Dewisiadau'r rhieni ym maes addysg
English Language Version : Parental choice in education
Gall rhieni ddatgan dewis ynglŷn â pha ysgol y mae eu plentyn yn ei mynychu yn eu dalgylch. Ond nid oes rhaid i awdurdodau lleol (neu awdurdodau addysg yn yr Alban) gytuno â’r dewis, yn enwedig os yw’r ysgol yn orlawn.
Os nad yw’ch plentyn yn cael cynnig lle yn yr ysgol o’ch dewis, gallwch ofyn i’r awdurdod lleol neu’r awdurdod addysg egluro’r rhesymau a thrafod yr opsiynau. Os ydych chi’n dal heb gael ateb boddhaol, gallwch chi apelio (mae hyn yn golygu cymryd camau gweithredu ffurfiol).
Mwy o wybodaeth am sut i apelio yng Nghymru a Lloegr ar wefan y llywodraeth Directgov.
Mwy o wybodaeth am ddewis ysgol a'ch hawliau yn yr Alban ar wefan llywodraeth yr Alban.
On this page
Dysgu am wahanol ysgolion a'u cymharu
Rhaid i ysgolion gyhoeddi manylion yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu, eu perfformiad mewn profion ac arholiadau’n ddiweddar, dyddiadau’r tymor am y flwyddyn i ddod, oriau’r ysgol a’u polisïau ar faterion megis disgyblaeth, gwisg ysgol, gwaith cartref ac anghenion cymorth ychwanegol.
Hefyd, rhaid i ysgolion baratoi datganiad polisi ar ddatblygu gwerthoedd ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion, a pholisi cyfle cyfartal ar wahân. Yn ogystal, mae’n rhaid iddyn nhw baratoi polisi cydraddoldeb hiliol ac mae’n rhaid gallu dod o hyd iddo’n hawdd os yw’n rhan o’r polisi cyfle cyfartal.
Gall yr holl wybodaeth hon gynorthwyo rhieni i wneud dewisiadau ynglŷn â pha ysgol y maen nhw am i’w plant fynd iddi.
Chwiliwch am wybodaeth am wahanol ysgolion yng Nghymru a Lloegr ac yn yr Alban.
Back to top^
A all ysgolion ddethol pa ddisgyblion i'w derbyn?
O dan rai amgylchiadau, gallant. Dylai pob ysgol (gan gynnwys ysgolion annibynnol) gyhoeddi ei pholisi derbyn ac egluro sut mae’n penderfynu pa ddisgyblion i’w derbyn. Er enghraifft, mae gan lawer o ysgolion bolisïau derbyn sy’n rhoi blaenoriaeth i blant y mae eu brodyr a’u chwiorydd hŷn eisoes wedi mynychu’r ysgol.
-
Gall ysgolion ffydd roi blaenoriaeth i blant sy’n dilyn y ffydd honno.
-
Ni all ysgolion cynradd a gynhelir gan awdurdod lleol (neu awdurdod addysg yn yr Alban) ddethol plant ar sail gallu academaidd.
-
Mae hawl gan ysgolion cynradd annibynnol ddethol plant yn unol â’r polisi derbyn a gyhoeddwyd ganddynt.
Mae rhai ysgolion uwchradd yn Lloegr yn dethol yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar sail gallu academaidd, neu allu mewn pwnc arbennig, megis cerddoriaeth. Mae chwe chanolfan ragoriaeth yn yr Alban, sy’n dethol yn ôl gallu mewn cerddoriaeth, chwaraeon neu ddawns. Ni all ysgol sy’n rhannol ddewisol gadw llefydd yn wag os nad oes ganddi ddigon o ddisgyblion o’r safon angenrheidiol.
Nid yw hyn yn berthnasol i ysgolion annibynnol. Nid oes hawl gan unrhyw ysgol wahaniaethu yn eu polisïau derbyn ar sail hil. Nid oes hawl gan ysgolion cydaddysgol wahaniaethu ar sail rhyw. Ar y llaw arall, mae hawl gan ysgolion un rhyw wahaniaethu trwy dderbyn bechgyn neu ferched yn unig.
Back to top^
Newid ysgolion
Fel arfer, mae rhieni yn gwneud dewis ynglŷn â’r ysgol y dylai eu plentyn fynd iddi pan fydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol gynradd neu uwchradd. Fodd bynnag, gallwch ofyn i’r awdurdod lleol neu’r ysgol am i’ch plentyn gael lle mewn ysgol wahanol unrhyw bryd. Mae hyn yn cynnwys os ydych chi’n symud tŷ.
Back to top^
Addysg yn y cartref
Mae hawl gan rieni addysgu eu plant yn y cartref yn hytrach na’u hanfon i ysgol. Ond os yw rhieni yn dewis gwneud hyn, rhaid i’r awdurdod lleol (neu’r awdurdod addysg yn yr Alban) wneud yn siŵr bod yr addysg hon o ansawdd da. Os ydych chi am addysgu eich plentyn yn y cartref, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol neu awdurdod addysg i drafod hyn.
Back to top^