Beth y mae disgwyl i ddarparwyr addysg ei wneud
English Language Version : What education providers are expected to do
Fel awdurdodau cyhoeddus eraill, disgwylir i ddarparwyr addysg megis ysgolion, colegau a phrifysgolion (yn ogystal â sefydliadau cysylltiedig megis adrannau addysg awdurdod lleol neu awdurdodau addysg yn yr Alban) hyrwyddo cyfle cyfartal a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon - ar unrhyw sail. Mwy o wybodaeth am eu cyfrifoldebau cyfreithiol i hyrwyddo cyfle cyfartal a mynd i’r afael â gwahaniaethu, a beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i gyflawni’r cyfrifoldebau hyn.
Cyfrifoldeb ac atebolrwydd
‘Corff cyfrifol’ y sefydliad penodol sy’n gyfrifol am sicrhau bod darparwyr addysg yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn mynd i’r afael â gwahaniaethu. Gallai hwn fod yn awdurdod lleol, llywodraethwyr ysgol neu’n berchennog. Bydd eich ysgol neu’ch coleg yn gallu cadarnhau pwy yw’r corff cyfrifol ar eu cyfer hwy.
Ysgolion a cholegau annibynnol
Nid oes gan ysgolion a cholegau annibynnol o reidrwydd yr un cyfrifoldebau cyfreithiol â darparwyr addysg y wladwriaeth. Mwy o wybodaeth am statws ysgolion a cholegau annibynnol.