Ymuno ag addysg  

English Language version: Getting into education

 

Yn yr adran hon gallwch ddysgu am yr hawliau sydd gan bawb i addysg, o dair oed i fyny, yn ogystal â chael gwybodaeth am hawl rhieni i wneud dewisiadau ynglŷn ag addysg eu plant. Rydyn ni hefyd yn edrych ar ba gymorth y mae hawl gan blant ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig ei gael a beth y mae hawl gan ysgolion ei wneud i ddisgyblu disgyblion.

Mae'r rhan fwyaf o’r wybodaeth yn yr adran hon yn cyfeirio at ysgolion ac addysg orfodol (sydd ar gyfer plant hyd at 16 oed ar hyn o bryd). Darllenwch am hawliau ym maes addysg a hyfforddiant ôl-16 oed.

Efallai eich bod chi wedi clywed yn ddiweddar am gynigion gan y llywodraeth i newid y ddeddf fel bod yn rhaid i bobl ifanc Cymru a Lloegr aros mewn addysg neu hyfforddiant nes eu bod yn 18 oed. Mae’r cynigion hyn yn dal i gael eu trafod ac ni fydd unrhyw newid i’r ddeddf yn digwydd am sawl blwyddyn.

Yr hawl i addysg

Yr hawl i addysg effeithiol a chymorth i blant ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig

Dewisiadau’r rhieni ym maes addysg

Disgyblaeth mewn ysgolion