Casglu tystiolaeth 

 

 

women on busByddwn yn casglu tystiolaeth ar gyfer yr ymholiad drwy ddefnyddio nifer o ddulliau. Byddwn yn galw am dystiolaeth gan unigolion, sefydliadau a darparwyr gwasanaeth, yn seiliedig ar eu profiadau, yn gadarnhaol ac yn negyddol. Rydym yn comisiynu ymchwilio ar feysydd penodol yr ydym wedi nodi y bydd yn gymorth i’r ymholiad.Rydym, hefyd yn disgwyl defnyddio dulliau eraill, fel paneli ymholi er mwyn clywed tystiolaeth gan dystion.

Galwad am dystiolaeth

Rydyn ni angen eich help chi!

Bwriad ein hymchwiliad yw pennu sut mae awdurdodau cyhoeddus fel ysbytai, ysgolion neu swyddfeydd llywodraeth leol neu genedlaethol yn sicrhau eu bod yn trin pobl yn dda ac yn unol â gofynion cyfreithiol dan y Ddeddf Hawliau Dynol.

Er bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn uniongyrchol berthnasol i awdurdodau cyhoeddus, rydym hefyd yn awyddus i edrych ar sefydliadau preifat a gwirfoddol sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus, fel cartrefi gofal preifat neu wirfoddol a ariennir gan gyrff cyhoeddus. 

Rydyn ni angen eich help chi i greu darlun cywir o’r sefyllfa ar hyn o bryd fel y gallwn argymell gwelliannau ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymchwiliad yn canolbwyntio ar Gymru a Lloegr ond mae opsiynau i wneud gwaith tebyg neu gyfatebol yn yr Alban yn cael eu trafod gyda’r sefydliad newydd, Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban.

  • Ydych chi’n gweithio i sefydliad sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn unol â’r Ddeddf Hawliau Dynol?
  • Ydych chi’n gwybod am sefydliad sy’n trin ei gwsmeriaid gydag urddas a pharch neu’n addasu ei wasanaethau i weddu i anghenion unigolion gwahanol?
  • Neu ydych chi erioed wedi defnyddio gwasanaethau cyhoeddus a theimlo nad oeddech chi’n cael eich trin yn deg neu fod eich triniaeth yn groes i ofynion cyfreithiol dan y Ddeddf Hawliau Dynol o bosibl? 

Dywedwch wrthym am eich profiadau – da neu ddrwg – drwy lawrlwytho un o’n ffurflenni.

Ffurflen fer ydyw felly dylech ei llenwi mewn dim o dro. Bydd eich tystiolaeth yn hollbwysig i’n helpu i sicrhau bod yr ymchwiliad mor gynhwysfawr â phosibl.

I sicrhau bod eich cyfraniad yn cael ei ystyried wrth lunio adroddiad yr ymchwiliad, anfonwch eich ffurflen atom erbyn 15 Gorffennaf 2008.

I lawrlwytho’r ffurflen ymateb berthnasol, dilynwch un o’r dolenni isod: