Y Fonesig Nuala O’Loan 

 

 

Dame Nuala O'LoanBu’r Fonesig Nuala O’Loan yn Ombwdsmon yr Heddlu dros Ogledd Iwerddon, gyda’r cyfrifoldeb am ymchwilio i’r holl gwynion yn erbyn yr heddlu. (Gorffennodd ei chyfnod fel Ombwdsmon yr Heddlu ar 5 Tachwedd 2007.)

Mae’r Fonesig Nuala O’Loan yn gyfreithwraig gymwysedig a bu Cadair Jean Monnet mewn Cyfraith Ewropeaidd ganddi ym Mhrifysgol Ulster.

Mae hi wedi bod yn: Gadeirydd Pwyllgor Defnyddwyr Trydan Gogledd Iwerddon; Comisiynydd Arbennig dros Ymchwiliad Ffurfiol Cydraddoldeb Hiliol i Hiliaeth mewn Plismona yng Nghymru a Lloegr, Aelod o’r Awdurdod Heddlu; Is-gadeirydd Pwyllgor Cysylltiadau Cymunedol yr Awdurdod Heddlu; Aelod o Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Gogledd (Gogledd Iwerddon); Cynullydd System Gwyno'r GIG ar gyfer Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Gogledd; Aelod o’r Cyngor Defnyddwyr Cyffredinol, a Chynullydd y Grŵp Trafnidiaeth ac Ynni i’r Cyngor hwnnw; ac Arbenigwr Cyfreithiol i Gyngor Ymgynghorol Cwsmeriaid y Comisiwn Ewropeaidd. Am saith mlynedd, roedd y Fonesig Nuala O’Loan hefyd yn ymwelydd dalfa yng ngorsafoedd heddlu.

Mae hi wedi ysgrifennu mwy na 50 o erthyglau a chyhoeddiadau eraill am y gyfraith, plismona, ffydd a materion eraill. Yn ystod ei gyrfa mae hi wedi siarad mewn cynadleddau di-rif, ac wedi rhoi cyngor i asiantaethau’r llywodraeth sy’n gyfrifol am blismona ac atebolrwydd yr heddlu ym Mrasil, De Affrica, yr Unol Daleithiau, Canada, yr Iseldiroedd, Gweriniaeth Iwerddon, Portiwgal a ledled y Deyrnas Unedig.

Y Fonesig Nuala O’Loan fydd yn cadeirio ein Hymchwiliad Hawliau Dynol.