Yr hawl i addysg
English Language Version : The right to education
Mae gan bawb hawl i addysg. Mae hon yn hawl ddynol sylfaenol o dan Ddatganiad o Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i adran addysg eich awdurdod lleol sicrhau bod addysg am ddim ar gael i bob plentyn o oed ysgol gorfodol (o bump i 16 oed) sy’n byw yn eich ardal.
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, mae’n ofynnol i’ch awdurdod addysg wneud yr un fath.
Dylai’r addysg a ddarperir fod yn briodol i oed, galluoedd a thueddfryd y disgyblion ac unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod ganddyn nhw.
Mae’r hawl i addysg yn berthnasol nid yn unig i bobl sydd wedi’u magu yn yr ardal ond hefyd i unrhyw unigolyn ifanc sy’n byw yn yr ardal am ddigon o amser i fynychu ysgol, megis:
Hefyd, rhaid i awdurdodau lleol neu awdurdodau addysg sicrhau bod llefydd ar gael mewn ysgolion i bob unigolyn ifanc rhwng 16 ac 18 oed sy’n dymuno hynny (neu lefydd mewn coleg chweched dosbarth yng Nghymru a Lloegr i bob unigolyn ifanc 16-19 oed).
On this page
Cyfrifoldebau rhieni ym maes addysg
Os ydych chi’n rhiant, mae’n ddyletswydd arnoch chi i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael addysg o bump oed tan ei fod yn 16 oed. Mae rhieni naill ai’n golygu’r ddau riant, neu warcheidwad y plentyn, neu rywun arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.
Gellir darparu’r addysg hon yn y cartref yn hytrach na’r ysgol. O 18 oed, y myfyriwr sy’n gyfrifol am ei addysg ei hun.
Back to top^
Addysg i blant sy'n rhy sâl i fynd i'r ysgol
Os na all eich plentyn fynd i’r ysgol oherwydd salwch neu anaf, rhaid i’ch awdurdod lleol chi (awdurdod addysg yn yr Alban) drefnu addysg addas. Gall hynny fod mewn ysgolion ysbytai neu unedau addysgu ysbytai, neu trwy hyfforddiant yn y cartref.
Mae gan bob plentyn sy’n mynd i ysbyty am fwy na phum niwrnod gwaith hawl i addysg wedi’i chynllunio’n gywir.
Os yw’ch plentyn chi’n absennol o’r ysgol am 15 diwrnod gwaith dilynol neu fwy, efallai y bydd yr awdurdod lleol neu’r awdurdod addysg yn asesu’i anghenion. Wedyn gall yr ysgol ddarparu gwaith i’r plentyn i’w gwblhau gartref. Efallai y bydd yr awdurdod lleol neu’r awdurdod addysg yn darparu athrawon i ymweld â’r cartref.
Os ydych chi am ganfod mwy am hyn, dylai’ch awdurdod lleol neu awdurdod addysg eich cynorthwyo, neu gallwch gael cyngor a chymorth gan wasanaeth eiriolaeth lleol, canolfan y gyfraith neu ganolfan cyngor ar bopeth.
Back to top^
Addysg i blant sy'n feichiog
Os na all plentyn fynd i’r ysgol oherwydd ei bod yn feichiog mae’n ddyletswydd o hyd ar ei hawdurdod lleol (neu awdurdod addysg yn yr Alban) i ddarparu addysg addas yn lle hynny.
Mae gan ddisgybl sy’n beichiogi hawl i 18 wythnos galendr o absenoldeb wedi’i awdurdodi ar gyfer yr amser yn union cyn ac wedi geni’r plentyn.
Dylai’r ysgol geisio cadw disgyblion sy’n feichiog neu sydd â phlant mewn addysg. Mae hyn yn golygu cadw’r disgybl ar gofrestr yr ysgol, hyd yn oed os na all hi fynychu’r ysgol am gyfnod, cael gwybod sut mae pethau’n datblygu a dod o hyd i amser addas i’w hail-integreiddio yn yr ysgol.
-
Ni ellir defnyddio beichiogrwydd fel rheswm i wahardd disgybl.
- Ni ddylid defnyddio iechyd a diogelwch fel rheswm i atal disgybl beichiog rhag mynychu’r ysgol.
Os ydych chi’n feichiog, dylech chi ddweud wrth eich ysgol fel y gall wneud trefniadau i’ch cynorthwyo.
Dylai ysgolion hefyd gynorthwyo bechgyn sy’n dod yn dadau tra’n byddan nhw yn yr ysgol, er mwyn eu cynorthwyo i barhau â’u haddysg.
Back to top^
Addysg gynnar
Mae gan bob plentyn tair a phedair blwydd oed yn y DU hawl i addysg gynnar am ddim. Dylid darparu o leiaf ddwy awr a hanner y diwrnod, am bum niwrnod yr wythnos, yn ystod amserau tymor arferol.
Nid yw hyn yn orfodol: nid yw’n ddyletswydd ar rieni i wneud i’w plant fynychu. Hefyd nid yw pob meithrinfa, ysgol neu gylch chwarae yn darparu llefydd am ddim.
Cewch wybodaeth am ysgolion a sefydliadau eraill sy’n darparu addysg gynnar ar www.childcarelink.gov.uk neu www.scottishchildcare.gov.uk.
Back to top^