Gwisg ysgol  

 

English Language Version : School uniform 

 

 

Mae hawl gan ysgolion bennu rheolau ynglŷn â’r hyn y dylai neu na ddylai disgyblion ei wisgo i’r ysgol. Ond dylai’r rheolau hyn ystyried hawliau dynol i ryddid mynegiant, rhyddid crefydd neu gred, yn ogsytal â’r hawl i beidio â wynebu gwahaniaethu.

On this page

 

A all merched wisgo trowsus i’r ysgol?

Yn ddamcaniaethol, fe allan nhw. Ond ar hyn o bryd, mater i ysgolion unigol yw penderfynu a oes hawl gan ferched wisgo trowsus – neu a oes hawl gan fechgyn wisgo clustdlysau – yn yr ysgol honno.

Yn y bôn, am fod trowsus yn wisg gonfensiynol i ferched, mae yna ddadl gref y byddai’n wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw i wrthod yr hawl i ferch wisgo trowsus taclus yn lle sgert fel rhan o gôd gwisg swyddogol.

Ond hyd yma, nid yw’r llysoedd wedi gorfod dyfarnu a fyddai’n gwahaniaethu o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw i bennu rheoliadau gwisg ysgol gwahanol i fechgyn a merched.

Mwy o wybodaeth am herio polisi gwisg ysgol.


Back to top^  

Gwisg ysgol a materion yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail hil a chrefydd

Os yw rheoliadau gwisg ysgol yn golygu bod disgyblion sy’n methu â chydymffurfio â nhw am resymau diwylliannol neu grefyddol yn methu â chymryd rhan mewn elfen o fywyd yr ysgol, yna gall y rheoliadau fod yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol ar sail hil neu grefydd

Er enghraifft, byddai rheol sy’n rhwystro disgyblion rhag gwisgo penwisg yn yr ysgol yn achosi problemau i ddynion a bechgyn Sikh sy’n gwisgo twrban, neu ddynion a bechgyn Iddewig sy’n gwisgo capiau corun, yn unol ag arferion eu grŵp hiliol neu grefyddol.

Os yw ysgolion yn mynnu bod disgyblion yn gwisgo dillad arbennig ar gyfer addysg gorfforol, gallai hyn olygu na fyddai disgyblion o rai crefyddau yn gallu cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn. Gall hyn fod yn anghyfreithlon, oni bai y gellir ei gyfiawnhau ar sail wrthrychol.

Os ydych chi’n credu eich bod chi (neu’ch plentyn) yn wynebu gwahaniaethu o ganlyniad i bolisi gwisg ysgol, y cam cyntaf yw cysylltu â phennaeth yr ysgol i drafod beth allwch chi ei wneud. Mwy o wybodaeth am herio polisi gwisg ysgol.

Enghraifft

Yn ddiweddar, enillodd merch ysgol Fwslemaidd ei hachos mewn Llys Apêl pan hawliodd hi bod y ffaith nad oedd yn gallu gwisgo’r jilbab i’r ysgol yn drosedd yn erbyn ei hawl i ryddid i amlygu ei chrefydd o dan Erthygl 9 o Gonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol. Roedd yr ysgol yn mynnu ei bod yn cydymffurfio â’i gofynion gwisg ysgol a oedd yn cynnwys shalwar kameez i ferched Mwslemaidd.

Daeth yr achos gerbron Tŷ’r Arglwyddi, a chafodd y penderfyniad ei wyrdroi, gan ddweud nad oedd Erthygl 9 yn ei gwneud yn ofynnol i alluogi unigolion amlygu eu crefydd ar unrhyw amser neu mewn unrhyw le. Ffeithiau’r achos fydd yn pennu beth sy’n ymyrryd â’r hawl hon: yn yr achos hwn, ni ymyrrwyd digon â hawliau’r ferch i amlygu ei chrefydd iddo weithredu’n groes i Erthygl 9.


Back to top^  

Beth alla i ei wneud i herio’r rheolau ar wisg ysgol fy ysgol i neu ysgol fy mhlentyn?

Os ydych chi’n credu y dylid newid y rheolau ar wisg ysgol yn eich ysgol chi (neu yn ysgol eich plentyn), dylech ddechrau trwy drafod gwisg swyddogol gyda phennaeth a llywodraethwyr yr ysgol. Dylech egluro pam eich bod chi am newid y wisg a pha newidiadau yr hoffech chi eu gweld.

Os oes gan eich ysgol chi gymdeithas rhieni/athrawon, efallai y byddwch am gysylltu â nhw a gofyn am gefnogaeth. Gallwch hefyd gynnal arolwg o ysgolion eraill yn eich ardal i weld beth yw eu rheolau nhw.

Defnyddiwyd y pwyntiau canlynol i ddadlau dros newid rheoliadau ysgol er mwyn caniatáu i ferched wisgo trowsus:

  • mae trowsus yn fwy ymarferol, maen nhw’n gynnes mewn tywydd oer ac yn fwy cyfforddus na theits nylon
  • cost: mae teits yn ddrutach am nad ydyn nhw’n para’n hir
  • mae gan rai disgyblion bryderon ynglŷn â delwedd eu corff ac mae’n well ganddyn nhw beidio â dangos eu coesau
  • diogelwch personol: efallai y gall merched redeg yn gynt mewn trowsus nag mewn sgert ac efallai y byddan nhw’n llai agored i ymosodiad anweddus
  • mae ysgolion lleol eraill yn caniatáu i ferched wisgo trowsus
  • nid yw athrawesau’n wynebu cyfyngiad ar wisgo trowsus
  • mae bron pob proffesiwn bellach yn ystyried bod trowsus yn wisg fusnes dderbyniol i fenywod
  • gall hyblygrwydd mewn codau gwisg gynorthwyo i ddarparu ar gyfer disgyblion sydd angen gwisgo trowsus am resymau crefyddol neu ddiwylliannol, gan osgoi’r angen am eithriadau arbennig sy’n tynnu sylw at rai merched ymysg eu cyfoedion, ac
  • efallai y byddai’n well gan rai merched anabl wisgo trowsus am resymau ymarferol.

Enghraifft

Collodd merch Gristnogol, a oedd am wisgo modrwy burdeb i’r ysgol i arddangos ei chred, ei hachos yn yr Uchel Lys. Roedd polisi gwisg ysgol yr ysgol yn gwahardd gemwaith. Er mai amlygu ei chrefydd yr oedd y fodrwy, dyfarnodd y llysoedd nad oedd yn rhywbeth yr oedd ei chrefydd yn disgwyl iddi ei gwisgo.


Back to top^