Ym mha feysydd y ceir achosion o wahaniaethu ar sail hil? 

 

Mae gwahaniaethu yn y meysydd isod yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol.

On this page

 

Cyflogaeth

Mae’r Ddeddf yn amddiffyn gweithwyr cyflogedig rhag achosion o wahaniaethu, ac yn amddiffyn partneriaethau hefyd.

Os yw rhywun yn gwahaniaethu ar sail lliw neu genedligrwydd, mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu o ran swydd fel partner cwmni, cyn belled â bo’r cwmni’n cynnwys chwech neu fwy o bartneriaid.

Er hynny, mae’r gwaharddiad yn erbyn gwahaniaethu ar sail tarddiad hiliol, ethnig neu genedlaethol yn ymestyn i gynnwys cwmnïau â llai na chwe phartner.

Mae’r Ddeddf hefyd yn berthnasol i aelodau undebau llafur (neu rai sy’n ceisio bod yn aelodau o undebau llafur) ac yn berthnasol i gyrff neu awdurdodau sy’n rhoi caniatâd neu gymwysterau er mwyn ymuno â phroffesiwn a byd masnach.

Mae unigolion sy’n bwriadu dilyn neu sydd wrthi’n dilyn hyfforddiant galwedigaethol wedi’u cwmpasu gan y Ddeddf hefyd. Yn yr un modd, ni all asiantaethau cyflogaeth wahaniaethu yn erbyn unigolion sy’n derbyn eu gwasanaethau.

Hefyd, ni ddylai’r Ysgrifennydd Gwladol wahaniaethu wrth ddarparu cyfleusterau gwasanaethau o dan Adran 2 Deddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973. Mae hyn yn berthnasol i Gomisiwn Gwasanaethau’r Gweithlu.

Mae pob agwedd ar gyflogaeth, gan gynnwys recriwtio, dethol, dyrchafu, trosglwyddo, hyfforddi, cyflog a buddion, colli swydd, diswyddo ac amodau a thelerau’r gwaith wedi’u hamddiffyn hefyd.

Am eithriadau, ewch i ‘Pryd mae achos o wahaniaethu ar sail hil yn gyfreithlon?


Back to top^  

Addysg

Mae’r Ddeddf ddiwygiedig yn berthnasol i bob ysgol a choleg a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol neu awdurdodau addysg (yn yr Alban), ysgolion a cholegau annibynnol (sy’n codi ffioedd), colegau addysg bellach, ysgolion arbennig, darparwyr addysg y blynyddoedd cynnar, prifysgolion, awdurdodau addysg lleol a llywodraethwyr ysgolion a cholegau a byrddau ysgolion (yn yr Alban). Mae’r Ddeddf ddiwygiedig yn cynnwys trefniadau derbyn disgyblion, sut mae disgybl neu fyfyriwr yn cael ei drin, a materion eithrio, yn ogystal â phenderfyniadau awdurdodau addysg lleol ac awdurdodau addysg (yn yr Alban), fel penderfyniadau ar anghenion addysgol arbennig.


Back to top^  

Nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau

Mae’r Ddeddf ddiwygiedig yn berthnasol i bawb sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau i’r cyhoedd, er enghraifft: gwestai, siopau, banciau, cwmnïau yswiriant, gwasanaethau ariannol, sinemâu, theatrau, bariau, bwytai, tafarndai, mannau lluniaeth neu adloniant, gwasanaethau cludiant a theithio, a gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus a chan unrhyw broffesiwn neu faes. Mae’n anghyfreithlon i wrthod rhoi gwasanaeth, neu i beidio â rhoi gwasanaeth o’r un safon ag eraill.

Am eithriadau, ewch i ‘Pryd mae achos o wahaniaethu ar sail hil yn gyfreithlon?


Back to top^  

Tai

Mae’r Ddeddf ddiwygiedig yn cwmpasu gwerthu, gosod neu reoli eiddo (gan gynnwys adeiladau busnes), gan ei gwneud hi’n anghyfreithlon i wahaniaethu wrth gyflawni’r gweithgareddau hyn.

Am eithriadau, ewch i ‘Pryd mae achos o wahaniaethu ar sail hil yn gyfreithlon?


Back to top^  

Stopio a chwilio

Mae gwahaniaethu ar sail hil ym maes gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys stopio a chwilio, wedi’i gynnwys dan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich stopio a’ch chwilio gan yr heddlu yn uniongyrchol oherwydd eich hil neu liw eich croen (neu’n anuniongyrchol oherwydd eich steil gwallt neu’r iaith rydych chi’n ei siarad) yna fe allwch chi gwyno eich bod wedi bod yn destun achos o wahaniaethu ar sail hil. Mae’r un peth yn hefyd yn wir os gawsoch chi’ch trin yn llai ffafriol ar sail hil na rhywun a gafodd – neu a fyddai – wedi’i drin yn ystod stopio a chwilio, er enghraifft sut y siaradwyd â chi.


Back to top^  

Unrhyw swyddogaeth gyhoeddus

Ers 2 Ebrill 2001, mae’r Ddeddf yn cwmpasu holl swyddogaethau awdurdodau lleol oedd wedi’u heithrio cyn hynny.

Mae hyn yn golygu bod swyddogaethau asiantaethau’r llywodraeth o reoli neu orfodi’r gyfraith bellach yn rhan o’r Ddeddf, gan gynnwys yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y gwasanaeth prawf, Tollau Tramor a Chartref, y gwasanaeth mewnfudo a’r gwasanaeth carchardai; a swyddogaethau rheoleiddio’r awdurdodau lleol, gan gynnwys iechyd yr amgylchedd, safonau masnach, trwyddedu ac amddiffyn plant.

Os ydych chi’n credu bod unrhyw awdurdod cyhoeddus wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, naill ai’n uniongyrchol, anuniongyrchol neu trwy erledigaeth, ers 2 Ebrill 2001, mae gennych hawl i gwyno gerbron llys sirol yng Nghymru a Lloegr neu lys siryf yn yr Alban. Bydd cwynion penodol am achosion o wahaniaethu sy’n ymwneud â phenderfyniadau am statws mewnfudo yn cael eu hystyried fel rhan o weithdrefn apelio mewnfudo un-stop.

Mae’r Ddeddf hefyd yn eich amddiffyn rhag achos o wahaniaethu lle bo cwmni preifat neu sefydliad gwirfoddol yn cyflawni swyddogaeth gyhoeddus ar ran awdurdod cyhoeddus. Mae hyn yn golygu fod y Ddeddf yn berthnasol i fater disgyblaeth mewn carchardai preifat yn ogystal â rhai sydd dan ofal y Gwasanaeth Carchardai.

Am eithriadau, ewch i ‘Pryd mae achos o wahaniaethu ar sail hil yn gyfreithlon?


Back to top^