Rhagfarn yn ysgogi plant 

Heddiw mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn lansio fersiwn Cymraeg o ffilm ymgyrchu wedi'i animeiddio - 'Dy DDewis Di’.

 

View this page in English

Heddiw mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn lansio fersiwn Cymraeg o ffilm ymgyrchu wedi'i animeiddio  - 'Dy DDewis Di’.

Mae’r achlysur yn digwydd yn stondin y Comisiwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd lle bydd cyfle i chi weld y ffilm cyn iddi chael ei rhyddhau mewn sinemau led led Cymru yr haf yma.

Mae'r ffilm wedi'i seilio ar syniadau buddugol disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Coryton yng Nghaerdydd, a chymerodd ran yng nghystadleuaeth Prosiect Croeso'r Comisiwn. Lansiwyd y gystadleuaeth ym mis Ionawr eleni i ddod o hyd i syniad a oedd yn herio gwahaniaethu a rhagfarn. Roedd yn agored i holl bobl ifanc Cymru sy'n 25 oed neu’n iau.

Y wobr oedd gweld y syniad gwreiddiol hwnnw’n dod yn fyw drwy waith Calon, cwmni animeiddio gwobrwyedig yng Nghymru a gweld y gwaith animeiddio ar y sgrîn mewn sinemâu ledled Cymru.

Aeth Cyfarwyddydd Cenedlaethol Cymru, Kate Bennet, i gwrdd â'r plant i ddweud wrthynt  am y newyddion cyffrous. Imogen Buckley, Ben Davies, Mathew Johnson, Sam Willson a Cameron Hunter, i gyd yn 10 ac 11 oed, oedd enillwyr y brif wobr. Daeth eu syniad i'r brig o blith 1,000 o ymgeiswyr led led Gymru.

Pan gawson nhw'r newyddion eu bod wedi ennill dywedodd Cameron: 'Roeddwn i’n teimlo’n falch ond yn methu credu ein bod wedi ennill', ac yn ôl Ben:  'Roeddwn i wedi fy synnu ein bod wedi ennill oherwydd roedd y gystadleuaeth yn agored i grŵp oedran eang ac roeddwn i'n meddwl y byddai’r plant hŷn yn ennill'.

Dywedodd Kate Bennett: 'Rydym ni wrth ein bodd yn dod â’r ffilm fer hon i’r Eisteddfod Genedlaethol, cartref diwylliant yng Nghymru. Mae’r ffilm ganlynol  yn dyst o’r doniau creadigol safonol  sydd gennym yma . Roedd safon y cynigion yn eithriadol o uchel, ac rydym mor falch o gael cystal ymateb . Dewiswyd y syniad buddugol am symlrwydd ei neges ac am iddo gynnwys agweddau gwahanol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Ac yn fwy na dim, mae'n nodi’n hollol glir bod bwlio a gwahaniaethu yn gwbl annerbyniol.'

Wrth son am y syniad sy’n sail i'r gwaith buddugol dywedodd Sam: 'Wnaethon ni ddewis bwlio  oherwydd ei fod yn berthnasol i ysgolion a buom yn meddwl am y prif resymau pam y caiff plant eu bwlio.'

Ychwanegodd Imogen: 'Weithiau rwy'n teimlo’n flin dros y rhai sy'n bwlio achos mae gyda nhw eu rhesymau trist eu hunain am ymddwyn fel ly. Mae ein hanimeiddiad yn gwneud i mi deimlo'n eithaf trist oherwydd bod y math hwn o fwlio yn digwydd mewn ysgolion ac rydw i am ei atal'.  Gofynna Mathew: 'Nid yw’n gweld unrhyw ddiben i ragfarn, pam na allwn ni i gyd fyw mewn heddwch?'

Dangosir yr animeiddiad am ddeuddeg o’r gloch yn stondin y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliay Dynol. Bydd ar gael i'w wylio a'i lwytho i lawr o'n safle YouTube gyda'r allweddair: EqualityHumanRights.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Sue Dye yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar 07976325863.

Caiff y ffilm ei lansio yn stondin y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am ddeuddeg o’r gloch ar ddydd Mercher 6 Awst. Mae croeso i gynrychiolwyr y cyfryngau  fod yn bresennol.

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae'r Prosiect Croeso yn fenter gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, wedi'i ariannu ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru.
  • Nod Prosiect Croeso yw hyrwyddo trafodaeth a dealltwriaeth rhwng gwahanol gymunedau i helpu pawb i elwa o Gymru amrywiol ac i’w mwynhau. Er y caiff hyn ei gyflwyno gan dîm cymharol fach, gall gael effaith sylweddol.
    Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 a ysgwyddodd gyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.

Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar oedran, anabledd rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsryweddol, ac yn annog pobl i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Mae hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau, y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, ac i unigolion.