Crefydd a chred  

 

English Language Version : Religion and belief 

 

 

Mae’n ofynnol i ysgolion o dan y Ddeddf Hawliau Dynol barchu hawliau rhieni i sicrhau bod addysg ac addysgu yn cyd-fynd â’u credoau crefyddol, moesol ac athronyddol nhw.

Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu y dylai ysgolion ddarparu cwricwlwm cytbwys ar y cyfan, sy’n hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol disgyblion a chymdeithas ac sy’n paratoi disgyblion ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd fel oedolion.

Rhaid i hyn gynnwys addysg grefyddol ac addysg rhyw, ond:

  • ni ddylai addysg grefyddol gynnwys unrhyw fath o drwytho
  • gall rhieni ofyn i’w plant gael eu hesgusodi o addoliad neu hyfforddiant crefyddol, ac o wasanaethau crefyddol, a
  • rhaid i addysg rhyw adlewyrchu gwerth bywyd teuluol ac ystyriaethau moesol. Dylai unrhyw addysg rhyw a ddarperir fod yn briodol i oed, a chefndir crefyddol a diwylliannol y disgyblion.

Hefyd, dylai ysgolion wneud yn siŵr nad oes neb yn gwahaniaethu yn erbyn disgyblion ar sail eu crefydd neu eu cred eu hunain. Mae Rhan 2 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006 yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn disgyblion ar sail eu crefydd neu eu cred eu hunain neu ar sail diffyg crefydd neu gred. Mae yna eithriadau, er enghraifft, pan fo ysgol yn derbyn disgyblion sy’n perthyn, neu y mae eu rhieni yn perthyn i enwad crefyddol arbennig.

Gallwch ddysgu mwy am Ran 2 o’r Ddeddf Cydraddoldeb trwy lawrlwytho arweiniad a gyhoeddir gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Mwy o wybodaeth am hawliau dynol i ryddid meddwl a chrefydd a rhyddid mynegiant.