Wrth i Ymholiad Hawliau Dynol gasglu'r tystiolaeth rydym eisiau clywed oddi ar gymaint o bobl ag sy'n bosibl, yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth ac unigolion eraill. Rydym wedi cynhyrchu ein ffurflen ymateb galw am dystiolaeth mewn amryw o fformatau. Mae rhai ohonynt ar gael i'w lawrlwytho yma tra bo eraill ar gael i'w harchebu am ddim o'n llinell gymorth.
Galw am dystiolaeth: ffurflen ymateb i gynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau/grwpiau cydraddoldeb
Er mwyn derbyn gwybodaeth ynglyn a galw am dystiolaeth a'r ffurflen ymateb mewn fformatau neu ieithoedd eraill,neu drwy'r post, a wnewch chi gysylltu ein llinell gymorth.
A wnewch chi ymateb erbyn 21 Mehefin 2008
Gallwch ddanfon eich ymateb:
- dros yr ebost i HRI@equalityhumanrights.com
- dros y ffacs 0207 407 7557 – at sylw tim yr Ymchwiliad Hawliau Dynol
- drwy'r post i'r cyfeiriad rhadbost canlynol –
FREEPOST
RRUY-EJHS-CKGT
Human Rights Inquiry
Equality and Human Rights Commission
3 More London, Riverside
Tooley Street
London SE1 2RG
- os ydych chi angen rhoi'ch ateb dros y ffon neu ffon testun, cysylltwch a'n llinell gymorth.
Yr hyn a wnawn gyda'r wybodaeth yr ydych wedi danfon i ni
Fe wnawn ni ddefnyddio'r dystiolaeth yr ydych wedi ei roi inni at wybodaeth ein adroddiad terfynol ac argymhellion.Ni allwn gynnwys pob ateb yn unigol; sut bynnag, efallai y byddwn yn dymuno cyfeirio at dystiolaeth arbennig a gynigwyd. Os fasai'n well gennych i ni adrodd eich tystiolaeth yn ddienw, gadewch wybod i ni ar eich ffurflen.
Bydd o gymorth mawr, sut bynnag os wnewch chi rhoi eich manylion cysylltu i ni a gwybodaeth gyffredinol am eich hun/eich sefydliad fel y gallwn sicrhau bod gennym amrywiaeth o atebion o bob rhan o gymdeithas a hefyd er mwyn eich cysylltu os bydd angen inni egluro unrhywbeth yr ydych wedi dweud wrthym.
Am wybodaeth am ein safle ar gyfrinachedd, ewch i: Datganiad cyfrinachedd
Am ragor o gymorth ar hawliau dynol cyn i chi lenwi'r ffurflen, ewch i adran hawliau dynol ar ein wefan.