English Language Version : Support for students with special educational needs
Nid oes yn rhaid i golegau a phrifysgolion ddarparu cymorth i fyfyrwyr ag anghenion addysgol arbennig fel y mae angen i ysgolion ei wneud. Fodd bynnag, mewn sawl achos efallai y bydd y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn berthnasol i anghenion addysgol arbennig - os ydynt yn codi oherwydd nam corfforol neu feddyliol, sy’n cael effaith niweidiol hirdymor a sylweddol ar allu’r unigolyn i gyflawni gweithgareddau pob dydd. Os felly, mae’n ofynnol i’r coleg neu’r brifysgol wneud ‘addasiadau rhesymol’ i sicrhau bod addysg effeithiol ar gael i fyfyrwyr ag anableddau.
Mae nifer o golegau arbenigol yn darparu cymorth ychwanegol i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu, anghenion addysgol arbennig neu anableddau penodol. Mwy o wybodaeth am ble mae’r colegau hyn a pha gefnogaeth y mae’n nhw’n ei darparu.
Mwy o wybodaeth am anghenion addysgol arbennig.