Asesiadau teg 

 

Dylai asesiadau – megis arholiadau neu asesiadau llafar – gael eu cynnal mewn amgylchedd teg nad yw’n rhoi mantais nac anfantais arbennig i unrhyw fyfyrwyr.

Dylai aseswyr bob amser geisio asesu gwaith mor deg â phosibl. Mae’r rhan fwyaf o arholiadau ôl 16 oed yn cael eu marcio’n ddienw er mwyn cynorthwyo i sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael unrhyw fantais neu anfantais. Fodd bynnag, efallai na fydd gwaith cwrs yn cael ei farcio’n ddienw.

On this page

 

Gohirio arholiadau

Os yw disgybl yn sâl ac yn methu â mynychu ei arholiadau, dylai ysgolion geisio canfod ffyrdd o sicrhau bod y disgybl yn cael cyfle i sefyll yr arholiad – naill mewn man arall neu ar ddyddiad gwahanol. Ond nid oes unrhyw reidrwydd arnynt i wneud hynny: yr ysgol sydd i lunio’i pholisi ei hunan, a’r disgybl sydd i brofi nad oedd yn gallu mynychu’r arholiad.

Os oes gan ddisgybl salwch hirdymor sy’n cael ei ddiffinio fel anabledd o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, efallai y bydd rheolau gwahanol yn berthnasol. Mwy o wybodaeth am anabledd mewn addysg.[CROSS LINK to Disability section]


Back to top^