Yr hawl i addysg effeithiol a chymorth i blant ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig
English Language Version : The right to an effective education and support for children with disabilites or special educational needs
Mae gan bawb yr hawl i addysg effeithiol.
Hynny yw, dylai’r addysg fod yn briodol i’ch oed, galluoedd a’ch tueddfryd chi (neu’ch plentyn). Yn ymarferol mae hyn fel arfer yn golygu bod yn rhaid i ysgolion neu golegau ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o addysgu disgyblion y mae yr amgylchedd ysgol neu’r cwricwlwm yn anaddas iddyn nhw am y rhesymau canlynol:
Mae hyn yn hynod bwysig i:
-
blant hyd at 19 oed sydd ag
anghenion addysgol arbennig (yn yr Alban gelwir y rhain yn anghenion cymorth ychwanegol, a darperir cymorth hyd at 17 oed), a
-
On this page
Anghenion addysgol arbennig
Mae disgybl sydd ag anghenion addysgol arbennig yn cael ei ddiffinio fel disgybl:
-
sy’n ei chael yn sylweddol anoddach dysgu na’r rhan fwyaf o ddisgyblion o’i oed; neu
- sydd ag anabledd sy’n golygu na all wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau addysgol cyffredinol a ddarperir i ddisgyblion o’i oed.
Mae gan ddisgybl ag anghenion addysgol arbennig hawl i addysg amser llawn sy’n briodol i’w anghenion.
Yng Nghymru a Lloegr mae hyn yn berthnasol i blant a phobl ifanc rhwng dwy a 19 oed. Gall hyn fod mewn ysgol arbennig neu ysgol brif ffrwd, neu mewn man arall.
Yn yr Alban gelwir anghenion addysgol arbennig yn anghenion cymorth ychwanegol. Mae gan blant a phobl ifanc rhwng tair a 17 oed sydd ag anghenion cymorth ychwanegol hawl i gael cymorth ychwanegol 'digonol ac effeithlon' i’w galluogi i elwa’n llawn ar eu haddysg.
Back to top^
Cymorth i blant ag anghenion addysgol arbennig (Lloegr)
Os ydych chi’n credu bod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig, dylech ofyn i’ch awdurdod lleol asesu’ch plentyn i ganfod pa gymorth y bydd arno fe neu hi ei angen er mwyn cael addysg briodol. Os yw’ch plentyn eisoes yn yr ysgol, trafodwch y mater gydag athro eich plentyn yn gyntaf. Hefyd, disgwylir i athrawon ddweud wrthych chi fel rhiant os ydyn nhw’n credu bod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig o bosibl.
Yn y lle cyntaf, bydd yr ysgol mwy na thebyg yn ceisio darparu cymorth ychwanegol i’ch plentyn. Gweithredu gan yr Ysgol yw’r enw ar y lefel sylfaenol o gymorth ychwanegol, a gallai olygu:
Efallai mai dim ond am amser byr y bydd angen y cymorth hwn ar eich plentyn, neu gall fod angen y cymorth am sawl blwyddyn.
Os na fydd hyn yn darparu digon o gymorth, dylai’r ysgol gael sgwrs gyda chi ynglŷn ag unrhyw gefnogaeth ychwanegol y gall ei darparu - neu ynglŷn â chael Asesiad Statudol i’ch plentyn. Archwiliad manwl gan weithwyr addysg proffesiynol yw hwn i weld beth yw anghenion addysgol eich plentyn a pha gymorth a fyddai o fantais i’ch plentyn i ddiwallu’r anghenion hyn.
Ar ôl yr asesiad, gall yr awdurdod lleol wneud Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig ar gyfer eich plentyn, os yn briodol. Bydd hwn yn egluro beth yw anghenion addysgol arbennig eich plentyn ac yn dweud beth yw’r ffordd orau o’u diwallu ym marn yr awdurdod lleol - naill ai mewn ysgol brif ffrwd neu ysgol arbennig.
Dylid ymgynghori â chi bob cam o’r ffordd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd eich plentyn.
Dylai’ch awdurdod lleol a gweithwyr proffesiynol eraill eich cynorthwyo gyda’r broses, ond gallwch gael cymorth a chefnogaeth gan wasanaethau eiriolaeth lleol, grwpiau anabledd, canolfannau'r gyfraith a chanolfannau cyngor ar bopeth.
Mwy o wybodaeth am anghenion addysgol arbennig a’r broses Asesu Statudol.
Back to top^
Cymorth i blant ag anghenion cymorth ychwanegol (yr Alban)
Os yw’ch plentyn yn cael ei addysg yn yr Alban, a’ch bod chi'n credu efallai bod ganddo anghenion cymorth arbennig, gallwch ofyn i’ch awdurdod addysg gynnal asesiad o’i anghenion addysgol. Wedyn gallan nhw lunio Cynllun Cymorth Cydlynol yn datgan natur anghenion ychwanegol eich plentyn a’r math o gymorth sydd ei angen arno.
Os ydych chi am gael mwy o wybodaeth am gymorth ychwanegol cysylltwch â chynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan cyngor ar bopeth.
Back to top^
Cynorthwyo disgyblion ag anableddau
Mae gan blant anabl hawl i addysg effeithiol ac o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd disgwylir i ddarparwyr addysg wneud ‘addasiadau rhesymol’ i sicrhau bod yr hawl hon yn cael ei chyflawni.
Mae hyn yn cynnwys materion megis addasu nodweddion ffisegol (er enghraifft, gostwng lefelau palmant, cael gwared ar rwystrau neu ddarparu lifftiau), gwneud yn siŵr bod dulliau hyfforddi yn ystyried anghenion pobl anabl (er enghraifft, trwy ddarparu taflenni gwaith mewn print bras) a gwneud yn siŵr bod gweithgareddau allgyrsiol ar gael i bawb.
Gallai hefyd gynnwys pethau fel:
-
darparu cymorth ychwanegol ar gyfer gwaith ysgrifenedig i ddisgybl ag anawsterau dysgu fel y gall gyflawni cymwysterau, neu
- drefnu cyfieithiad iaith arwyddion mewn gwersi i fyfyriwr byddar.
Beth sy’n ‘rhesymol’?
Mewn rhai achosion bydd disgyblion yn cael eu hasesu fel bod ag anghenion addysgol arbennig (neu anghenion cymorth ychwanegol yn yr Alban), oherwydd eu hanableddau
Am fwy o wybodaeth am anabledd mewn addysg ar gyfer ysgolion Cymru a Lloegr darllenwch arweiniad manwl i rieni.
Back to top^