Cael eich trin â pharch 

English Language Version : Being treated with respect

 

Mae gan fyfyrwyr mewn addysg, eu rhieni a phobl sy’n gweithio ym maes addysg hawl i gael eu trin yn deg a chyda pharch. Mae gan fyfyrwyr yr hawl i feddwl a mynegi eu hunain yn rhydd a chael eu haddysgu heb fygythiadau neu gamdriniaeth.

Dylai darparwyr addysg nid yn unig barchu’r hawliau hyn, ond hefyd geisio’u cefnogi’n ymarferol - yn y ffordd y maen nhw’n darparu addysg, yn y safonau a osodir ar gyfer ymddygiad ac yn y ffordd y maen nhw’n ymdrin â digwyddiadau.

Daeth mesurau newydd sy’n gwahardd gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd neu gred mewn addysg i rym ym mis Ebrill 2007. Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007 yw’r enw ar y mesurau sy’n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol. O ran crefydd a chred, Rhan 2, Deddf Cydraddoldeb 2006 yw’r enw ar y mesurau hyn.

Mae’r adran hon yn edrych ar rai o’r materion cyffredin ym maes addysg, gan gynnwys:

Parch at grefydd a chred

Gwisg ysgol

Ymdrin â bwlio