Cyfle cyfartal mewn addysg ôl 16 oed
English Language Version : Equal opportunities in post-16 education
Ar ôl 16 oed, gall ysgolion a cholegau gyfyngu mynediad i gyrsiau penodol i fyfyrwyr sydd wedi cyflawni’r cymwysterau angenrheidiol neu a all brofi bod ganddyn nhw’r wybodaeth sydd ei hangen am y pwnc i ddilyn y cwrs. Ond allan nhw ddim cyfyngu mynediad i’r cyrsiau hyn - neu unrhyw weithgaredd o fewn y cyrsiau - ar sail anabledd, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Ni all darparwyr addysg bellach nac addysg uwch gyfyngu mynediad i gyrsiau ar sail oedran.
Enghraifft
Mae myfyriwr sy’n ei chael yn anodd symud o gwmpas yn cael gwybod na all gymryd rhan mewn ymweliad maes daearyddiaeth oherwydd ei nam - er na fyddai’r gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer yr ymweliad yn rhy anodd iddo eu cyflawni. Mae’r coleg yn dweud mai’r rheswm am hyn yw nad yw’r drafnidiaeth sydd wedi’i darparu ar gyfer y daith (bws mini coleg) yn hygyrch.
Mae hyn yn gwahaniaethu yn erbyn y myfyriwr ar sail ei anabledd, am nad yw’r coleg yn darparu trafnidiaeth hygyrch. Gallai hyn fod yn enghraifft o beidio â gwneud addasiadau rhesymol.
On this page
Asesiadau teg
Dylai asesiadau – megis arholiadau neu asesiadau llafar – gael eu cynnal mewn amgylchedd teg nad yw’n rhoi mantais nac anfantais arbennig i unrhyw fyfyrwyr.
Dylai aseswyr bob amser geisio asesu gwaith mor deg â phosibl. Mae’r rhan fwyaf o arholiadau ôl 16 oed yn cael eu marcio’n ddienw er mwyn cynorthwyo i sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael unrhyw fantais neu anfantais. Fodd bynnag, efallai na fydd gwaith cwrs yn cael ei farcio’n ddienw.
Back to top^
Gohirio arholiadau
Os yw disgybl yn sâl ac yn methu â mynychu ei arholiadau, dylai ysgolion geisio canfod ffyrdd o sicrhau bod y disgybl yn cael cyfle i sefyll yr arholiad – naill mewn man arall neu ar ddyddiad gwahanol. Ond nid oes unrhyw reidrwydd arnynt i wneud hynny: yr ysgol sydd i lunio’i pholisi ei hunan, a’r disgybl sydd i brofi nad oedd yn gallu mynychu’r arholiad.
Os oes gan ddisgybl salwch hirdymor sy’n cael ei ddiffinio fel anabledd o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, efallai y bydd rheolau gwahanol yn berthnasol. Mwy o wybodaeth am anabledd mewn addysg.
Back to top^
Lleoliadau gwaith a chyngor gyrfaoedd
Nid yw’n orfodol i ddarparwyr addysg ddarparu profiad gwaith neu gyngor gyrfaoedd i fyfyrwyr. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o golegau yn darparu cyngor gyrfaoedd, ac mae lleoliadau gwaith yn rhan annatod o sawl cwrs coleg neu brifysgol.
Dylai unrhyw gyngor gyrfaoedd a roddir i fyfyrwyr fod yn seiliedig ar eu galluoedd a’u diddordebau, ac nid ar eu hoed, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw neu anabledd. Mae gan rai swyddi ofynion penodol – megis gofynion iaith neu ofynion corfforol (ee safonau golwg ar gyfer peilotiaid) – sy’n golygu na all rhai pobl eu cyflawni. Fodd bynnag, mae yna reolau llym a chyfyngedig ynglŷn â phryd y gall cyflogwyr roi’r gofynion hyn ar waith.
Mewn unrhyw leoliad gwaith, y cyflogwr sydd i sicrhau ei fod yn trin myfyrwyr yn deg ac mewn modd nad yw’n gwahaniaethu. Rhaid i gyflogwyr gynnal asesiad risg iechyd a diogelwch cyn y gall myfyrwyr fynd ar y safle i gychwyn eu profiad gwaith. Efallai y bydd gan sefydliadau mwy bolisi recriwtio lleoliadau gwaith: os felly, rhaid i’r polisïau fod yn deg a pheidio â gwahaniaethu.
Rhaid i sefydliadau addysg bellach ac uwch wneud yn siŵr bod myfyrwyr anabl yn cael yr un cyfle i ddilyn lleoliadau gwaith â myfyrwyr nad ydyn nhw’n anabl. Gall hyn fod yn her. Mwy o wybodaeth am leoliadau gwaith i fyfyrwyr anabl.
Back to top^