Ymdrin â bwlio  

 

English Language Version : Dealing with bullying

 

Mae gan ddarparwyr addysg Cymru a Lloegr gyfrifoldeb i fynd i’r afael â phob math o fwlio o dan Ddeddf Addysg 2002. Mae’n ofynnol i ysgolion unigol weithredu polisi gwrth-fwlio sy’n amlinellu sut byddan nhw’n:

  • cofnodi achosion o fwlio
  • ymchwilio i ddigwyddiadau o’r fath a mynd i’r afael â nhw
  • cefnogi’r rhai sy’n cael eu bwlio, a
  • disgyblu bwlis.

Weithiau gall bwlio gynnwys aflonyddu, gwahaniaethu neu erledigaeth ar sail oed, crefydd neu gred, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd. Mae’r rhain i gyd yn anghyfreithlon. Gallan nhw hefyd fod yn droseddau.

Yn yr Alban, argymhellir y dylai pob ysgol sefydlu polisi gwrth-fwlio, ond nid yw’n rhwymedigaeth gyfreithiol arnynt. Mae mwy o wybodaeth am ymdrin â bwlio yn yr Alban ar wefan respect me.

Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007 yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn unrhyw ddisgybl ar sail ei gyfeiriadedd rhywiol.  Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ysgolion fynd i’r afael â bwlio ar sail cyfeiriadedd rhywiol gwirioneddol (neu ganfyddedig) mewn ffordd sydd yr un mor ddifrifol â bwlio ar sail hil, rhyw, anabledd, crefydd neu gred, ac oed.

Dysgwch fwy am Reoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007 trwy lawrlwytho arweiniad gan yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol.

Mae’r amrywiol reoliadau cydraddoldeb sy’n gysylltiedig â chyflogaeth yn diogelu gweithwyr cyflogedig mewn ysgolion rhag aflonyddu yn y gweithle ar sail cyfeiriadedd rhywiol, oed, crefydd neu gred, rhyw, hil neu anabledd. Mwy o wybodaeth am eich hawliau o ran gwaith ac ennill cyflog.

On this page

 

Sut ddylwn i fel rhiant fynd i’r afael â bwlio?

Mae llawer o gymorth a gwybodaeth ar gael i rieni ar sut i fynd i’r afael â bwlio. Dyma rai syniadau bras o’r hyn y gall rhieni fod am ei wneud.

  • Yn gyntaf, siaradwch â’ch plentyn i glywed beth sydd ganddo ef neu hi i’w ddweud.
  • Yna trefnwch i gael siarad ag athro’ch plentyn. Dylech holi sut y maen nhw’n ymdrin ag amheuon o fwlio fel arfer a sut y maen nhw’n bwriadu bwrw ymlaen â’r mater.
  • Gallwch chi hefyd holi a oes gan yr ysgol bolisi gwrth-fwlio. Os oes, gofynnwch am ei weld.
  • Os nad ydych chi’n fodlon ag ymateb yr athro, dylech chi ofyn am gael gweld y pennaeth.
  • Os ydych chi’n dal yn anhapus, gallech gysylltu â bwrdd llywodraethu’r ysgol a/neu’r awdurdod lleol (awdurdod addysg yn yr Alban).
  • Os yw’r bwlio’n ddifrifol, mae’n bosibl y gellid ei ystyried yn weithgaredd troseddol. Os felly, a’ch bod chi o’r farn nad yw’r ysgol yn ymdrin ag ef, efallai y byddwch chi am gysylltu â’r heddlu.
  • Os yw yn fwlio ar sail hil neu grefydd neu os yw o natur homoffobig, er enghraifft, gellir ei ddiffinio fel trosedd casineb, ac os felly efallai y bydd rheolau gwahanol yn berthnasol. Mwy o wybodaeth am drosedd casineb.

Gall gwefan arweiniad i gyngor  Cyngor ar Bopeth roi mwy o wybodaeth i chi am sefydliadau a all gynorthwyo.


Back to top^  

Bwlio a all gael ei ystyried yn drosedd casineb

Mae’r Swyddfa Gartref yn diffinio trosedd casineb fel unrhyw ddigwyddiad sy’n drosedd, y mae’r dioddefwr neu unrhyw un arall yn ystyried ei fod wedi’i ysgogi gan ragfarn neu gasineb. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i achosi tramgwydd neu elyniaeth yn unig, a gallai fod yn gysylltiedig â hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd unigolyn. Mae mwy o wybodaeth am drosedd casineb ar wefan y Swyddfa Gartref.Yn sgil Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 crëwyd amrywiaeth newydd o droseddau wedi’u dwysáu gan hil a chrefydd, megis:

  • Ymosodiad oherwydd cymhelliad hiliol, yn cynnwys ymosodiad cyffredin, gwir niwed corfforol, niwed corfforol difrifol a chlwyfo.
  • Difrod troseddol oherwydd cymhelliad hiliol, gan gynnwys graffiti hiliol, difrod i eiddo a llosgi bwriadol (cynnau tanau).
  • Tref gyhoeddus/aflonyddu oherwydd cymhelliad hiliol, gan gynnwys ymddygiad sy’n achosi (neu’n debygol o achosi) aflonyddwch, trallod neu ofn trais.

Yn sgil Deddf Casineb Hiliol a Chrefyddol 2006 mae’n drosedd i ddefnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol gyda’r bwriad o greu casineb yn erbyn unrhyw grŵp o bobl sy’n cael ei ddiffinio gan gredoau crefyddol neu ddiffyg credoau crefyddol.

Cyflwynodd Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ddedfrydau llymach am droseddau wedi’u hysgogi gan gasineb tuag at gyfeiriadedd rhywiol rhywun (erbyn hyn mae’n rhaid i lys dedfrydu ystyried hyn fel ffactor sy’n dwysáu’r drosedd, yn ogystal â chasineb ar sail hil neu grefydd). Mae mwy o wybodaeth yn yr arweiniad gan y Cyngor Canllawiau Dedfrydu ar gasineb fel ffactor sy’n dwysáu trosedd.

Yr heddlu (nid y darparwyr addysg) sy’n gyfrifol am ymchwilio ac ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau lle mae troseddau casineb wedi’u cyflawni. Dylid hysbysu’r heddlu o bob digwyddiad o’r math hwn cyn gynted â phosibl.

Os nad ydych chi am wneud hyn eich hunan, gallwch ofyn i’ch darparwr addysg wneud hynny.

Gallwch ddod o hyd i gyngor ar sut i ymdrin â bwlio homoffobig mewn ysgolion ar wefan Wired for Health.


Back to top^