English Language Version : Grants and financial support
Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i adran addysg awdurdod lleol (neu awdurdod addysg yn yr Alban) neu sefydliad arall ddarparu cymorth ariannol i fyfyrwyr dros 16 oed. Fodd bynnag, mae amrywiaeth eang o gymorth ar gael i fyfyrwyr, gan awdurdodau lleol/awdurdodau addysg, yn ogystal â chan y llywodraeth (ar ffurf budd-daliadau) a chan golegau unigol.
Er enghraifft, os ydych chi’n oedolyn (dros 16 oed) yng Nghymru a Lloegr heb gymhwyster Lefel 2 llawn (hy nid oes gennych chi bum TGAU graddau A* - C, Lefel 2 NVQ neu gymhwyster cyfwerth), efallai y byddwch chi’n gymwys i gael hyfforddiant a chofrestru am ddim ar gwrs Lefel 2 llawn.
Mwy o wybodaeth am yr hyfforddiant a chymorth ariannol sydd ar gael i bobl 16-19 oed sy’n byw yn yr Alban. Gellir dod o hyd i wybodaeth am gymorth ariannol i fyfyrwyr o’r Alban yma.
Mwy o wybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr yn Lloegr ar wefan y llywodraeth Directgov neu Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (UCM).