar unrhyw adeg, a gall eich cerbyd gael ei archwilio, hyd yn oed os nad ydych chi yno.

Yn aml, mae’r ffordd y mae’r heddlu’n defnyddio eu pwerau stopio a chwilio yn bwnc dadleuol gan fod nifer fawr o bobl sy’n cael eu stopio a’u harchwilio’n bobl ifanc a phobl o leiafrifoedd ethnig. Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae pobl dduon chwe gwaith fwy tebygol o gael eu stopio a’u harchwilio na phobl wyn, a phobl Asiaidd ddwywaith fwy tebygol.


Back to top^  

Dyletswydd yr heddlu

Mae’n anghyfreithlon i’r heddlu wahaniaethu wrth gyflawni eu swyddogaethau.  Er enghraifft, mae’n anghyfreithlon i unrhyw heddwas wahaniaethu ar sail hil wrth stopio a chwilio.

Mae gan yr heddlu ddyletswydd i drin pawb - boed y rheini’n ddioddefwyr, yn droseddwyr neu unrhyw un arall - yn deg ac yn gyfartal, ac yn unol â’u hawliau cyfreithiol a dynol.


Back to top^  

Stopio a chwilio: eich hawliau

Gall yr heddlu eich stopio a’ch archwilio i chwilio am dystiolaeth o drosedd, ond rhaid iddynt ei wneud mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r gyfraith a chodau ymarfer yr heddlu.

‘Stop’ yw pan fydd heddwas neu swyddog cymorth cymunedol yr heddlu yn eich stopio ac yn gofyn i chi ddweud eich hanes trwy ofyn cwestiynau fel pam yr ydych chi yn yr ardal arbennig honno, beth ydych chi’n ei gario ac ati.

Dim ond heddwas neu swyddog cymorth cymunedol yr heddlu mewn lifrai all eich stopio.  Os nad yw’r heddwas yn ei lifrai, rhaid iddo ef neu hi ddangos ei gerdyn adnabod.

Ni allwch chi gael eich stopio na’ch archwilio’n benodol oherwydd:

  • eich oedran, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd na chred
  • y ffordd yr ydych chi’n edrych neu’n gwisgo
  • yr iaith rydych chi’n siarad, neu’r
  • ffaith eich bod wedi’ch cael yn euog o drosedd yn y gorffennol.

Bydd swyddogion yn rhoi ffurflen i chi sy’n esbonio pam cawsoch eich stopio neu eich archwilio, a bydd gwybodaeth gysylltu ar y ffurflen.

Os na fydd swyddog yn gallu rhoi’r ffurflen lawn i chi, bydd yn rhoi derbynneb i chi yn lle. Gallwch chi gael copi o’r ffurflen lawn mewn gorsaf heddlu unrhyw bryd yn ystod y 12 mis nesaf.

Nid yw pob cyfarfod yn cyfri fel ‘stop’.  Er enghraifft, os yw heddwas yn chwilio am dystion i drosedd, neu’n rhoi cyfarwyddiadau i chi, ni fyddai hyn yn cyfri fel rheol; fodd bynnag, mae dal hawl gennych chi ofyn am ffurflen, a rhaid i’r heddwas ei llenwi a’i rhoi i chi.

Dim ond heddweision sy’n gallu eich archwilio, ac fel rheol dim ond pan fydd ganddynt reswm da dros amau eich bod yn cario eitemau arbennig.  Yr eitemau hyn yng Nghymru a Lloegr yw:

  • cyffuriau, arfau neu eiddo sydd wedi’i ddwyn
  • eitemau y gellid eu defnyddio:
  • i gyflawni trosedd
  • i gyflawni gweithred derfysgol, neu
  • i achosi difrod troseddol.

Yn yr Alban, gall yr heddlu eich stopio a’ch archwilio hefyd os ydynt yn amau eich bod yn cario un o’r pethau canlynol:

  • alcohol, os ydych chi mewn gemau pêl-droed neu rygbi penodol neu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn teithio i ddigwyddiad o’r fath
  • tystiolaeth sy’n ymwneud â throsedd o dan Ddeddf Diogelu Mamaliaid Gwyllt (yr Alban) 2002
  • arian, neu eitemau sy’n gyfwerth â £1,000 neu fwy, a gafwyd o ganlyniad i weithgaredd troseddol, neu
  • dân gwyllt rydych chi’n bwriadu eu defnyddio’n wrthgymdeithasol.

Gallwch chi gael eich stopio a’ch archwilio mewn lle cyhoeddus neu unrhyw le arall os yw’r heddlu’n credu eich bod wedi cyflawni trosedd. Dylid gwneud yr archwilio yn ofalus ac yn sensitif.  Ar y llaw arall, os bydd heddwas yn gofyn i chi dynnu mwy na’ch cot, siaced a menig, neu dynnu unrhyw beth rydych chi’n ei wisgo am resymau crefyddol, rhaid iddynt fynd â chi i rywle lle na all pobl eraill eich gweld.  Rhaid i’r heddwas sy’n cynnal yr archwiliad fod o’r un rhyw â chi hefyd.

Rhaid i’r heddweision sy’n eich archwilio ddweud nifer o bethau wrthych, gan gynnwys:

  • y gyfraith y maent yn ei dilyn wrth eich stopio neu’ch archwilio chi
  • eu henwau
  • eu gorsaf
  • beth maent yn chwilio amdano
  • pam rydych chi wedi cael eich stopio (oni bai ei fod yn stop terfysgol), a
  • bod gennych chi’r hawl i gael adroddiad o’r archwiliad.

Er mwyn olrhain tegwch a chyfiawnder y drefn stopio a chwilio, bydd yr heddlu’n gofyn i chi nodi eich ethnigrwydd ar gyfer eu cofnodion.  Defnyddir y wybodaeth hon yn unig er mwyn sicrhau nad oes unrhyw grŵp ethnig arbennig yn cael ei dargedu’n anghymesur.

Nid oes rhaid i chi roi eich enw na’ch cyfeiriad i’r heddwas, ond mae’n ddefnyddiol os byddwch chi eisiau gwneud cwyn.  Bydd yr heddlu’n cadw eich gwybodaeth ar ffeil rhag ofn byddant am gysylltu â chi’n ddiweddarach.  Os ydych chi’n poeni am y wybodaeth sydd gan yr heddlu amdanoch, gallwch chi ofyn i’w gweld.

Os byddwch chi’n penderfynu peidio â rhoi eich enw a’ch cyfeiriad iddynt, ni allwch chi gael eich arestio am hyn.

Dylech chi gadw’r ffurflen neu’r dderbynneb y bydd yr heddwas yn ei rhoi i chi gan mai hon yw’r unig gofnod sydd gennych o’r digwyddiad a bydd yn dyngedfennol os byddwch chi eisiau gwneud cwyn.

Mae pwerau’r heddlu’n wahanol yn yr Alban, ond rhaid iddynt hwythau hefyd roi rheswm dros yr archwiliad.  Ar gyfer archwiliadau arbennig (er enghraifft dan bwerau gwrthderfysgaeth) mae’r un hawl gennych i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig mewn perthynas â’r archwiliad.

Nodwch hefyd ei bod yn drosedd yn yr Alban i wrthod rhoi eich enw a’ch cyfeiriad i heddwas, os bydd yn gofyn i chi wneud hynny.

Edrychwch ar wybodaeth fwy manwl am eich hawliau o dan y drefn stopio a chwilio:

Stopio a chwilio yng Nghymru a Lloegr 

Stopio a chwilio yn yr Alban


Back to top^  

Gwneud cwyn

Dylid cynnal unrhyw broses stopio a chwilio’n gyflym ac yn broffesiynol, a rhaid i’r swyddogion fod yn foesgar ac yn barchus bob amser. Os nad dyma’r achos, mae gennych chi hawl i wneud cwyn am sut rydych chi wedi cael eich trin.  Ni ddylai heddweision eich trin yn llai ffafriol nag unrhyw un arall oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu gred, oedran na chyfeiriadedd rhywiol.

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael eich stopio a’ch archwilio’n annheg ar sail unrhyw un o’r uchod (neu yn uniongyrchol - er enghraifft oherwydd eich gwallt neu’r iaith rydych chi’n siarad, a allai fod yn berthnasol i’ch grŵp hiliol) gallwch chi wneud cwyn.  Mae’r un peth yn berthnasol i’r ffordd y byddwch chi’n cael eich trin yn ystod proses stopio a chwilio - er enghraifft, yn y ffordd y bydd rhywun yn siarad â chi.

Dylech chi wneud unrhyw gŵyn ynglŷn â stopio a chwilio yn brydlon, gan fod yna gyfyngiadau amser wrth gyflwyno achos.

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael eich trin yn llai ffafriol oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu gred, oedran neu gyfeiriadedd rhywiol, gallwch chi wneud hawliad ar sail gwahaniaethu.  Gweler yr adran Sut i ddefnyddio’ch hawliau.

Gwybodaeth lawn ar sut i wneud cwyn:

Mwy o wybodaeth am eich hawl i ryddid o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998


Back to top^  

Os cewch eich arestio

Pan gewch eich arestio, eich cadw neu eich tywys i’r orsaf heddlu, mae gennych chi’r hawl i gael eich trin yn deg heb wahaniaethu.

Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r heddlu sicrhau nad ydych chi’n cael eich rhoi dan unrhyw anfantais am eich bod, neu am nad ydych, yn perthyn i grŵp arbennig.

Er enghraifft, os oes gennych chi anabledd, megis nam ar y clyw neu’r golwg, mae dyletswydd gyfreithiol gan yr heddlu i wneud addasiadau rhesymol i ddiwallu eich anghenion, fel trefnu i gael cyfieithydd ac aros i’r cyfieithydd gyrraedd cyn eich holi.  Mwy o wybodaeth am y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol. [link to legal glossary>

Yn ogystal â’r hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu, mae gan bawb sy’n cael ei arestio hawliau sylfaenol eraill hefyd, gan gynnwys yr hawl i adael i rywun wybod eu bod wedi cael eu harestio a’r hawl i gael cyngor cyfreithiol am ddim.

Mae gan Cyngor ar Bopeth fwy o wybodaeth am bwerau’r heddlu i arestio a chadw pobl.

Darllenwch Gôd Ymddygiad llawn yr Heddlu.

Mwy o wybodaeth am bwerau a chyfrifoldebau'r heddlu.

Mwy o wybodaeth am y pwerau gwahanol sydd gan yr heddlu yn yr Alban.

Darllenwch fwy am eich hawl i ryddid o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.


Back to top^  

Os ydych chi’n dioddef trosedd

Lansiwyd y Côd Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd ar 3 Ebrill 2006 mewn perthynas â Chymru a Lloegr.  Mae’n mynnu bod asiantaethau cyfiawnder troseddol fel yr heddlu yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth ac yn amddiffyn pawb sydd wedi dioddef trosedd.

Darllenwch y Côd Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd.

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau fel dioddefwr trosedd ewch i:

Cymorth i Ddioddefwyr.

Gwefan y System Cyfiawnder Troseddol.

Yn yr Alban, gall dioddefwyr trosedd gael cyngor a gwybodaeth o wefan Cymorth i Ddioddefwyr yr Alban.

Mwy o wybodaeth am eich hawl i gael rhyddid rhag bygythiadau a thriniaeth wael o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.


Back to top^