Cam wrth Gam I Gymru Tecach 

 

 

View this page in English

Cyfnewidfa Cydraddoldeb 2008 oedd y gynhadledd fawr gyntaf ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru. Daeth â phobl ynghyd sy'n cymryd rhan mewn rhwydwaith bywiog a ffyniannus sy'n anelu'n glir at y dyfodol .

Y themâu allweddol oedd cydweithio a phwysigrwydd arweinyddiaeth heb awdurdod.

Roedd yn bleser gennym groesawu'r Fonesig Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol newydd Llywodraeth y Cynulliad. Rhoddodd weledigaeth ysbrydoledig i ni ar gyfer newid. Teithiodd Sallie Glickman o Philadelphia, UDA i rannu model cyffrous o arweinyddiaeth gyda ni a luniwyd gan ei Bwrdd Buddsoddi yn y Gweithlu, sy'n helpu i drawsnewid ei dinas.

Clywodd y gynhadledd gan dri Chymro hefyd - Graham Jones, Ceri Harris a Wendy Thomas - sydd wedi cyflawni pethau hynod y tu hwnt i lefel eu hawdurdod.

I ddarllen adroddiad y gynhadledd a gwylio clipiau o'r digwyddiadau, dilynwch y dolenni isod: