Cyfraith sifil a throseddol
Os nad yw’r heddlu’n ymwneud ag anghytfod, mae’n fater o gyfraith sifil yn hytrach na chyfraith droseddol. Achosion sifil, yn hytrach na throseddol yw’r rhan fwyaf o’r rhai lle mae gwahaniaethu dan sylw. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ymwneud â materion cyfraith sifil, nid cyfraith droseddol na throseddau.
Mae eich hawliau dynol yn berthnasol i system y llysoedd sifil yn ogystal ag achosion troseddol. Er enghraifft, mae gennych hawl i gael treial teg mewn achos yn y llys sirol neu dribiwnlys cyflogaeth, yn ymwneud â chyflogau heb eu talu, er nad yw’n dreial troseddol.
On this page
Cyfraith sifil
Mae’r rhan fwyaf o achosion sifil yn ymwneud ag anghydfod rhwng unigolion neu sefydliadau.
Er enghraifft: os yw darparwr gwasanaeth yn codi tâl ar gwsmer i ddarparu cadair olwyn, a bod y cwsmer yn dwyn achos cyfreithiol ar sail gwahaniaethu, byddai’r achos yn un sifil a byddai’n cael ei glywed mewn llys sirol yng Nghymru a Lloegr ac yn Llys y Siryf yn yr Alban.
Rhaid profi achosion sifil yn ôl pwysau tebygolrwydd - hynny yw, mae’n fwy tebygol na pheidio bod y diffynnydd yn atebol - yn hytrach nag ar yr egwyddor “tu hwnt i amheuaeth resymol” a ddefnyddir wrth benderfynu ar achosion troseddol.
Yn aml, bydd materion cyflogaeth yn cael eu clywed yn gyntaf mewn tribiwnlys. Mwy o wybodaeth am broses y tribiwnlys o’r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth.
Back to top^
Cyfryngu a chymodi
Yn aml, mae’n bosibl datrys achosion sifil trwy gyfryngu a chymodi, gan osgoi achos llys a allai fod yn ddrud a chymryd amser maith.
Mwy o wybodaeth am gyfryngu:
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) yn darparu amrywiaeth eang o adnoddau er mwyn helpu i ddatrys anghydfodau yn y gweithle heb fynd i’r llys.
Ffoniwch y Llinell Gymorth Cyfryngu Genedlaethol ar 0845 60 30 809.
Darllenwch gyflwyniad i'r system farnwrol.
Canolfan Datrys Anghydfodau yn Effeithiol (CEDR)
Darllenwch gyflwyniad i'r system farnwrol.
Back to top^