English version here.
Dathliadau’r Comisiwn
Mae 2008 yn flwyddyn garreg filltir i hawliau dynol. Caiff dathliad pen-blwydd y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn 60 mlwydd oed ei nodi’n fyd eang ar ddydd Mercher 10 Rhagfyr, Dydd Hawliau Dynol Rhyngwladol.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r corff cenedlaethol sydd â’r cyfrifoldeb o hyrwyddo diwylliant hawliau dynol ym Mhrydain Fawr ac mae nifer o ddigwyddiadau i nodi’r dathliadau arwyddocaol hynny ar y gweill gennym.
Ein hamcan cyffredinol yw hyrwyddo bod gan bawb hawliau dynol. Rydym am nodi pen-blwydd y Datganiad yn 60 mlwydd oed drwy herio camsyniadau o hawliau dynol a thrwy annog y cyhoedd ym Mhrydain i ddeall a dathlu hawliau dynol a’r gwerthoedd sydd yn sail iddynt - tegwch, urddas a pharch.
Edrychwch allan am y digwyddiadau canlynol.
- Yr Eiddom ni drwy Hawl : Diwrnod i’r teulu dynol
Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol a fydd yn cyd-ddigwydd ag arddangosfa 'Taking Liberties' amgueddfa Prydain. Bydd yn cynnwys perfformiadau, gweithdai ac adrannau teulu a sinema wrth ddathlu pen-blwydd y Datganiad. Fe ddigwydd yr achlysur yn y ‘British Library, Euston Road’ar ddydd Sul 7 Rhagfyr o 1-5yp. Bydd tocynnau ar gael i’w cadw yn agosach i’r digwyddiad, bydd manylion ar ein gwefan.
- Hawliau Menywod: Beth yn awr?
Bydd dadl ar ‘Hawliau Menywod; Beth yn awr? gyda newyddiadurwraig y ‘Guardian’ Polly Toynbee yn y gadair yn digwydd fel rhan o raglen ddigwyddiadau ‘Taking Liberties’ amgueddfa Prydain. Bydd ein Prif Weithredwr Nicola Brewer yn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn felly peidiwch â’i golli! Bydd y ddadl yn digwydd rhwng 6.30 a 8yp ar 4 Rhagfyr. Bydd manylion ar gael yn yr e-gylchlythyr nesaf.
Darllenwch Ddatganiad Cyffredinol 1948 (safle allanol)
Canfyddwch ragor am y Datganiad Cyffredinol, ei gyd-destun a’i arwyddocâd i hawliau dynol heddiw (safle allanol)
Canfyddwch ragor am ddathliad 60 mlynedd y Datganiad (safle allanol)