Cymorth i fyfyrwyr anabl  

 

English Language Version : Support for disabled students

 

Mae gan fyfyrwyr anabl yr un hawl i addysg effeithiol ag unrhyw un arall, ac o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, disgwylir i ddarparwyr addysg wneud ‘addasiadau rhesymol’ i sicrhau bod yr hawl hon yn cael ei bodloni.

Yng nghyd-destun addysg a hyfforddiant, gallai gwneud addasiad rhesymol gynnwys:

  • gwneud adeilad prifysgol neu goleg yn hygyrch trwy osod lifftiau neu ostwng lefel palmentydd
  • darparu cymorth ychwanegol ar gyfer gwaith ysgrifenedig i fyfyriwr ag anableddau dysgu fel y gall gyflawni cymhwyster NVQ, neu
  • drefnu cyfieithiad iaith arwyddion mewn darlithoedd i fyfyriwr byddar.

Mae cyllid ychwanegol ar gael i gynorthwyo myfyrwyr anabl mewn addysg uwch a phellach.

On this page

 

Cyllid i fyfyrwyr anabl

Os oes gennych chi anabledd, neu anhawster dysgu penodol megis dyslecsia, efallai y bydd hawl gennych chi i wneud cais am gymorth ariannol ychwanegol fel myfyriwr mewn addysg bellach neu uwch, neu fel oedolyn sy’n dysgu. Mae hwn yn cael ei dalu’n ychwanegol i unrhyw gymorth ariannol arferol y gallwch chi ei dderbyn.

Mae ffynonellau cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr anabl yn cynnwys:

  • Lwfansau Myfyrwyr Anabl
  • Cronfa Mynediad i Ddysgu
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Budd-dal analluogrwydd
  • Cronfa Cymorth Dysgwyr
  • Grantiau Dysgu i Oedolion

Mwy o wybodaeth am gyllid a chymorth ariannol mewn addysg uwch

Mwy o wybodaeth am gyllid a chymorth ariannol mewn addysg bellach neu addysg oedolion


Back to top^