Cyfle cyfartal  

 

Englich Language Version : Equal opportunities

 

Rhaid i bob disgybl gael yr un mynediad i gwricwlwm yr ysgol a rhaid iddyn nhw gael yr un dewis o bynciau a derbyn yr un faint o addysgu mewn pynciau.

Mae hyn yn golygu y disgwylir i fechgyn a merched gymryd rhan ym mhob agwedd ar y cwricwlwm ysgol, ac ni ellir cynnig cyrsiau neu bynciau penodol i un rhyw yn unig. Nid oes eithriadau i hyn bellach. Fodd bynnag, mae hawl gan ysgolion cydaddysgol gael grwpiau dysgu o un rhyw, ar yr amod bod bechgyn a merched yn cael yr un cyfle a mynediad i’r un adnoddau.

On this page

 

A all ysgolion drin disgyblion yn wahanol mewn chwaraeon neu weithgareddau corfforol eraill?

Mae deddfau gwahaniaethu ar sail rhyw yn caniatáu i chwaraeon, gemau neu weithgareddau eraill o natur gystadleuol gael cystadlaethau ar gyfer un rhyw os yw cryfder corfforol, stamina neu gorffoledd menyw yn ei rhoi o dan anfantais i’r dyn cyffredin. Mae cyfraith achosion wedi sefydlu bod hyn yn berthnasol i ferched yn ogystal â dynion.

Mae hyn yn golygu y gall ysgolion:

  • gael timau ar wahân i fechgyn a merched ar gyfer rhai chwaraeon, a
  • gwahanu merched a bechgyn mewn gwersi chwaraeon, ond dim ond os gellir dweud bod y rhain o natur gystadleuol.


Back to top^