Disgyblaeth mewn ysgolion 

 

English Language Version : Discipline in school

 

Disgwylir i ysgolion bennu rheolau ynglŷn ag ymddygiad yn yr ysgol a’r tu allan iddi. Rhaid i bob ysgol gael cod disgyblu sy’n hyrwyddo ymddygiad da ac yn amlinellu pa gamau gweithredu y bydd yn eu cymryd os yw disgyblion yn aflonyddu neu’n torri cod yr ysgol. Dylid disgwyl yr un safonau gan bob disgybl.

Enghraifft

Mae bachgen saith mlwydd oed yn taro myfyriwr arall yn y dosbarth am fod hwnnw’n dân ar ei groen. Mae’r ysgol yn anfon llythyr at ei rieni ac yn gwrthod rhai breintiau iddo, megis rhyddid amser egwyl, am ddiwrnod. Wythnos yn ddiweddarach mae merch saith mlwydd oed yn taro disgybl arall o dan amgylchiadau tebyg. Mae’n cael ei gwahardd o’r ysgol, am fod yr athro dosbarth yn teimlo bod y drosedd yn waeth os bydd merch yn taro rhywun nag os bydd bachgen yn gwneud hynny. Gallai hyn fod yn achos o wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw na ellir ei gyfiawnhau.

 Fwyfwy mae disgwyl i ysgolion gynnwys plant a rhieni yn y gwaith o ddatblygu polisïau disgyblu’r ysgol.  Yn Lloegr, gofynnir i rieni lofnodi cytundebau rhwng y cartref a’r ysgol, yn dangos eu bod yn cefnogi dull yr ysgol ac y byddan nhw’n gofalu bod eu plant yn dilyn y rheolau ar bresenoldeb, disgyblaeth a gwaith cartref. Dylai disgyblion fod yn uniongyrchol gysylltiedig â llunio cytundebau o’r fath, a gofynnir iddyn nhw hefyd eu llofnodi.

On this page

 

Cosb gorfforol

Mae cosb gorfforol bellach wedi’i gwahardd ym mhob ysgol, gan gynnwys ysgolion annibynnol, yn unol â’r hawl i fyw heb fygythiadau neu gamdriniaeth. Mae hawl gan athrawon ddefnyddio mathau eraill o gosbau er mwyn cadw disgyblaeth yn yr ysgol, gan gynnwys cadw disgyblion ar ôl ysgol.


Back to top^  

Gwaharddiadau

Gall plant gael eu gwahardd o’r ysgol am amser byr os ydyn nhw wedi torri rheol y mae’r ysgol yn ei hystyried yn bwysig. Gellir eu gwahardd yn barhaol (eu diarddel) os yw’r ysgol yn penderfynu bod eu hymddygiad yn annerbyniol.

Dim ond pan fo pob dim arall wedi methu y dylid gwahardd digsybl. Gellir gwahardd am un neu fwy o gyfnodau sefydlog, hyd at gyfanswm o ddim mwy na 45 diwrnod mewn blwyddyn ysgol, oni bai ei fod yn waharddiad parhaol. Yng Nghymru a Lloegr rhaid i’r pennaeth:

  • ddweud wrth rieni’r plentyn am y gwaharddiad
  • ddweud wrth y plentyn a’r rhieni beth yw’r rheswm dros y gwaharddiad
  • dweud a yw yn bwriadu gwneud cais am waharddiad parhaol ac
  • egluro y gall rhieni a disgyblion apelio yn erbyn y gwaharddiad i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol.

Os nad yw disgyblion yn cael gwybod y gallan nhw apelio, gallai’r penderfyniad i’w gwahardd fod yn destun adolygiad barnwrol.

Gall llywodraethwyr yr ysgol orchymyn i’r pennaeth dderbyn plentyn sydd wedi’i wahardd yn ôl.

Gall rhieni myfyriwr nad yw’n cael ei dderbyn yn ôl ar ôl apelio fynd â’r apêl i banel addysg.

Yn yr Alban, rhaid i’r awdurdod lleol, ar y diwrnod y gwneir penderfyniad i wahardd disgybl, ddweud wrth rieni’r plentyn am:

  • y penderfyniad i wahardd, a’r
  • dyddiad, yr amser a’r lleoliad lle gall y pennaeth, athro neu swyddog yr awdurdod addysg drafod y penderfyniad gyda nhw. Rhaid cynnal y cyfarfod hwn cyn pen saith niwrnod wedi’r penderfyniad i wahardd.

Rhaid i’r awdurdod wedyn ysgrifennu at y plentyn neu’r rhieni i ddweud wrthyn nhw:

  • pam fod y plentyn wedi’i wahardd
  • am yr hawl i apelio a sut i wneud hynny, ac
  • unrhyw wybodaeth berthnasol arall, megis cynllun gweithredu arfaethedig sy’n amlinellu swyddogaethau a chyfrifoldebau’r naill a’r llall er mwyn cynorthwyo’r plentyn i ddychwelyd i’r ysgol, os yn berthnasol. 

Gwneir apêl wedyn i’r Pwyllgor Apeliadau Addysg. Os nad yw plentyn yn cael ei dderbyn yn ôl ar ôl y gwrandawiad hwn, gellir gwneud apêl arall i’r llys sirol.


Back to top^  

Gwaharddiadau parhaol

Os yw’ch plentyn wedi'i wahardd yn barhaol (ei ddiarddel) o unrhyw ysgol, mae gan yr awdurdod addysg lleol ddyletswydd i ddarparu addysg addas arall. Gall hyn fod mewn:

  • ysgol arall yn yr ardal      
  • ysgol mewn ardal awdurdod addysg arall, neu
  • uned addysgol arbennig leol (neu trwy drefniadau arbennig yn yr Alban).

Gall ysgolion wrthod derbyn disgybl sydd wedi’i wahardd yn barhaol o ddwy ysgol o leiaf. Mae’r rheol hon yn berthnasol am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl yr ail waharddiad. Nid yw’n berthnasol os yw disgybl wedi’i dderbyn yn ôl ar ôl cael ei wahardd.

Os gwrthodir lle i ddisgybl o dan y rheol hon, ni all y rhieni na’r disgybl apelio.


Back to top^