Cyflwyno achos 

 

Os ydych chi’n credu bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn yn y gwaith ar sail rhyw, anabledd, hil, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, efallai y byddwch chi’n gallu cyflwyno achos yn erbyn eich cyflogwr.

On this page

 

Camau cyntaf

Yn aml, bydd yn bosibl datrys y mater heb gymryd camau cyfreithiol.  Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gallu trafod y mater gyda’ch rheolwr, eich cyflogwr neu’r adran bersonél (ond dylech chi wneud nodiadau rhag ofn y bydd angen cofnod o’r hyn a ddigwyddodd yn nes ymlaen). 

Os na allwch chi ddatrys y mater yn anffurfiol, y cam nesaf yw dilyn gweithdrefn gwyno’ch cwmni.  Rhaid bod gan bob cyflogwr weithdrefn i ymdrin â chwynion a dylech chi ofyn am gopi ohoni.

Mae yna dri cham i’r weithdrefn gwyno sylfaenol.

  • rhowch eich cwyn ar bapur: mae angen i chi esbonio beth yw’r broblem
  • trefnwch gyfarfod gyda’ch cyflogwr: gallwch chi ddod a chydweithiwr neu gynrychiolydd undeb gyda chi i’r cyfarfod; a rhaid i’ch cyflogwr ddweud wrthych beth mae’n bwriadu ei wneud am y broblem
  • trefnwch apêl: os nad ydych chi’n fodlon ag ymateb eich cyflogwr, gallwch chi apelio a bydd cyfarfod arall yn cael ei drefnu.

Os na fydd y weithdrefn gwyno'n gweithio, gallwch chi roi cynnig ar wasanaeth cyfryngu fel ACAS. Find out more about gyfryngu, cyflafareddu a chymodi.

Gellir cael cyngor ar ddatrys anghydfod gan Directgov.


Back to top^  

Tribiwnlysoedd cyflogaeth

Gall y broses o gyflwyno achos o wahaniaethu i dribiwnlys cyflogaeth fod yn gryn straen ac yn gostus, ac maent yn anodd eu hennill, felly dim ond os nad oes unrhyw ddewis arall posibl y dylech ystyried hyn.

Fodd bynnag, os byddwch chi’n llwyddo, fe allech chi fod yn gymwys i gael iawndal am golled ariannol, brifo teimladau neu niwed i’ch iechyd. Cael mwy o wybodaeth am y canlyniadau posibl mewn tribiwnlys cyflogaeth tribiwnlys cyflogaeth.

Mae yna gyfyngiadau amser caeth ar gyfer mynd ag achos i dribiwnlys. Mae angen i chi gyflwyno datganiad ysgrifenedig i’ch cyflogwr o’ch cwyn o fewn tri mis a 28 diwrnod o’r adeg y digwyddodd y gwahaniaethu. Fel rheol, bydd gennych chi dri mis ar ôl cyflwyno’ch cwyn ysgrifenedig i gyflwyno’ch cais.

I gael gwybod mwy ewch i Dribiwnlysoedd Cyflogaeth: a allant ymdrin â’ch cwyn? Llinell ffôn ymholiadau: 08457 959 775.


Back to top^  

Cymorth a chyngor

Er y gallwch chi gynrychioli’ch hun mewn tribiwnlys, dylech gael cyngor cyfreithiol gan rywun sydd â phrofiad o achosion gwahaniaethu.  Mae yna nifer o sefydliadau y gallwch chi fynd atynt, fel:

  • Undeb llafur.  Os ydych chi’n aelod o undeb llafur, dywedwch wrth eich cynrychiolydd; os nad ydych chi, efallai y bydd undeb llafur yn fodlon eich derbyn fel aelod a gallwch chi gael cyngor gan Gyngres yr Undebau Llafur; llinell ffôn gwybod eich hawliau: 0870 600 4882
  • Cymdeithas staff: os oes yna gymdeithas staff lle’r ydych chi’n gweithio, gofynnwch am gymorth a chyngor.

 Nid yw’n costio dim i gyflwyno cais i dribiwnlys, ond ni allwch gael Cymorth Cyfreithiol i dalu am gynrychiolydd fel cyfreithiwr.  Fodd bynnag, efallai y byddwch chi’n gallu cael ychydig o gymorth cyfreithiol am ddim ar ddechrau’r broses, ond bydd hyn yn dibynnu ar brawf modd ac ni fydd yn cynnwys cymorth i dalu am gynrychiolydd.

I gael gafael ar eich gwasanaeth cyngor cyfreithiol agosaf, ewch i'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol.

Gallwch gael cyngor cyfreithiol annibynnol gan eich canolfan gyfraith leol

Efallai y bydd rhai sefydliadau gwirfoddol yn cynnig cymorth cyfreithiol am ddim, fel:  


Back to top^