English Language Version : Education and training after the age of 16
Er bod gan bawb yr hawl i addysg, nid oes unrhyw reidrwydd ar hyn o bryd i bobl aros mewn addysg neu hyfforddiant ar ôl 16 oed. Nid oes unrhyw gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol (neu awdurdodau addysg yn yr Alban) i sicrhau bod addysg i’r rhai ôl 16 oed ar gael yn eu hardal.
Efallai eich bod chi wedi clywed yn ddiweddar am gynigion gan y llywodraeth i newid y ddeddf fel bod yn rhaid i bobl ifanc Cymru a Lloegr aros mewn addysg neu hyfforddiant nes eu bod yn 18 oed. Mae’r cynigion hyn yn dal i gael eu trafod ac ni fydd unrhyw newid i’r ddeddf yn digwydd am sawl blwyddyn.
Fodd bynnag, os ydych chi am gael addysg bellach neu am wella eich sgiliau, mae llawer o gyfleoedd a chymorth ar gael.
Os ydych chi’n gwneud cais i ymuno â chwrs, ni all y darparwr addysg neu hyfforddiant wrthod eich cais oherwydd eich rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred neu am fod gennych chi anabledd. Mae ganddyn nhw hawl, dan amgylchiadau penodol, i wrthod eich cais oherwydd eich oed (er nid os yw’r hyfforddiant yn alwedigaethol).
Enghraifft
Nid yw myfyriwr hŷn yn cael lle ar gwrs, er bod rhywun â chymwysterau is yn cael lle, am fod arweinydd y cwrs yn credu ei fod yn rhy hen. Mae hyn yn enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol.
Enghraifft
Mae myfyrwraig â dyslecsia yn gwneud cais i wneud gradd mewn Saesneg ac mae’r brifysgol yn dweud wrthi nad yw’n derbyn myfyrwyr dyslecsig ar gyrsiau gradd Saesneg. Mae’r fyfyrwraig wedi bodloni’r gofynion cymhwyso ar gyfer y cwrs (trwy Safon Uwch a Safon UG), ac mae myfyrwyr sydd â chymwysterau tebyg yn cael llefydd ar y cwrs. Mae’r brifysgol yn gwahaniaethu yn ei herbyn oherwydd ei hanabledd. Mae hyn yn wahaniaethu uniongyrchol.
Grantiau a chymorth ariannol ar gyfer addysg ôl-16 oed
Cymorth i fyfyrwyr anabl mewn addysg ôl 16-oed
Cymorth i fyfyrwyr ag anghenion addysgol arbennig mewn addysg ôl-16 oed
Hyfforddiant yn y gweithle
Sicrhau asesiadau teg mewn addysg ôl-16 oed