Cyfartal a Gwahanol 

 

 

Detholiad o storïau ysbrydoledig

View this page in English

Rydyn ni i gyd yn wahanol ond mae pob un ohonom yn haeddu cael ein trin yn deg. Casgliad o hanesion pobl o bob oed a chefndir cymdeithasol yw Cyfartal a Gwahanol sy’n egluro beth sy’n eu gwneud nhw’n wahanol a sut mae hynny wedi effeithio ar eu bywydau.

Isod mae detholiad o’r hanesion ysbrydoledig hyn, sydd hefyd i’w gweld ar sianel YouTube y Comisiwn. Cafodd y straeon hyn eu ffilmio yn ystod haf 2007. Byddwn ni’n cyhoeddi clipiau newydd bob wythnos felly cofiwch ymweld â ni eto.

Mae gan bawb hawl i degwch.

Detholiad o storïau ysbrydoledig

Boris Johnson videoBoris Johnson

Mae gwleidydd Ceidwadol yn trafod ei gysylltiad â ‘Phrydeindod’ er gwaetha’r ffaith bod ei gyndeidiau yn dod o bedwar ban byd.

 

 

 Amy Stretch ParkerAmy Stretch Parker

Mae cerddor yn disgrifio’i anhwylder deubegwn a pham na fyddai am gael gwared arno fyth.

 

 

Colin Putney videoColin Putney

Mae Colin yn disgrifio sut deimlad yw cael Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) a sut mae’n cyfrif ei hun yn lwcus ei fod yn cael rhywfaint o seibiant nawr ac yn y man.

 

Tyfany Booker videoTyfany Booker

Mae un oedd yn arfer niweidio’i hun yn disgrifio’i phrofiad a pham ei bod hi nawr am helpu pobl eraill i roi’r gorau i’r arfer.

 

 

Chris McIvor videoChris McIvor

Mae un a wnaeth fyw trwy’r Swnami ar ddydd Gŵyl San Steffan yn disgrifio’r effaith ar ei fywyd ar ôl dychwelyd i’w gartref.