Ymchwiliad Hawliau Dynol 

 

View this page in English

Adlywerchiad poblRydym yn cynnal ymchwiliad i ganfod sut mae hawliau dynol yn gweithio ym Mhrydain, yn unol â’n pwerau o dan adran 16 Deddf Cydraddoldeb 2006. Lansiwyd yr ymchwiliad ar 21 Ebrill 2008 ac rydym yn disgwyl cwblhau’r broses erbyn mis Rhagfyr.

RSS logo dolen RSS: Ymchwiliad Hawliau Dynol

On this page

 

Diben yr ymchwiliad

O safbwynt y Comisiwn, mae’r ymchwiliad hwn yn cynrychioli man cychwyn ar gyfer ein gwaith ar hawliau dynol. Ein nodau ar gyfer y gwaith hwn yw:

  • hyrwyddo dealltwriaeth o bwysigrwydd hawliau dynol
  • annog arferion da mewn perthynas â hawliau dynol
  • hyrwyddo ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a diogelu hawliau dynol, ac
  • annog awdurdodau cyhoeddus i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol (adran 9 y Ddeddf Cydraddoldeb).

Gobeithiwn erbyn diwedd yr ymchwiliad y bydd gennym ni:

  • set o ganlyniadau dibynadwy am gyflwr hawliau dynol ym Mhrydain, ac
  • argymhellion ar sut i ddatblygu’r agenda hawliau dynol.


Back to top^  

Casglu tystiolaeth

Byddwn yn casglu tystiolaeth ar gyfer yr ymholiad drwy ddefnyddio nifer o ddulliau. Byddwn yn galw am dystiolaeth gan unigolion, sefydliadau a darparwyr gwasanaeth, yn seiliedig ar eu profiadau, yn gadarnhaol ac yn negyddol. Rydym yn comisiynu ymchwilio ar feysydd penodol yr ydym wedi nodi y bydd yn gymorth i’r ymholiad.Rydym, hefyd yn disgwyl defnyddio dulliau eraill, fel paneli ymholi er mwyn clywed tystiolaeth gan dystion.

Mwy am gasglu tystiolaeth


Back to top^  

Cylch gorchwyl

Rydym wedi ymgynghori â phobl am gylch gorchwyl yr ymchwiliad hwn. Mae ‘cylch gorchwyl’ yn golygu amcanion a chwmpas yr ymchwiliad.

Darllenwch y cylch gorchwyl.


Back to top^  

Sut fydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal?

Rydym ni wedi penodi’r Fonesig Nuala O'Loan i gadeirio’r ymchwiliad. Bu’n gweithio fel Ombwdsmon yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon am gyfnod, ac mae ganddi brofiad o arwain ymchwiliadau eraill. Mwy am y Fonesig Nuala O'Loan.

Francesca Klug fydd y comisiynydd arweiniol sy’n cynrychioli’r Comisiwn. Byddwn yn cyhoeddi pa gomisiynwyr eraill fydd yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad maes o law.

Dim ond yng Nghymru a Lloegr fydd yr ymchwiliad i gychwyn. Unwaith mae Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban yn weithredol, rydym yn gobeithio ymestyn yr ymchwiliad i’r Alban.

Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar:

  • agweddau’r cyhoedd tuag at y Ddeddf Hawliau Dynol
  • sut mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gweithio
  • sut mae’n cael ei defnyddio gan awdurdodau cyhoeddus a sefydliadau eraill lle bo’n briodol.

Darllenwch ein datganiad am lansiad yr ymchwiliad.


Back to top^