Os ydych chi’n ystyried rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad ond eich bod am i rywbeth gael ei gadw’n gyfrinachol, darllenwch y dudalen hon sy’n egluro polisi’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfrinachedd a datgelu gwybodaeth.
Ar ôl darllen y dudalen hon, os oes gennych chi unrhyw bryderon rydych chi am eu trafod yn gyfrinachol, gallwch anfon e-bost at dîm yr ymchwiliad yn HRI@equalityhumanrights.gov.uk
Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 (‘y Ddeddf’) yn cynnwys rheolau penodol sy’n ymwneud â gwybodaeth a dderbynnir gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wrth gynnal ymchwiliad o dan adran 16 y Ddeddf:
o gyda chaniatâd pob unigolyn y mae’r wybodaeth yn berthnasol iddo
o yn adroddiad yr ymchwiliad
o at ddibenion cyflawni swyddogaethau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn perthynas â’i bwerau gorfodi
o wrth gydymffurfio â gorchymyn llys neu dribiwnlys
o os yw’r wybodaeth yn ddienw fel na ellir adnabod unrhyw un y mae’r wybodaeth yn berthnasol iddo
o at ddibenion achosion sifil neu droseddol y mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhan ohonynt
o os cafodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y wybodaeth dros 70 mlynedd cyn y dyddiad datgelu.
Ni fyddwn yn datgelu gwybodaeth a dderbynnir gennych chi neu’ch sefydliad yn ystod yr ymchwiliad oni bai ei bod yn perthyn i’r amgylchiadau cyfyngedig a amlinellir yn adran 6 (3) y Ddeddf. Fodd bynnag, gallwn gynnwys y wybodaeth dan sylw yn adroddiad yr ymchwiliad mewn ffordd a all olygu y bydd modd eich adnabod chi neu’ch sefydliad. Os nad ydych chi am i ni gynnwys gwybodaeth amdanoch chi neu’ch sefydliad yn adroddiad yr ymchwiliad, dylech gysylltu â ni i drafod y mater. Byddwn yn ystyriol o unrhyw bryderon sydd gennych chi ynglŷn â datgelu gwybodaeth, a gobeithio y byddwch chi’n teimlo’n hyderus wrth roi gwybod i ni am unrhyw faterion, gan gynnwys materion hawliau dynol sensitif yr ydych chi’n ymwybodol ohonynt.