Nid yw’n orfodol i ddarparwyr addysg ddarparu profiad gwaith neu gyngor gyrfaoedd i fyfyrwyr. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o golegau yn darparu cyngor gyrfaoedd, ac mae lleoliadau gwaith yn rhan annatod o sawl cwrs coleg neu brifysgol.
Dylai unrhyw gyngor gyrfaoedd a roddir i fyfyrwyr fod yn seiliedig ar eu galluoedd a’u diddordebau, ac nid ar eu hoed, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw neu anabledd. Mae gan rai swyddi ofynion penodol – megis gofynion iaith neu ofynion corfforol (ee safonau golwg ar gyfer peilotiaid) – sy’n golygu na all rhai pobl eu cyflawni. Fodd bynnag, mae yna reolau llym a chyfyngedig ynglŷn â phryd y gall cyflogwyr roi’r gofynion hyn ar waith.
Mewn unrhyw leoliad gwaith, y cyflogwr sydd i sicrhau ei fod yn trin myfyrwyr yn deg ac mewn modd nad yw’n gwahaniaethu. [CROSSLINK to rights in employment].