English Language Version : Workplace training
Yn ôl y gyfraith, yr unig hyfforddiant y mae’n rhaid i gyflogwyr ei ddarparu yw hyfforddiant iechyd a diogelwch (ac eithrio cyflogwyr sector cyhoeddus sy’n gorfod bodloni gofynion dyletswydd cydraddoldeb hiliol, sy’n cynnwys hyfforddi staff ar ddyletswyddau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol). Ond mae llawer o gyflogwyr yn sylweddoli gwerth hyfforddi a datblygu’u staff, ac felly’n sicrhau bod hyfforddiant ar gael. Weithiau, mae hwn yn hyfforddiant penodol ar gyfer swydd; bryd arall, efallai y bydd yn arwain at gymhwyster allanol.
Os yw’ch cyflogwr chi’n cynnig hyfforddiant yn y gweithle, mae'n rhaid iddo ei gynnig yn gyfartal a theg. All cyflogwyr ddim gwahaniaethu ynglŷn â phwy sy’n cael cynnig hyfforddiant ar sail oed, crefydd neu gred, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol neu am fod gan rywun anabledd.
Lle mae gofynion gwirioneddol i ddilyn rhai mathau o hyfforddiant - megis bod â thrwydded gyrru, cael gwiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol neu ofynion sy’n benodol i’r swydd - rhaid i’r cyflogwr nodi’r rhain yn glir. Mae yna rai amgylchiadau hefyd lle gall oedran fod yn rheswm dros beidio â chynnig hyfforddiant: er enghraifft, os yw’r cyfnod hyfforddi yn un hir a byddai hawl gan yr unigolyn ymddeol cyn ei orffen.
Mwy o wybodaeth am hyfforddiant yn y gweithle.
Enghraifft
Mae cyflogwr yn cyflwyno rhaglen hyfforddi newydd i reolwyr ac yn gwahodd rheolwyr i fynychu un o’r diwrnodau hyfforddi. Fodd bynnag, nid yw un rheolwr sydd yn ei 50au yn cael gwahoddiad. Pan fo’r rheolwr yn gofyn i’r cyflogwyr pam na chafodd wahoddiad, mae’r cyflogwr yn dweud bod y rheolwr hwn yn rhy hen i newid ei arddull rheoli. Mae’r cyflogwr yn gwahaniaethu yn erbyn y rheolwr ar sail ei oed.