English Language Version : Equal opportunities in post-16 education
Ar ôl 16 oed, gall ysgolion a cholegau gyfyngu mynediad i gyrsiau penodol i fyfyrwyr sydd wedi cyflawni’r cymwysterau angenrheidiol neu a all brofi bod ganddyn nhw’r wybodaeth sydd ei hangen am y pwnc i ddilyn y cwrs. Ond allan nhw ddim cyfyngu mynediad i’r cyrsiau hyn - neu unrhyw weithgaredd o fewn y cyrsiau - ar sail anabledd, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Ni all darparwyr addysg bellach nac addysg uwch gyfyngu mynediad i gyrsiau ar sail oedran.
Enghraifft
Mae myfyriwr sy’n ei chael yn anodd symud o gwmpas yn cael gwybod na all gymryd rhan mewn ymweliad maes daearyddiaeth oherwydd ei nam - er na fyddai’r gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer yr ymweliad yn rhy anodd iddo eu cyflawni. Mae’r coleg yn dweud mai’r rheswm am hyn yw nad yw’r drafnidiaeth sydd wedi’i darparu ar gyfer y daith (bws mini coleg) yn hygyrch.
Mae hyn yn gwahaniaethu yn erbyn y myfyriwr ar sail ei anabledd, am nad yw’r coleg yn darparu trafnidiaeth hygyrch. Gallai hyn fod yn enghraifft o beidio â gwneud addasiadau rhesymol.