Profiad gwaith a chyngor gyrfaoedd 

 

English Language Version : Work experience and careers advice

 

Nid yw’n orfodol i ysgolion ddarparu profiad gwaith neu gyngor gyrfaoedd i ddisgyblion, ond mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn dewis gwneud hynny. Mae rhai yn darparu cyngor gyrfaoedd trwy Connexions neu Careers Scotland.

Dylai unrhyw gyngor gyrfaoedd a roddir i fyfyrwyr fod yn seiliedig ar eu galluoedd a’u diddordebau, ac nid ar eu hoed, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw neu a oes ganddyn nhw anabledd. Mae gan rai swyddi ofynion penodol - megis gofynion iaith neu ofynion corfforol (ee safonau golwg ar gyfer peilotiaid) - sy’n golygu na all rhai pobl eu cyflawni. Fodd bynnag, mae yna reolau llym a chyfyngedig ynglŷn â phryd y gall cyflogwyr roi’r gofynion hyn ar waith.

Enghraifft

Mae merch yn gofyn am gyngor ar wahanol yrfaoedd yn gweithio yn yr awyr agored. Mae’r cynghorydd gyrfaoedd yn siarad â hi am swyddi ym maes coedwigaeth a gweithio gydag anifeiliaid, ond nid yw’n cynnig gwybodaeth am waith adeiladu. Gall hyn fod yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw, os nad yw’r cynghorydd wedi darparu gwybodaeth am adeiladu dim ond am ei bod yn fenyw. Gall hefyd fod yn wahaniaethu anuniongyrchol os oes gan y gwasanaeth cyngor gyrfaoedd bolisi o beidio â darparu gwybodaeth am bob gyrfa yn gyfartal i fechgyn a merched.

Os ydych chi’n gwneud profiad gwaith, y cyflogwr sy’n rhoi’r lleoliad i chi sydd i sicrhau ei fod yn eich trin yn deg ac mewn modd nad yw’n gwahaniaethu. Rhaid i gyflogwyr gynnal asesiad risg iechyd a diogelwch cyn i fyfyrwyr fynd ar y safle i gychwyn eu lleoliad gwaith. 

Os ydych chi’n credu nad ydych yn cael eich trin yn deg, dylech ddechrau trwy siarad â’r athro a drefnodd y profiad gwaith.